Skip to content

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Cydberthynol) - Gradd BSc (Anrh)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Dim ond i fyfyrwyr meddygol yn y DU y mae eu ‘prifysgol eu hunain’ yn eu hystyried yn addas ar gyfer rhaglen cydberthynol y mae’r radd BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Cydberthynol) hon yn agored. Mae hyn fel arfer ar ôl y cyfnod astudio canolradd/cyn-glinigol ond gall amrywiadau fodoli ar draws y gwahanol ysgolion meddygol. Dydy’r rhaglen hon ddim yn gwrs ‘atodol’. Trwy ymgymryd â’r radd hon, byddwch yn integreiddio â myfyrwyr ar flwyddyn olaf y radd ‘BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff’ ac yn cael cyfle i weithio yn amgylchedd heriol chwaraeon ac ymarfer corff, o fewn labordai gwyddor chwaraeon a chyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf.

Byddwch yn astudio:

Cydberthynol – Lefel 6 yn Unig

Gorfodol:

  • SSP6000 – Prosiect Annibynnol
  • SSP6125 – Chwaraeon Amlddisgyblaethol a Gwyddor Ymarfer Corff

Opsiynol:

Dewiswch un grŵp o dri o’r isod:

  • SSP6126 – Biomecaneg Chwaraeon
  • SSP6128 – Ffisioleg Perfformiad Chwaraeon
  • SSP6130 – Seicoleg Chwaraeon

Neu:

  • SSP6127 – Iechyd a Biomecaneg Adferiad
  • SSP6129 – Ffisioleg Ymarfer Corff ar gyfer Iechyd
  • SSP6131 – Seicoleg Ymarfer Corff

Mae dulliau dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn sail i nodau addysgol a chanlyniadau dysgu pob un o’n rhaglenni a’n modiwlau. Gall dulliau dysgu ac addysgu gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir hefyd yn agwedd annatod o’r pecyn dysgu sy’n cefnogi anghenion ein myfyrwyr.

Mae darlithoedd arweiniol yn cyflwyno pynciau a chysyniadau allweddol, tra bod seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar gymhwyso cysyniadau allweddol gyda’r nod o wella profiad ac ymgysylltiad myfyrwyr. Byddwch hefyd yn cwrdd â thiwtoriaid ar sail un i un. Fel ysgol, rydyn ni’n gweithio’n galed i ddarparu cyfleoedd dysgu myfyriwr-ganolog sy’n darparu amgylchedd dysgu hyblyg o ansawdd uchel.

Mae dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso datblygiad eich rhesymu critigol, ac yn cymell integreiddio ymarfer corff a theori. Trwy gydol eich rhaglen, byddwch yn profi dysgu dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunan-gyfeiriedig, gan gynyddu annibyniaeth a myfyrio a’ch annog i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.

Mae ein dulliau addysgu a dysgu yn ymgorffori sgiliau ‘EDGE’ Met Caerdydd (Moesegol, Byd-eang, Digidol ac Entrepreneuraidd) a byddwch yn cael arweiniad da i arddangos y priodoleddau graddedig a ddisgwylir gennych mewn byd gwaith cynyddol gystadleuol. Ein nod ydy eich helpu chi i ddatblygu’n weithwyr proffesiynol myfyriol ac ysgolheigion critigol.

Yn eich rhaglen chwaraeon ym Met Caerdydd, byddwch yn dod ar draws profiad dysgu, o’ch cyfnod sefydlu hyd nes i chi raddio, sy’n gydlynol ac yn datblygu’ch hunaniaeth yn eich rhaglen astudio.

Mae’r strategaethau asesu ar gyfer pob modiwl yn amrywio i sicrhau bod y dull mwyaf priodol yn cael ei weithredu ar gyfer maes eich astudiaeth. Mae dulliau asesu wedi’u cynllunio i wella’ch profiad dysgu ac i gydnabod eich bod wedi cyflawni’r canlyniadau dysgu sy’n gysylltiedig â phob modiwl. Mae asesu hefyd yn sicrhau eich bod wedi cyflawni’r safon sy’n ofynnol i symud ymlaen i’r cam nesaf neu i fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad (fel y’i mynegir gan y FHEQ a’r CQFW). Mae asesiadau’n cefnogi’ch profiad dysgu trwy ddarparu cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn asesiadau ffurfiannol a chrynodol i brofi’ch gwybodaeth, eich gallu, eich sgil a’ch dealltwriaeth gritigol ac hefyd i ddatblygu eich sgiliau hanfodol perthnasol i’r gweithle. Asesir y modiwlau israddedig gan gyfuniad o fathau o asesu. Er enghraifft:

  • gwaith cwrs ysgrifenedig
  • cyflwyniadau poster
  • cyflwyniadau llafar
  • portffolios
  • arholiadau gyda llyfrau a rhai heb lyfrau
  • sgiliau ymarferol
  • gweithgareddau eraill a gynlluniwyd i asesu, datblygu a gwella sgiliau academaidd a chyflogadwyedd

Disgwylir i chi gwblhau prosiect terfynol fel rhan o’r asesiad o’ch gradd anrhydedd. Mae prosiectau terfynol yn ddarnau pwysig o waith a allai fod yn brosiect ymchwil, arloesi, ymgynghori neu’n seiliedig ar y gymuned.

Ar ôl cwblhau eu gradd feddygol yn llwyddiannus, gallai graddedigion llwyddiannus o’r cwrs hwn weithio ym maes meddygaeth chwaraeon ac ymarfer corff, er enghraifft gydag athletwyr elitaidd, timau a sgwadiau cenedlaethol, neu gymryd rhan mewn gweithgareddau hybu iechyd o fewn awdurdod lleol neu ymddiriedolaeth gofal iechyd.

Rhaid bod ymgeiswyr wedi pasio, ar eu hymgais gyntaf, yr holl fodiwlau yng nghyfnod canolradd eu hastudiaethau meddygol. Rhaid i ymgeiswyr hefyd gael cymeradwyaeth eu hysgol feddygol gyfredol.

Ymgeiswyr Rhyngwladol

Bydd angen i fyfyrwyr heb fod â Saesneg fel eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais ac am y cymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau rhyngwladol ar y wefan.

Gweithdrefn Ddethol

Yn y lle cyntaf, fe’ch cynghorir i gysylltu â chyfarwyddwr y rhaglen (gweler ‘Cysylltu â Ni’). Yna dylid gwneud cais trwy UCAS. Sylwer, er mai dyddiad cau ‘Ystyriaeth Gyfartal’ UCAS ydy Ionawr 15fed, bydd ceisiadau’n dal i gael eu hystyried hyd at ddechrau’r rhaglen.

Dydyn ni ddim yn cynnig Diwrnodau Agored penodol ar gyfer y rhaglen hon ond, trwy Gyfarwyddwr y Rhaglen, gallwch drefnu ymweliad anffurfiol i gwrdd ag aelodau staff a gweld y cyfleusterau.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud cais am y cwrs hwn ar-lein i UCAS. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yn www.metcaerdydd.ac.uk/sutiwneudcais.

Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) a Throsglwyddo Credydau i Flwyddyn 2 a 3

Os oes diddordeb gyda chi mewn trosglwyddo credydau o sefydliad arall i astudio ym Met Caerdydd am gwrs sy’n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a/neu 3 cewch ragor o wybodaeth am hyn a sut i wneud cais ar y dudalen RPL. Cysylltwch â Derbyniadau os oes gennych unrhyw ymholiad am Gydnabod Dysgu Blaenorol.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol am y cwrs, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Chris Pugh:

  • Cod UCAS

    C605

  • Lleoliad

    Campws Cyncoed

  • Ysgol

    Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

  • Hyd

    1 flwyddyn yn llawn amser.