Skip to content

Technoleg Ddeintyddol - Gradd BSc (Anrh)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Nod cwrs gradd BSc (Anrh) Technoleg Deintyddol ydy cynhyrchu technegwyr deintyddol sy’n gallu saernïo yn fanwl iawn waith adferiad ar ddannedd, prosthesis ac offer (fel capiau a phontydd unigryw ar gyfer dannedd neu declynnau ortho-ddeintyddol). Dysgir dylunio a gweithgynhyrchu offer gan ddefnyddio dulliau ymarferol (analog) a digidol. Nod y cwrs yw ehangu dealltwriaeth o feysydd technoleg ddeintyddol newydd a rhai sy’n datblygu, yn enwedig digideiddio.

Cynhelir y cwrs mewn cydweithrediad agos gydag Ymddiriedolaeth Ysbyty Deintyddol Prifysgol Cymru, a fydd yn cyflenwi, asesu a bod yn gyfrifol am draean o’r cwrs. Fel technegydd deintyddol israddedig, byddwch yn gweithio gyda deintyddion ac ymgynghorwyr dan hyfforddiant yn ail semester blwyddyn olaf eich cwrs.

Wedi'i achredu gan

General Dental Council Logo

Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol

01 - 03

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd wyddonol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
  2. Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu’r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.

Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Yn ogystal, bydd angen i chi basio’r flwyddyn sylfaen gyda marc cyffredinol o 70% ar yr ymgais gyntaf. Gweler y gofynion mynediad am fanylion pellach.

Mae pob modiwl yn werth 20 credyd oni nodir yn wahanol.

Blwyddyn Un:

  • Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 1*
  • Anatomeg a Ffisioleg Deintyddol
  • Prosthodonteg y gellir eu Tynnu
  • Prosthodonteg Sefydlog
  • Deunyddiau Deintyddol Cymhwysol
  • CAD/CAM mewn Deintyddiaeth

Blwyddyn Dau:

  • Prosthodonteg y gellir eu Tynnu
  • Prosthodonteg Sefydlog
  • Orthodonteg
  • Dulliau Ymchwil*
  • Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 2*

Blwyddyn Tri:

  • Prosiect (40 credyd)*
  • Deintyddiaeth Ddigidol
  • Paratoi ar gyfer Ymarfer a’r Lleoliad Gwaith

Yn ystod blwyddyn tri, byddwch ymgymryd â chyfnod o fod ar brofiad gwaith yn cynnwys Ymddiriedolaeth Ysbyty Deintyddol Prifysgol Cymru. Bydd y cyfnod profiad gwaith yn eich galluogi i ennill y profiad angenrheidiol ym maes saernïo offer dannedd, gwaith adferiad a phrosthesis ar gyfer cleifion.

*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Bydd dull ymchwilgar, cwestiynu, chwilfrydig o ymdrin â’r pynciau, y mae angen ei ddeall a’i gaffael ar gyfer cofrestru, fel y bydd technolegydd cymwys yn datblygu.

Yn ystod eich amser ar y cwrs byddwch chi’n profi nifer o ddulliau addysgu a dysgu. Bydd rhain yn cynnwys darlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol, aseiniadau tîm ac hunanasesiadau ac asesiadau cymheiriaid. Bydd rhai sesiynau dysgu ar y cyd gyda myfyrwyr rhan amser, defnyddio e-bortffolios a defnydd helaeth o’r amgylchedd dysgu rhithwir lle gellir cyrchu nodiadau darlithoedd, fideos o arddangosiadau ymarferol, eitemau cyflwyno darlithoedd a chyn-bapurau ar-lein. Byddwch hefyd yn cael tiwtor personol a fydd ar gael i drafod eich cynnydd academaidd ac a allai eich cyfeirio at arbenigwyr eraill ar gyfer materion eraill lle bo angen.

Bu cysylltiad hir a sefydledig ag Ysbyty Deintyddol Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, gan arwain at y sefydliad hwnnw’n darparu cyfraniad mawr i’r rhaglen radd hon. Bydd dau semester yn yr ail a’r drydedd flwyddyn yn cael eu cyflwyno a’u hasesu gan staff o’r Ysbyty Deintyddol. Felly mae myfyrwyr yn gallu cael profiad gwerthfawr o gynhyrchu offer dannedd, adferiadau a phrosthesis ac, yn eu blwyddyn olaf, gweld yr eitemau hyn yn cael eu gosod ar gleifion.

Y ffynhonnell o gefnogaeth bersonol sy’n cael ei hystyried yr un mwyaf defnyddiol gan fyfyrwyr cyfredol ydy’r polisi ‘drws agored’ a weithredir gan Dîm y Rhaglen lle gwahoddir myfyrwyr i gysylltu ag unrhyw un o’r staff addysgu amser llawn sydd ar gael yn y swyddfa staff yn ystod oriau swyddfa arferol.

Mae pob modiwl yr ydych yn ei wneud yn cael ei asesu. Bydd natur yr asesiad yn amrywio yn ôl natur a phwrpas y modiwl. Yn y bôn, defnyddir pum math o asesiad trwy gydol y rhaglen:

Arholiadau Ffurfiol Ysgrifenedig (a gymerir fel arfer ar ddiwedd y flwyddyn academaidd); Aseiniadau Ymarferol (fel arfer bydd myfyrwyr yn cwblhau ymarferion technegol gyda chymorth gan ddarlithwyr trwy arddangosiadau, cyngor a chefnogaeth ymarferol); Arholiadau Ymarferol wedi’u Amseru (lle na fydd myfyrwyr yn cael unrhyw gymorth ymarferol, ond efallai y bydd arweiniad llafar ar gael wrth adeiladu darnau); Aseiniadau Ysgrifenedig (mae’r rhain yn brosiectau lle mae myfyrwyr yn defnyddio’r llyfrgell/canolfan adnoddau i gasglu a choladu gwybodaeth angenrheidiol neu i ddilyn astudiaeth achos), a Chyflwyniadau Llafar (mae hyn yn gofyn am gyflwyno testun i weddill y grŵp; gellir defnyddio asesiad cymheiriaid sylwadau).

Mae rhagolygon gyrfaol ein graddedigion yn ardderchog. Cyflogir technegwyr deintyddol yn y GIG, mewn labordai masnachol, practis preifat ac ysgolion deintyddol. O fewn y GIG ceir strwythur gyrfaol clir yn ymestyn o radd Uwch swyddog, Prif Swyddog ac Uwch Brif Swyddog. O fewn y sector masnachol, ar ôl ychydig o flynyddoedd o brofiad, byddai’n bosibl i fod yn berchennog neu reolwr labordy masnachol.

Cynigion Nodweddiadol

Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus. Bydd angen i chi basio’r flwyddyn sylfaen gyda marc cyffredinol o 70% ar yr ymgais gyntaf.

  • Pwyntiau tariff: 96
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU Gradd C / 4 neu uwch i gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair lefel A. Graddau CC i gynnwys Gwyddoniaeth neu bwnc Celf/Technoleg Dylunio.
  • Pynciau perthnasol: Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Seicoleg, Addysg Gorfforol, TG, Mathemateg, Technoleg Bwyd, Gwyddor yr Amgylchedd neu Ddaearyddiaeth yn cael ei hystyried yn Wyddoniaeth gyfatebol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM o fewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.
  • Lefel T: Pasio (C+) mewn pwnc Gwyddoniaeth wedi’i ystyried.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: O fewn pwnc Gwyddoniaeth.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): O leiaf un Gradd 5 mewn Gwyddoniaeth Lefel Uwch.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: H2 i gynnwys Gwyddoniaeth. Ystyrir pynciau lefel uwch gyda gradd H4 o leiaf yn unig.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD i gynnwys Gwyddoniaeth. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Rhaid i ymgeiswyr arddangos sgiliau medrusrwydd a’u dwylo, creadigrwydd, sylw i fanylion, a phrofiad o dechnoleg deintyddol yn ogystal a gwybodaeth am ofal iechyd ac anatomi dynol. Rhaid hefyd arddangos y gallu i gyfathrebu’n effeithiol a brwdfrydedd yn y maes.

Bydd gofyn i chi greu portffolio sy’n arddangos darn o waith rydych wedi’i greu gan ddefnyddio’ch sgiliau deheurwydd â llaw. Dylai eich portffolio gynnwys disgrifiad ysgrifenedig heb fod yn fwy na 750 o eiriau a sawl delwedd sy’n darlunio’r darn a’r broses y tu ôl iddo – bydd rhagor o fanylion ac arweiniad yn cael eu darparu ar ôl i chi gyflwyno’ch cais.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

 

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Am ymholiadau cyffredinol cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Chet Geisel.

  • Cod UCAS

    B840 (gradd 3 blynedd), B84F (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

  • Hyd

    3 blynedd yn llawn amser.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.