Skip to content

Sylfaen yn Arwain at Wyddorau Cymdeithasol

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae ein blwyddyn sylfaen mewn gwyddorau cymdeithasol yn flwyddyn ychwanegol o astudio ar ddechrau eich gradd. Ar ôl cwblhau eich blwyddyn sylfaen yn llwyddiannus, gallwch gael mynediad at ystod eang o raddau Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ac Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd.

Bwriad y flwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Rydym yn eich croesawu i astudio blwyddyn sylfaen os ydych yn dod o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd a phrofiadau, gan gynnwys:

  • Os nad ydych yn siŵr pa bwnc yr hoffech arbenigo ynddo
  • Os nad oes gennych y cyfuniad cywir o bynciau ar gyfer mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 1
  • Os nad ydych yn bodloni’r gofynion disgwyliedig ar gyfer mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 1
  • Os ydych chi’n dychwelyd i addysg ar ôl amser i ffwrdd

Mae ein blwyddyn sylfaen yn eich galluogi i symud ymlaen i’r graddau canlynol sy’n cael eu cyflwyno yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ac Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd.

Waeth beth fo’ch gradd a ddewiswyd uchod, byddwch yn astudio’r un modiwlau trwy gydol eich blwyddyn sylfaen cyn arbenigo mewn maes penodol.

Mae strwythur y cwrs yn fodiwlaidd ac mae’n cynnwys modiwlau yn:

  • Sgiliau Academaidd
  • Penderfynyddion Seicogymdeithasol Iechyd
  • Seicoleg
  • Ymchwil a Rhifedd
  • Y Person a’r Gymdeithas
  • Cyflwyniad i Ddadansoddi Beirniadol a Myfyrio

Drwy gydol y flwyddyn sylfaen, caiff myfyrwyr gymorth gan diwtor personol penodedig yn ogystal â thîm addysgu’r modiwl.

Defnyddir amrywiaeth o strategaethau addysgu i adlewyrchu gofynion y pwnc arbennig, yr amrywiaeth yn arddulliau dysgu’r myfyrwyr, y profiad proffesiynol sy’n bodoli o fewn y grŵp a lefel a math o astudiaeth sydd ei angen yn ystod y rhaglen.

Ymhlith y dulliau addysgu mae darlithoedd, gwaith grŵp bach sesiynau ymarferol, y defnydd o’r Rhith Amgylchedd Dysgu (VLE), gweithdai, tiwtorialau a dysgu annibynnol.

Mae hon yn rhaglen llawn amser a disgwylir i fyfyrwyr ymglymu drwy fynychu sesiynau addysgu/dysgu yn rheolaidd a chwblhau tasgau a aseinwyd mewn pryd. Ar gyfartaledd, mae 10 awr o gynnwys a addysgir bob wythnos. Yn ychwanegol, disgwylir i fyfyrwyr wneud 10 – 15 awr o hunan-astudiaeth/dysgu annibynnol bob wythnos gan y bydd hyn yn help i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn ogystal â’u galluogi i gwblhau eu haseiniadau.

Ategir dysgu myfyrwyr gan y system tiwtoriaid personol a fydd yn cynnig cymorth academaidd a bugeiliol i’r myfyrwyr.

Mae’r tîm addysgu cyfan yn addysgu’n weithredol ar wahanol lwybrau’r rhaglen ac yn gallu cynnig cymorth a chyngor i fyfyrwyr o ran y cyfleoedd astudio sydd ar gael ar gyfer is-raddedigion.

Asesir pob modiwl a astudir er mwyn arddangos a darparu tystiolaeth am gyflawniad academaidd y myfyrwyr. Nod yr asesiadau ydy sicrhau bod myfyrwyr wedi datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth israddedig.

Ymhlith y strategaethau addysgu maee:

Arholiadau – Gall y rhain gynnwys traethodau academaidd, cwestiynau aml-ddewis a chwestiynau atebion byr.

Gwaith cwrs – Gallai hyn gynnwys traethodau academaidd, adroddiadau ymchwil, profion dosbarth, cyflwyniadau, posteri, astudiaethau achos, aseiniadau adfyfyriol a phortffolios.

Amlinellir Asesiadau penodol ar gyfer pob modiwl yn llawlyfr y modiwl a’u hategu ymhellach yn ystod sesiynau addysgu/dysgu.

Ar ddechrau’r flwyddyn caiff y myfyrwyr eu hamserlen asesu. Bydd hon yn rhoi manylion am natur a fformat yr asesu ynghyd â dyddiadau cyflwyno gwaith. Ceir gwybodaeth fwy manwl am bob asesiad, yn cynnwys y meini prawf marcio ar dudalen y modiwl perthnasol ar Moodle.

Cyflwynir ac eglurir asesiadau ar y cychwyn yn ystod y ddarlith berthnasol. Bydd arweinydd y modiwl yn cynnig cymorth gyda’r asesu ynghyd â chymorth ychwanegol yn y tiwtorialau grŵp.

Darperir adborth ar y gwaith cwrs yn electronig a chynigir adborth pellach yn ystod sesiynau a addysgir ac mewn cyfarfodydd gyda’r tiwtor personol.

Mae ein blwyddyn sylfaen yn eich galluogi i symud ymlaen i’r graddau a restrir yn yr adran ‘Cynnwys y Cwrs’ ar y dudalen we hon.

I gael gwybodaeth benodol am gyflogadwyedd a gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â’r graddau hyn, cyfeiriwch at dudalennau’r cwrs unigol.

Dylai fod gan ymgeiswyr, fel arfer, 5 TGAU yn cynnwys Iaith Saesneg (neu Gymraeg Mamiaith), Mathemateg* a Gwyddoniaeth gradd C neu uwch / gradd 4 neu uwch (ar gyfer ymgeiswyr sy’n meddu ar y TGAU diwygiedig yn Lloegr) ynghyd ag un o’r canlynol:

  • 48 o bwyntiau o gymwysterau 2 Lefel A o leiaf neu eu cyfwerth ar safon briodol ar gyfer mynediad i Addysg Uwch ar Lefel 4 ond mewn meysydd pwnc sy’n methu â chwrdd â gofynion mynediad y rhaglen radd israddedig o’u dewis.
  • 48 o bwyntiau o gymwysterau 2 Lefel A o leiaf neu eu cyfwerth mewn meysydd pwnc perthnasol i’w rhaglen radd israddedig o’u dewis, ond ar safon sy’n methu â chyrraedd gofynion mynediad i Addysg Uwch Lefel 4.

*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru yn sefyll arholiad diwygiedig Mathemateg TGAU, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Mathemateg – Rhifedd.

Caiff darpar fyfyrwyr sydd heb gwrdd â’r meini prawf uchod eu hystyried yn unigol ac efallai cael eu gwahodd i gyfweliad.

Os ydych yn astudio cyfuniad o’r uchod neu os na restrwyd eich cymhwyster, cysylltwch â naill ai’r Adran Dderbyniadau neu gyfeirio at Chwiliad Cwrs UCAS. Am ragor o wybodaeth ar gyfer ein gofynion mynediad, yn cynnwys cymwysterau o’r UE, cliciwch yma.

Gweithdrefnau Dethol:

Detholir fel arfer ar sail cais cyflawn UCAS a lle bo’n berthnasol ar gyfweliad.

Ymgeiswyr Rhyngwladol:

Bydd rhaid i fyfyrwyr lle nad Saesneg ydy eu mamiaith ddarparu tystiolaeth o safon rhugledd 6.0 IELTS o leiaf neu gyfwerth. Am fanylion llawn ar sut i wneud cais a chymwysterau iaith Saesneg, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Sut i Wneud Cais:

Dylid gwneud cais am y cwrs hwn ar-lein i UCAS ar www.ucas.com. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yn www.metcaerdydd.ac.uk/sutiwneudcais.

Myfyrwyr Aeddfed:

Ymgeisydd aeddfed ydy unrhyw un sydd dros 21 oed nad aeth i brifysgol ar ôl gadael yr ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed a cheir cyngor a gwybodaeth bellach yma.

Am ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu anfon e-bost at holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, yn berthnasol i’r flwyddyn sylfaen yn unig, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Janet Beauchamp:

E-bost: jbeauchamp@cardiffmet.ac.uk

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

  • Hyd

    1 flwyddyn yn llawn amser, gyda 3 neu 4 blynedd (gan gynnwys lleoliad) ychwanegol o astudio llawn amser yn ofynnol i gwblhau eich gradd ddewisol.