Skip to content

Seicoleg a Throseddeg - Gradd BSc (Anrh)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Heriwch eich barn ar droseddu trwy seicoleg.

Mae’r BSc (Anrh) Seicoleg a Throseddeg yn cynnig sylfaen ragorol mewn dwy ddisgyblaeth eang a chysylltiedig. Gan adeiladu ar gryfder ein gradd seicoleg achrededig, mae’r cwrs newydd hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o sut mae unigolion yn cael eu llunio gan fioleg a lleoliadau cymdeithasol, a byddwch yn gallu mynegi hyn yng nghyd-destun trosedd a newid cymdeithasol.

Mewn seicoleg, byddwch yn astudio prosesau sy’n sail i feddwl, rhesymu a rhyngweithio cymdeithasol. Mewn troseddeg, byddwch yn dysgu am rôl theori cyfiawnder troseddol, damcaniaethau trosedd a sut mae’r rhain yn berthnasol i bolisi ac ymarfer.

Bydd gennych fynediad at gyfleoedd cyfnewid a gwirfoddoli byd-eang trwy gydol eich astudiaethau i wella’ch CV a gwneud y gorau o’ch rhagolygon gyrfa.

Bydd gennych hefyd fynediad i gyfres o gyfleusterau a labordai gan gynnwys traciwr llygaid Tobii, Biosemi EEG, a’r Tŷ Trosedd.​

Wedi'i achredu gan

The British Psychological Society Logo

Y Gymdeithas Seicolegol Prydeinig

01 - 03

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudiaeth sylfaen. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig y cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, gwybodaeth a hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Fyfyrwyr sy’n dyheu am gofrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen gradd anrhydedd yn y gwyddorau cymdeithasol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, nad ydynt wedi cyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
  2. Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu’r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.

Darganfod mwy am y flwyddyn sylfaen.

Noder: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Modiwlau Blwyddyn Un

  • Sylfeini Damcaniaeth Droseddegol
  • Materion Cysyniadol a Hanesyddol mewn Seicoleg
  • Hanfodion Gwybyddiaeth
  • Bioseicoleg a Niwrowyddoniaeth Wybyddol
  • Cynnal a Chyfathrebu Ymchwil
  • Archwilio’r System Cyfiawnder Troseddol

 

Modiwlau Blwyddyn Dau

  • Dulliau Ymchwil 1
  • Systemau Cymharol Cyfiawnder Troseddol
  • Seicoleg Feirniadol, Gymdeithasol a Datblygiadol
  • Dulliau Ymchwil 2
  • Seicoleg Wybyddol a Biolegol Gymhwysol
  • Bygythiad, Risg, a Niwed

 

Modiwlau Blwyddyn Tri

  • Hil a Rhyw Troseddeg
  • Cosb, Carchardai, a Phenoleg
  • Dynladdiad a Throseddau Treisgar
  • Seicoleg Fforensig Gymhwysol
  • Prosiect

Bydd tîm ymroddedig o staff Troseddeg a Seicoleg sy’n weithgar ym maes ymchwil gan gynnwys tiwtor personol yn eich cefnogi drwy gydol eich amser gyda ni.

Mae’r rhaglen gradd israddedig yn darparu ystod o asesu, gyda’r nod o gynhwysiant yn ganolog iddi. Mae asesiadau wedi’u cynllunio i ddarparu profiadau dilys i’r myfyrwyr ddangos y cymwyseddau byd go iawn y byddai’n ofynnol iddynt eu defnyddio mewn cyd-destunau proffesiynol.

Cwblheir yr asesiadau naill ai ar sail unigol neu grŵp. Mae gan fodiwlau asesiadau integredig: traethodau beirniadol, arddangosfeydd, portffolios a senarios byw. Mae’r rhain i gyd yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau myfyrwyr, i ddangos eu gallu i gyd-fynd â chymwyseddau’r byd go iawn.

Rhoddir dyddiadau cyflwyno ar gyfer asesiadau i fyfyrwyr ar ddechrau pob modiwl, yn ogystal ag amserlen asesu ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan i’w helpu i gynllunio a rheoli eu hamser yn effeithiol. Caiff myfyrwyr adborth unigol ar eu gwaith sy’n nodi cryfderau a meysydd i’w gwella.

Bydd graddedigion yn datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy o’u gradd, gan gynnwys sgiliau cyfrifiadura, cymhwysedd ystadegol; meddwl beirniadol; ymchwil llyfrgell; ymchwil empirig (mewn dulliau ansoddol a meintiol); gweithio mewn tîm a sgiliau annibynnol; sgiliau cyfathrebu (ysgrifennu, llafar, a chyflwyniadau poster). Bydd gan raddedigion ddealltwriaeth ragorol o sut mae unigolion yn cael eu llunio gan fioleg a lleoliadau cymdeithasol a byddant yn gallu mynegi hyn yng nghyd-destun trosedd a newid cymdeithasol.

Ar ôl graddio bydd gennych amrywiaeth o opsiynau gyrfa ar gael o fewn seicoleg gymhwysol a’r system cyfiawnder troseddol. Bydd opsiynau ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig bellach ym meysydd troseddeg a seicoleg, yn ogystal â symud i waith cymdeithasol, gwaith ieuenctid, addysgu a thai er enghraifft.

Byddwch hefyd yn gallu gwneud cais am gyrsiau ôl-raddedig, fel MSc Seicoleg Fforensig, yn ogystal â gweithio gyda Seicolegwyr Cynorthwyol o fewn y GIG.

Cynigion Nodweddiadol

Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion arferol sy’n berthnasol i ddechrau blwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig Blwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.

  • Pwyntiau tariff: 96-112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys graddau BC. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DMM.
  • Lefel T: Pasio (C+) – Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): O leiaf dau Radd 5 mewn pynciau Lefel Uwch.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau CD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Am ymholiadau cyffredinol cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch â Dr Joe Davies: E-bost: JLDavies@cardiffmet.ac.uk

  • Cod UCAS

    CM80 (gradd 3 blynedd), CM8F (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)

  • Lleoliad

    Campws Llandaf, Campws Cyncoed

  • Ysgol

    Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

  • Hyd

    3 blynedd yn llawn amser.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.