Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2025 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cynlluniwyd y flwyddyn Sylfaen hon i hwyluso mynediad i ystod eang o raddau anrhydedd llawn mewn Peirianneg a Chyfrifiadureg yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd.
Bwriad y flwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan roi’r cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr nad ydynt wedi cyflawni’r sgôr pwyntiau lefel A gofynnol (neu gyfwerth) i’r mynediad ym mlwyddyn gyntaf eu rhaglen radd ddewisol.
- Myfyrwyr aeddfed sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd gennych sylfaen gref o wybodaeth graidd y byddwch yn gallu ei chymhwyso i’ch dewis gwrs. Byddwch yn cael sylfaen drylwyr ac ymarferol yn y cysyniadau mathemateg a themâu cyfoes sy’n hanfodol i dechnoleg. Bydd modiwlau dewisol yn eich galluogi i deilwra eich astudiaethau i’ch diddordebau penodol a’ch gradd ddewisol, a bydd prosiect terfynol yn atgyfnerthu eich dysgu. Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil allweddol a sgiliau trosglwyddadwy i gynorthwyo astudiaeth bellach, ac yn cael eich integreiddio’n llawn i fywyd myfyriwr cyn symud ymlaen i flwyddyn 1.
Dyluniwyd strwythur y rhaglen fel bod Tymor 1 yn cael cyflwyniad eang i’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer unrhyw radd Technoleg. Mae Tymor 2 yn caniatáu i fyfyrwyr deilwra eu hastudiaethau i’w diddordeb penodol a’r rhaglen radd a ddewiswyd ganddynt yn y dyfodol trwy gwblhau un modiwl dewisol 40 credyd a phrosiect unigol wedi’i gynllunio i gydgrynhoi’r dysgu trwy gydol y Flwyddyn Academaidd.
Modiwlau Gorfodol:
- Mathemateg ar gyfer Technoleg (20 credyd)
- Themâu Cyfoes mewn Technoleg (20 credyd)
- Sgiliau Proffesiynol ac Academaidd (20 credyd)
- Prosiect Unigol (20 credyd)
Modiwlau Opsiynol (dewiswch un):
- Ystadegau a Sgiliau Rhaglennu (40 credyd)
- Ffiseg ac Electroneg (40 credyd)
Mae’r cwrs yn cysylltu â’r rhaglenni gradd anrhydedd canlynol a gyflwynir yn Ysgol Technolegau Caerdydd:
- Dylunio a Datblygu Gemau Cyfrifiadur - BSc (Anrh)
- Cyfrifiadureg - BSc (Anrh)
- Diogelwch Cyfrifiaduron - BSc (Anrh)
- Cyfrifiadura gyda Dylunio Creadigol - BSc (Anrh)
- Cyfrifiadureg a Gwyddor Data - BSc (Anrh)
- Peirianneg Systemau Electronig a Chyfrifiadurol - BEng / MEng (Anrh)
- Peirianneg Drydanol ac Electronig - BEng / MEng (Anrh)
- Peirianneg Roboteg - BEng / MEng (Anrh)
- Peirianneg Meddalwedd - BSc (Anrh)
Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu drwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.
Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.
Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy’n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.
Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.
Bydd y rhaglen yn cysylltu â’r rhaglenni Gradd Anrhydedd canlynol a’r rhaglenni Meistr Integredig a gaiff eu cyflawni yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd:
- Dylunio a Datblygu Gemau Cyfrifiadur - BSc (Anrh)
- Cyfrifiadureg - BSc (Anrh)
- Diogelwch Cyfrifiaduron - BSc (Anrh)
- Cyfrifiadura gyda Dylunio Creadigol - BSc (Anrh)
- Cyfrifiadureg a Gwyddor Data - BSc (Anrh)
- Peirianneg Systemau Electronig a Chyfrifiadurol - BEng / MEng (Anrh)
- Peirianneg Drydanol ac Electronig - BEng / MEng (Anrh)
- Peirianneg Roboteg - BEng / MEng (Anrh)
- Peirianneg Meddalwedd - BSc (Anrh)
I gael gwybodaeth benodol ar gyflogadwyedd a gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â’r rhaglenni gradd hyn, edrychwch ar dudalennau’r cyrsiau unigol.
Fel arfer, dylai fod gan ymgeiswyr:
- 5 TGAU o leiaf (Graddau A*-C) gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg* ar radd C / 4 neu’n uwch
- ar gyfer llwybrau gradd Cyfrifiadureg - 64 Pwynt Tariff UCAS o 2 Safon U i gynnwys CC
- ar gyfer llwybrau gradd Peirianneg - 54 Pwynt Tariff UCAS o 2 Safon U o leiaf a fydd yn cynnwys graddau DD, mewn Mathemateg, Ffiseg neu bwnc Technoleg; neu 64 Pwynt Tariff UCAS o 2 Safon U o leiaf a fydd yn cynnwys graddau CC o leiaf mewn pynciau na fydd yn berthnasol
*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru a fydd yn sefyll Mathemateg TGAU ddiwygiedig, byddwn yn derbyn Mathemateg neu Mathemateg – Rhifedd.
Os byddwch yn astudio cyfuniad o’r uchod neu os bydd eich cymhwyster heb ei restru, a wnewch chi gysylltu â Derbyniadau neu edrych yma Chwilio Cyrsiau UCAS ar gyfer y gofynion mynediad. Bydd modd cael rhagor o wybodaeth ar ein gofynion mynediad ni, gan gynnwys cymwysterau oddi wrth yr UE, drwy glicio yma.
Caiff ymgeiswyr na fydd â’r cymwysterau mynediad isaf arferol eu cyfweld a’u hystyried yn unigol ar sail eu dysgu blaenorol neu eu cefndir gwaith. Ar gyfer ymgeiswyr a fydd ond yn cymryd 2 Safon U neu gyfwerth, caiff hyn ei ystyried ynghyd â gweddill y proffil academaidd, ac efallai y gwnawn roi cynnig graddedig yn lle cynnig a fydd yn defnyddio Tariff UCAS.
Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Bydd angen i fyfyrwyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddyn nhw roi tystiolaeth eu bod yn rhugl i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth. I gael manylion llawn ar sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddewis:
Fel arfer bydd y dewis yn seiliedig ar dderbyn cais UCAS cyflawn a chyfweliad, lle bydd hynny’n berthnasol.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yma: www.ucas.com. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yn www.metcaerdydd.ac.uk/sutiwneudcais.
Cydnabod Dysgu Blaenorol a Throsglwyddo Credydau i Flwyddyn 2 a 3:
Os bydd diddordeb gennych i drosglwyddo credydau o sefydliad arall er mwyn astudio ym Met Caerdydd ar gyfer cwrs lle y gellir ymuno â blwyddyn 2 a/neu 3, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y tudalen Cydnabod Dysgu Blaenorol. Cysylltwch â Derbyniadau os bydd unrhyw ymholiadau gennych ar Gydnabod Dysgu Blaenorol.
Myfyrwyr Hŷn:
Ymgeisydd hŷn fydd unrhyw un a fydd dros 21 na fuodd mewn prifysgol wedi gadael yr ysgol neu goleg. Bydd Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr hŷn a gellir cael rhagor o gyngor a gwybodaeth yma.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bost ar holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Paul Jenkins:
- E-bost: PJenkins2@cardiffmet.ac.uk
- Ffôn: +44 029 2041 6070
-
Cod UCAS
Mae gan bob cwrs gradd ei god UCAS blwyddyn sylfaen ei hun. I gael y cod UCAS perthnasol, dilynwch y dolenni i'r cwrs rydych am ei astudio a restrir o dan 'Cynnwys y Cwrs', a gwnewch gais ar wefan UCAS.
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Dechnolegau Caerdydd
-
Hyd
1 flwyddyn yn llawn amser, gyda 3 neu 4 blynedd (gan gynnwys lleoliad) ychwanegol o astudio llawn amser yn ofynnol i gwblhau eich gradd ddewisol.