Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein gradd mewn Diogelwch Cyfrifiadurol (a elwir yn aml yn Diogelwch Seiber) yn archwilio’r technolegau a’r arferion sydd wedi’u cynllunio i ddiogelu rhwydweithiau, cyfrifiaduron a data rhag ymosodiad neu fynediad heb awdurdod. Mae seiberddiogelwch yn faes sy’n tyfu ym mron pob sector diwydiant, ac mae angen i sefydliadau o bob math a maint amddiffyn eu hunain rhag hacio, ymosodiadau a thorri data. Gallwch ddisgwyl i gynnwys cwrs a arweinir gan y diwydiant eich paratoi ar gyfer hyn sy’n cwmpasu’r egwyddorion allweddol sy’n sail i Ddiogelwch Cyfrifiadurol; diogelwch ymosodol, diogelwch amddiffynnol a llywodraethu diogelwch gwybodaeth.
Trwy ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai technegol ac astudiaethau achos byd go iawn, byddwch yn dysgu sut mae ymosodiadau’n gweithio, y bygythiadau a’r gwendidau tebygol, a’r dulliau a ddefnyddir gan ymosodwyr. Bydd ein labordy seiberddiogelwch Cisco newydd a’r holl offer priodol, yn eich helpu i roi theori ar waith gyda phecynnau cymorth safonol y diwydiant. Byddwch yn dysgu sut i gynnal profion hacio a dadansoddiad bregusrwydd mewn sefydliadau busnes i ddatblygu systemau diogel.
Byddwch yn cael y cyfle i ymuno â chymdeithasau dan arweiniad myfyrwyr fel Capture the Flag (CTF) a Merched mewn Seiberddiogelwch (WiCyS) lle mae cystadlaethau, cefnogaeth a rhannu cyfleoedd perthnasol yn cael eu hyrwyddo. Mae ein partneriaethau diwydiannol a phroffesiynol gyda sefydliadau fel cynllun Cyber First NCSC, Canolfan Seibergadernid Cymru, Thales (NDEC), Airbus, a Charmwood Risk Management yn cryfhau’r rhaglen ac yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr i chi.
Mae modiwlau’r cwrs wedi’u hintegreiddio â chynnwys ardystio proffesiynol fel Cisco Networking (CCNA) a Hacio Moesegol Ardystiedig (CEH) yn ogystal â chael eu hintegreiddio â hyfforddiant ar gyfer Archwilio Mewnol ISO270001 i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Felly, nid yw’n syndod bod ein graddedigion wedi mynd ymlaen i sicrhau rolau a lleoliadau o fewn sefydliadau sydd wedi’u hen sefydlu fel Admiral, Heddlu De Cymru, a Chanolfan Seibergadernid Cymru.
Y cwrs hwn oedd y radd baglor gyntaf yng Nghymru i dderbyn ardystiad dros dro gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC). Mae Met Caerdydd hefyd yn Bartner Academaidd i’r Sefydliad Siartredig Diogelwch Gwybodaeth (CIISec) ac yn academi a gymeradwyir gan CREST.
Wedi'i hachredu gan
Partneriaid
Cymdeithas Myfyrwyr
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
- Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.
Gradd
Mae’r rhaglen radd yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol, gydag ystod o opsiynau yn y flwyddyn olaf i ddatblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.
Mae gan fyfyrwyr hefyd yr opsiwn i gwblhau lleoliad blwyddyn o hyd mewn diwydiant rhwng Blwyddyn 2 a 3.
Mae pob modiwl yn 20 credyd, oni nodir yn wahanol.
Blwyddyn 1:
- Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu
- Egwyddorion Rhaglennu
- Bygythiadau ac Ymosodiadau
- Gwybodaeth, Risg a’r Gyfraith
- Dylunio Gwe a Chronfeydd Data
- Explore
Blwyddyn 2:
- Cyfrifiadura Corfforol
- Systemau a Chynhyrchion Diogel
- Pensaernïaeth a Gweithrediadau Seiberddiogelwch
- Diogelwch Meddalwedd
- Expand
- Rhwydweithiau a Diogelwch
Blwyddyn 3:
- Rheoli Seiberddiogelwch
- Seiberddiogelwch a Chrypograffeg
- Hacio Moesegol
- Prosiect Datblygu (40 credyd)
Modiwlau dewisol (dewiswch un):
- Profiad Gwaith Diwydiannol
- Offer a Thechnegau Lefel Isel ar gyfer Seiberddiogelwch
- Technolegau Newydd ym maes Seiberddiogelwch
- Fforensig
NODYN: Mae modiwlau dewisol yn dibynnu ar argaeledd a galw; felly, ni all pob modiwl dewisol redeg ar un Flwyddyn Academaidd.
Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu drwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.
Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.
Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy’n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.
Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.
Daw newyddion am y “seiber-ymosodiad” diweddaraf bron bob wythnos ond, er hyn, prin iawn, iawn yw’r bobl sydd â’r sgiliau priodol i gael delio â’r broblem. Mae hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar allu sefydliadau i atal yr ymosodiadau neu i ddelio â nhw. Bydd chwilio’n gyflym am “brinder sgiliau seiberddiogelwch” yn dangos i chi mor ddifrifol yw’r broblem – mewn adroddiad yn yr Independent, dim ond 31.6% o’r swyddi seiberddiogelwch gofynnol sydd wedi’u llenwi.
Gyda’r galw am raddedigion medrus yn cynyddu, bydd cwrs Diogelwch Cyfrifiadurol Met Caerdydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa heriol a buddiol mewn rôl flaengar yn amddiffyn busnes a seilwaith cenedlaethol y DU. Mae’n bosib cael profiad o’r byd go iawn yn rhan o’ch astudio drwy gwblhau lleoliad blwyddyn rhyngosod / interniaeth ddiwydiannol (opsiynol). Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, llwyddodd ein myfyrwyr i sicrhau lleoliadau mewn cynlluniau cystadleuol cenedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.
Wedi cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd rhagor o opsiynau ar gael i astudio ar gyrsiau ôl-raddedig a addysgir ar draws cyfrifiadura a systemau gwybodaeth yma ym Met Caerdydd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.
- Pwyntiau tariff: 104-112
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
- Lefel T: Teilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
- Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Vibhushinie Bentotahewa.
- E-bost: vibentotahewa@cardiffmet.ac.uk
-
Cod UCAS
G100 (gradd 3 blynedd), G10F (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Dechnolegau Caerdydd
-
Hyd
3 blynedd yn llawn amser.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
5 mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.