Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd ein gradd Cyfrifiadura â Dylunio Creadigol yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau cyfrifiadura gan ganolbwyntio’n benodol ar y cyfleoedd creadigol a dylunio a gyflwynir o fewn y ddisgyblaeth yma.
Yn ogystal â dysgu hanfodion datblygu systemau cyfrifiadurol a systemau ar sail meddalwedd, cewch eich annog i ymgorffori meddwl dylunio modern yn eich gwaith technegol. Yn ystod y rhaglen bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i egwyddorion rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron allweddol gan archwilio sut mae dylunio yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhyngweithio a phrofiad y defnyddiwr a rhyngweithio.
Fe’ch cyflwynir i ystod eang o dechnolegau ac offer a fydd yn hwyluso gwaith dylunio a chreu datrysiadau caledwedd a meddalwedd newydd, gan eich helpu i ddatblygu eich galluoedd dadansoddi wrth edrych ar brosesau dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl. Bydd hyn yn eich galluogi i sefydlu eich hun fel unigolyn ‘hybrid’ sydd a’r sgiliau i lenwi’r bwlch rhwng y byd technegol a’r byd creadigol i greu atebion arloesol i broblemau hen a newydd.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i weithio ar y cyd ag ysgolion eraill i helpu i feithrin eich sgiliau mewn disgyblaethau eraill. Yn benodol, mae gan ein gradd Cyfrifiadura â Dylunio Creadigol bartneriaeth agos â rhaglenni yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd I ganiatáu i fyfyrwyr adeiladu ymhellach ar sgiliau creadigol. Gyda mynediad i gyfleusterau newydd blaengar ein Hysgol Dechnolegau, a’r mannau agored ar gyfer dylunio creadigol yn ein Hysgol Gelf a Dylunio, byddwch yn mwynhau’r gorau o’r ddau fyd. Bydd hyn oll yn eich paratoi ar gyfer llwybrau gyrfa gyffrous sy’n llenwi’r bwlch rhwng y byd technegol a’r byd creadigol.
Mae’r radd hon wedi’i hachredu gan BCS, Y Sefydliad Siartredig TG. Mae achrediad yn arwydd o sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a osodwyd gan BCS. Mae gradd achrededig yn rhoi’r hawl i chi gael aelodaeth broffesiynol o BCS, sy’n rhan bwysig o’r meini prawf ar gyfer cyflawni statws Proffesiynol TG Siartredig (CITP) drwy’r Sefydliad. Mae rhai cyflogwyr yn ffafrio recriwtio o raddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn debygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.
Wedi'i achredu gan
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
- Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.
Gradd
Mae’r rhaglen radd yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol gydag ystod o opsiynau yn y flwyddyn olaf i ddatblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.
Bydd myfyrwyr yn gallu dewis cwblhau lleoliad blwyddyn mewn diwydiant rhwng Blynyddoedd 2 a 3.
Bydd pob modiwl yn 20 credyd oni nodir yn wahanol.
Blwyddyn 1:
- Meddwl Dylunio
- Technoleg a’r Gymdeithas
- Egwyddorion Rhaglennu
- Rhyngweithiad Dynol â Chyfrifiadur
- Explore
- Dylunio Gwe a Chronfeydd Data
Blwyddyn 2:
- Technolegau Symudol a Gwe
- Cyfrifiadura Ffisegol
- Expand
- Prosiect Cydweithredol
- Dylunio Creadigol ac Arloesi
Modiwlau dewisol:
- Amlgyfrwng a Rhyngweithio
- Busnes Digidol
Blwyddyn 3:
- Prosiect Datblygu (40 credyd)
- Profiad Defnyddwyr a Chynnwys Digidol
- Technoleg Broffesiynol, Gynaliadwy a Moesegol
- Technoleg Uwch Gwefannau
Modiwlau opsiynol (dewiswch un):
- Roboteg Dynolffurf Cymdeithasol
- Rheoli Prosiect Technoleg
- Profiad Gwaith Diwydiannol
Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu trwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.
Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.
Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy’n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.
Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.
O ystyried y defnydd cynyddol ar dechnoleg ddigidol ar draws llawer o sectorau a meysydd, ni fu’r angen am offer a chymwysiadau a fydd wedi’u hadeiladu â’r defnyddiwr yn berson cymharol di-sgil yn ganolog iddyn nhw, erioed yn bwysicach.
Bydd mwy a mwy o alw am unigolion a fydd yn cyfuno’r sgiliau creadigrwydd a dylunio gyda’r gallu i adeiladu meddalwedd ddibynadwy a chynaliadwy. Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i chi gael ennill y sgiliau rhyngddisgyblaethol hyn, ac yn paratoi graddedigion ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd ar draws meysydd megis y celfyddydau, adloniant/gemau, datblygu apiau symudol, amlgyfryngau, dylunio cynhyrchion/gwe a systemau rhyngweithiol eraill ar draws pob sector.
Mae’n bosib cael profiad o’r byd go iawn yn rhan o’ch astudio drwy gwblhau lleoliad blwyddyn rhyngosod / interniaeth ddiwydiannol (opsiynol). Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, llwyddodd ein myfyrwyr i sicrhau lleoliadau mewn cynlluniau cystadleuol cenedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.
Wedi cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd rhagor o opsiynau ar gael i astudio ar gyrsiau ôl-raddedig a addysgir ar draws cyfrifiadura a systemau gwybodaeth yma ym Met Caerdydd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.
- Pwyntiau tariff: 104-112
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
- Lefel T: Teilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
- Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Joel Pinney:
- E-bost: JPinney2@cardiffmet.ac.uk
-
Cod UCAS
G300 (gradd 3 blynedd), G30F (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Dechnolegau Caerdydd
-
Hyd
3 blynedd yn llawn amser.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
5 mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.