Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd ein gradd BSc (Anrh) Iechyd yr Amgylchedd achrededig driphlyg yn eich paratoi i fod yn weithiwr proffesiynol uchel ei barch mewn gyrfa a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan bwysig yn y gymdeithas.
Mae’r BSc (Anrh) mewn Iechyd yr Amgylched ym Met Caerdydd yn rhoi cyfle i astudio ar gyfer pum cyfle gyrfa posibl o fewn un maes disgyblaeth, gan gynnwys, Diogelwch Bwyd, Tai, Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle, Diogelu’r Amgylchedd a themâu creiddiol Iechyd y Cyhoedd, Epidemioleg ac Asesu Risg.
Mae ein tîm addysgu yn cynnwys ymarferwyr profiadol o’r sectorau cyhoeddus a phreifat a bydd eu gwybodaeth yn eich galluogi i ddod yn weithiwr proffesiynol cyflawn yn y maes.
Mae gennym ni gyfleoedd lleoliad gwaith ardderchog yn y sector preifat a cyhoeddus, a byddwch yn cael y cyfle i ymgymryd â nifer o deithiau maes yn y DU a thramor i gyfoethogi eich profiad dysgu.
Os ydych eisiau gweithio mewn swydd sy’n heriol, yn rhoi boddhad ac sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, efallai mai Iechyd yr Amgylchedd yw’r hyn yr ydych yn chwilio amdano. Gwyliwch y fideo hwn gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd i weld drosoch eich hun.
Wedi'i achredu gan
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol.
Mae dau lwybr sylfaen ar gael, a gall ymgeiswyr ddewis a ydynt am astudio blwyddyn sylfaen yn y Gwyddorau Iechyd neu’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Darganfod mwy am y blynyddoedd sylfaen:
Bwriad y blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd wyddonol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
- Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu'r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.
Trwy’r cwrs, byddwch yn astudio meysydd craidd, yn cynnwys Diogelwch Bwyd, Tai, Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle. Amddiffyn yr Amgylchedd a’r themâu sylfaenol sef Iechyd y Cyhoedd, Epidemioleg ac Asesu Risg.
Blwyddyn Un:
Bydd y rhaglen yn cychwyn wrth gyflwyno Iechyd yr Amgylchedd mewn cyd-destun byd-eang, yn cyflwyno'r myfyrwyr i sialensiau iechyd yr amgylchedd yn hanesyddol a chyfoes. Byddwch yn dysgu’r holl sgiliau academaidd hanfodol i allu astudio ar lefel gradd. Byddwch yn astudio penderfynyddion iechyd yn gyfochrog â gwyddorau amgylcheddol cyn symud ymlaen i ystyried rôl yr amgylchedd byw a’r gweithle ar iechyd yn cynnwys tai, iechyd a diogelwch a diogelwch bwyd. Ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen, byddwch yn astudio chwe modiwl:
- Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 1*
- Rheoli Diogelwch Bwyd
- Penderfynyddion Iechyd
- Amgylchedd y Gweithle
- Gwyddorau Iechyd yr Amgylchedd
- Amgylchedd Byw
Blwyddyn Dau:
Yn yr ail flwyddyn byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth ac yn dechrau eu cymhwyso i dasgau a sefyllfaoedd y byddwch yn delio â nhw ar ôl i chi raddio. Bydd egwyddorion ac arferon diogelu’r cyhoedd yn cael eu haddysgu ar draws holl feysydd iechyd yr amgylchedd. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ystyried rôl data a pherthnasedd hybu iechyd wrth reoli effeithiau iechyd o’ch gwaith. Byddwch yn cael eich cyflwyno i ddulliau ymchwil a byddwch yn dewis pwnc ar gyfer eich prosiect terfynol. Byddwch yn cael cymorth i sicrhau ac ymgymryd â lleoliad gwaith fel elfen wreiddiedig o'r cwrs.
Modiwlau’r ail flwyddyn ydy:
- Egwyddorion Amddiffyn y Cyhoedd
- Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol 2*
- Dulliau Ymchwil*
- Asesu a Gwella Iechyd y Cyhoedd
- Amddiffyn y Cyhoedd ar Waith
Blwyddyn Tri:
Yn y flwyddyn olaf byddwch yn cadarnhau eich sgiliau a’ch gwybodaeth drwy astudio pedwar modiwl. Byddwch yn ymgymryd â darn mawr o astudiaeth annibynnol â chymorth a datblygu’ch sgiliau ym maes amddiffyn y cyhoedd a rheolaeth gynaladwy o fusnes i gyfyngu ar yr effeithiau ar iechyd a’r amgylchedd. Byddwch hefyd yn ymgymryd â gweithgaredd copa o ddylunio ymyriadau ar gyfer iechyd yr amgylchedd, ar gyfer iechyd a datblygiadau cynaladwy a gwerthuso’r cyfryw ymyriadau gan ddefnyddio adnoddau a thechnegau cydnabyddedig. Modiwlau’r flwyddyn olaf ydy:
- Achosion Diogelu Iechyd
- Systemau Rheoli Cymhwysol
- Ymyriadau ar gyfer Iechyd a Datblygiad Cynaladwy
- Prosiect*
*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau dysgu ac addysgu megis darlithoedd, seminarau, ymweliadau, sesiynau ymarferol, dysgu ar sail problemau, astudiaethau achos ac ymarferion chwarae rôl. Cefnogir yr holl addysgu gan amgylchedd dysgu rhithwir Moodle a Microsoft Teams, sy'n helpu myfyrwyr i gael mynediad at wybodaeth pan fo angen. Defnyddir nodiadau, darllen a byrddau trafod i gefnogi dysgu myfyrwyr.
Drwy’r rhaglen radd, mae’r oriau cyswllt yn amrywio. Mae ein haddysgu ar y campws yn bennaf trwy weithdai, seminarau a darlithoedd a chaiff y rhain eu cefnogi gan weithgareddau ac adnoddau ar-lein. Dylai eich amser dysgu gyda'r staff a'ch cyfoedion gael ei gefnogi gan amser astudio hunan-ymroddedig.
Mae cynllun tiwtor personol yn cynnig cymorth academaidd a bugeiliol i’r myfyrwyr o’r flwyddyn gyntaf ymlaen ac mae’n annog myfyrwyr i osod a chyflawni eu nodau academaidd a gyrfaol drwy bob blwyddyn o'r rhaglen.
Mae’r holl staff addysgu yn weithredol ynghlwm wrth yr Academi Addysg Uwch gyda nifer yn ennill gwobrau a chydnabyddiaeth am eu harferion addysgu blaengar.
Mae asesu yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau yn cynnwys:
- Gwaith cwrs
- Asesiadau ymarferol
- Cyflwyniadau a phosteri
- Gwaith grŵp
- Asesiad cymheiriaid
- Cyfweliad proffesiynol
- Arholiadau ysgrifenedig
Darperir yr holl adborth ar asesiadau yn electronig a gall fod mewn amrywiaeth o fformatau yn cynnwys yn ysgrifenedig, ar fformat sain a fideo.
Darperir adborth ychwanegol drwy gydol y rhaglen yn ystod sesiynau a addysgir a chyfarfodydd gyda‘r tiwtor personol.
Ar ddechrau pob tymor bydd y myfyrwyr yn cael manylion am y rhaglen asesu ar gyfer y tymor hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys union natur a fformat yr asesu, meini prawf yr asesiad a manylion y dyddiadau cyflwyno gwaith.
Lluniwyd asesiadau i efelychu nifer o sefydliadau o ddydd i ddydd yn y gweithle. Mae hyn yn cynnig profiad ymarferol i’r myfyrwyr o’r hyn gallan nhw dod ar ei draws a’i ddisgwyl cyn mynd i mewn i gyflogaeth.
Mae astudio gradd Iechyd yr Amgylchedd yn llwybr i mewn i nifer helaeth o yrfaoedd.
O fewn y sector preifat mae pum disgyblaeth y radd yn agor ystod eang o gyfleoedd gyrfaol. Mae’r rhain yn cynnwys ymgynghoriaeth, rolau archwilio a chydymffurfio â rheoliadau o fewn cwmnïau canolig neu fawr eu maint yn y DU a thramor.
O fewn llywodraeth leol, mae proffesiwn ymarferydd iechyd amgylcheddol yn uchel ei pharch a chyflogir ymarferwyr iechyd amgylcheddol gan awdurdodau lleol drwy Brydain. Mae'r lluoedd arfog a chyrff iechyd cyhoeddus hefyd yn cynnig opsiynau gyrfaol cadarn i ymarferwyr iechyd amgylcheddol:
Mae ein graddedigion yn gweithio ym mhob un o’r meysydd canlynol:
- Adrannau Iechyd Amgylcheddol Awdurdod Lleol
- Llywodraeth ganolog a’i hasiantaethau (e.e. Asiantaeth Safonau Bwyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru/Lloegr, Asiantaeth yr Amgylchedd, Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch)
- Y lluoedd arfog (Y Fyddin, Y Llynges a’r Llu Awyr)
- Cwmnïau Gwyliau a Theithio
- Adwerthwyr mawr megis Tesco a Sainsbury’s
- Ymgynghoriaeth breifat
- Cymdeithasau Tai
- Academia
- Tramor
- Datblygiad Iechyd Rhyngwladol
Mae cyfraddau cyflogaeth graddedigion y cwrs yn uchel iawn. Mae’r enw da sydd i’r cwrs a chynnwys y modiwl ar Gyflogadwyedd Broffesiynol ynddo yn cynorthwyo hyn. Nod y modiwl hwn yw darparu profiad gwaith ystyrlon a chymorth gan weithwyr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant i ddatblygu CVs cryf, datganiadau personol ar gyfer ceisiadau am swyddi a'r wybodaeth a'r doniau sydd eu hangen ar gyfer y broses ymgeisio..
Ymhlith cyfleodd ar gyfer astudiaeth bellach, mae cwrs MSc Diogelwch Galwedigaethol, Iechyd a Llesiant a chwrs Meistr Iechyd Cyhoeddus Cymhwysol yn ogystal â nifer o ysgoloriaethau ymchwil.
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen mewn naill ai Iechyd neu’r Gwyddorau Cymdeithasol, sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.
- Pwyntiau tariff: 96-104
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys graddau CC. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DMM.
- Lefel T: Pasio (C+).
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): O leiaf dau Radd 5 mewn pynciau Lefel Uwch.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
- Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Am ymholiadau cyffredinol cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Gayle Davis.
- E-bost: gdavis@cardiffmet.ac.uk
- Ffôn: 029 2020 5786
-
Cod UCAS
B910 (gradd 3 blynedd), B91F (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen Gwyddorau Iechyd), B9BF (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen Gwyddorau Cymdeithasol)
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
-
Hyd
3 blynedd yn llawn amser.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.