Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Wedi'i ddatblygu gyda a’i achredu gan y Sefydliad Marchnata Digidol (DMI) a'r Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), ein gradd BA (Anrh) Rheoli Marchnata Digidol ym Met Caerdydd yn sicrhau eich bod yn ennill y wybodaeth ddiweddaraf am y diwydiant a'r sgiliau ymarferol gyda'n cwricwlwm sy'n cyd-fynd â'r diwydiant.
Wedi'i gynllunio i ddatblygu rheolwyr marchnata digidol strategol, mae ein gradd yn cynnig cyfuniad o theori rheoli marchnata ynghyd ag arbenigedd digidol arbenigol. Mae'r dirwedd farchnata ddigidol yn esblygu'n gyflym, wedi'i yrru gan ddatblygiadau technolegol, ymddygiadau defnyddwyr sy'n newid a rheoliadau newydd. Mae dyfodol marchnata yn ddigidol. Byddwn yn rhoi'r offer a'r technegau marchnata digidol diweddaraf i chi i greu ymgyrchoedd marchnata arloesol, gan gynnwys marchnata cyfryngau cymdeithasol, dadansoddeg ddigidol, marchnata chwilio a chynnwys, yn ogystal ag AI ac awtomeiddio.
Byddwch hefyd yn datblygu'r sgiliau a’r meddwl strategol sy'n hanfodol ar gyfer rolau uwch reolwyr o fewn y diwydiant marchnata digidol, gan sicrhau eich bod yn barod i'r diwydiant ac yn wydn i fynd i'r afael â gofynion y farchnad sy'n newid yn barhaus.
Cewch gyfleoedd ymarferol gyda meddalwedd diwydiant arbenigol a rhoi theori ar waith yn ystod eich modiwl Marchnata Digidol ar Waith yn eich ail flwyddyn a blwyddyn ddewisol mewn lleoliad gwaith diwydiant ar ôl cwblhau eich ail flwyddyn o astudio.
Bydd ein darlithwyr, sy'n weithgar mewn ymchwil ac â phrofiad o'r diwydiant, yn dysgu'r sgiliau allweddol sydd eu hangen arnoch ar gyfer y gweithle ar ôl i chi raddio.
Ar ôl cwblhau ein gradd yn llwyddiannus, byddwch yn dod yn aelod DMI ac yn cael cymhwyster Cyswllt Marchnata Digidol Ardystiedig (CDMA) DMI. Mae ein statws 'Gradd Achrededig' CIM hefyd yn rhoi cyfle i chi gael eithriadau o Dystysgrif CIM a Diploma mewn cymwysterau Marchnata Proffesiynol a Digidol.
Cewch gyfle i ymuno â'n cymdeithas 'Masnachwyr Met' a chymdeithas Myfyrwyr CIM i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol ac entrepreneuraidd. Cewch gyfle i gymryd rhan yng nghystadleuaeth fyd-eang CIM The Pitch a mynd i'r afael â her farchnata bywyd go iawn a osodwyd gan elusen flaenllaw, lle caiff y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol y cyfle i gyflwyno eu syniadau'n uniongyrchol i'r cleient.
Byddwch yn ein gadael fel gweithiwr proffesiynol sy'n barod i'r diwydiant gyda sylfaen eang o wybodaeth farchnata, arbenigedd digidol a phrofiad yn y byd go iawn i sefyll allan yn y farchnad swyddi i raddedigion.
Wedi'i achredu gan
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
- Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.
Mae ein gradd yn dod â phrofiadau byd go iawn i'n harferion addysgu, gan ddarparu dull 'dysgu trwy wneud' sy'n gwarantu dealltwriaeth fanwl o'r broses rheoli marchnata.
Blwyddyn Un (Lefel 4)
Yn eich blwyddyn gyntaf, mae pob un o'r chwe modiwl (120 credyd) yn orfodol ac wedi'u cynllunio i roi cyflwyniad cadarn i chi i fyd Rheoli Marchnata Digidol.
Addysgir pob modiwl yn Saesneg ac mae darpariaeth cyfrwng Gymraeg sy'n cyfateb i un modiwl ar Lefel 4 a 5. Nodir hyn isod gyda seren (*).
Modiwlau gorfodol (20 credyd yr un)
- Cyflwyniad i Farchnata Digidol*
- Cyfryngau Digidol i Farchnatwyr
- Y Marchnatwr Digidol
- Marchnata Chwilio
- Marchnata a yrrir gan Ddata
- Y Diwydiant Digidol
Blwyddyn Dau (Lefel 5)
Yn eich ail flwyddyn, mae pum modiwl yn orfodol (100 credyd), a byddwch yn dewis un modiwl dewisol (20 credyd).
Byddwch yn gwella eich arbenigedd a'ch galluoedd mewn Rheoli Marchnata Digidol ac yn rhoi theori ar waith o fewn lleoliad gwaith diwydiant ar gyfer eich modiwl Marchnata Digidol yn Ymarferol. Byddwch yn cael eich cefnogi i sicrhau lleoliad gwaith perthnasol i ennill profiad ymarferol a dyfnhau eich dealltwriaeth o farchnata yn y byd go iawn i hybu eich cyflogadwyedd.
Modiwlau gorfodol (20 credyd yr un)
- Cyfathrebu Marchnata Digidol Creadigol
- Dadansoddeg Digidol a Delweddu
- Y Defnyddiwr Digidol
- Dulliau Ymchwil Marchnata Digidol
- Marchnata Digidol wrth Ymarfer
Dewiswch UN modiwl dewisol (20 credyd yr un)
- Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol
- Marchnata Chwaraeon, Digwyddiadau a Nawdd
Blwyddyn mewn diwydiant
Mae gennych yr opsiwn i dreulio blwyddyn mewn diwydiant ar leoliad gwaith ar ôl cwblhau eich ail flwyddyn o astudio yn llwyddiannus. Mae gennym dîm lleoliad gwaith pwrpasol i'ch cefnogi i sicrhau lleoliad. Gall y profiad hwn roi hwb i'ch rhagolygon gyrfa a rhoi mantais i chi wrth wneud cais am swyddi ar ôl graddio.
Blwyddyn Tri (Lefel 6)
Yn eich blwyddyn olaf, mae pedwar modiwl (100 credyd) yn orfodol, a byddwch yn dewis un modiwl dewisol (20 credyd).
Mae creu cynnwys digidol a deall y datblygiadau technolegol diweddaraf mewn Marchnata Digidol wrth wraidd modiwlau'r 3edd flwyddyn.
Bydd gennych hefyd yr opsiwn o ymchwilio i draethawd hir Digidol neu ysgrifennu a chyflwyno cynllun Marchnata Digidol. Mae ein myfyrwyr wedi mwynhau hyn, a wedi ddefnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth i fynd i'r afael â thueddiadau sy'n dod i'r amlwg a gofynion sefydliadau.
Modiwlau gorfodol
- Cynllun Marchnata Digidol NEU Draethawd Hir (40 credyd)
- Marchnata Digidol Rhyngwladol a Byd-eang (20 credyd)
- Marchnata Cynnwys (20 credyd)
- Awtomatiaeth a Marchnata AI (20 credyd)
Dewiswch UN modiwl dewisol (20 credyd yr un)
- Arloesi mewn Marchnata Digidol
- Rheoli Brand Strategol
- Profiad gwaith diwydiannol^
Cyflwynir modiwlau dewisol yn dibynnu ar y galw ac argaeledd.
^ Os ydych chi'n cymryd lleoliad gwaith diwydiant blwyddyn o hyd rhwng blwyddyn dau a thri, mae gennych chi'r opsiwn i ddewis 'Profiad Gwaith Diwydiannol' fel eich modiwl dewisol. Os na, dewiswch fodiwl dewisol arall.
Bydd y dull dysgu ac addysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr yn cael ei annog drwy ddefnyddio strategaethau addysgu penodol; astudiaethau achos; prosiectau; tiwtorialau; ymarferion ymarferol, a ategir gan y defnydd o ddeunyddiau cymorth priodol; darlithoedd gan arbenigwyr busnes; fideos; meddalwedd gyfrifiadurol; ac ati Mae ymgysylltu'n weithredol â'r deunydd pwnc yn gwella dysgu ac mae llawer o'r strategaethau dysgu a ddefnyddir yn ceisio hyrwyddo hyn.
Darlithoedd
Mae darlithoedd yn rhan bwysig o'r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae darlithoedd yn ffordd effeithiol o gyflwyno deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.
Tiwtorialau Pwnc Modiwlaidd
Cyfarfodydd rhwng myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr a darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe'u defnyddir mewn dwy ffordd yn y rhaglen:
- Ehangu ar ddeunydd a drafodir mewn darlithoedd drwy ddull datrys problemau a gaiff ei lywio gan ymholi
- Gwaith adfer i oresgyn unrhyw ddiffygion yng ngwybodaeth gefndir myfyriwr.
Seminarau
Mewn seminarau mae myfyriwr neu fyfyrwyr yn cyflwyno gwaith y maent wedi'i baratoi o flaen llaw i gyfoedion a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o sgiliau cyflwyno yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.
Gweithdai Ymarferol
Defnyddir gweithdai ymarferol yn helaeth mewn nifer o fodiwlau drwy gydol y rhaglen. Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant gael adborth gan aelod o'r staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.
Astudiaethau Achos
Strategaeth addysgu a dysgu yw astudiaethau achos, a ddefnyddir mewn amrywiaeth o fodiwlau; maent yn offeryn asesu defnyddiol hefyd. Cyflwynir problemau cymhleth go iawn neu ffug i fyfyrwyr neu gofynnir iddynt ddatblygu rhai eu hunain ac yna mae gofyn iddynt eu dadansoddi'n fanwl ac yna cyfosod/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.
Arbenigwyr Busnes
Elfen allweddol o'r profiad dysgu yw'r bwriad i wahodd arbenigwyr busnes, academaidd ac mewn ymarfer, i roi cipolwg ar eu gwaith ymchwil neu weithgarwch busnes. Bydd rhwydwaith o arbenigwyr o'r fath yn helpu i ddarparu gwybodaeth arbenigol yn ogystal ag atgyfnerthu a hyrwyddo cymwysterau'r rhaglen. Gellid gwahodd arbenigwyr o'r fath fel siaradwyr gwadd neu ofyn iddynt ddarparu profiad gweithdy mwy rhyngweithiol lle bo'n briodol.
Bydd pob myfyriwr yn elwa o'r tîm o diwtoriaid personol ymroddedig sy'n darparu pwynt cyswllt personol a rheolaidd. Mae'r Tiwtoriaid Personol yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwyr y Rhaglen a Thiwtoriaid Blwyddyn i sicrhau bod anghenion myfyrwyr yn cael eu diwallu'n effeithiol a bod eu hamser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn brofiad dymunol a llwyddiannus.
Yn ogystal â'r Tiwtoriaid Personol, darperir y cymorth a'r arweiniad academaidd penodol ar gyfer y cwrs unigol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen a'r Tiwtor Blwyddyn perthnasol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran y dewis o opsiynau sydd ar gael ym mlwyddyn dau a thri a dewis llwybrau.
Cewch eich asesu'n barhaus drwy gydol y cwrs ar sail gwaith cwrs, cyflwyniadau ac arholiadau. Bydd asesiadau ar ffurf arholiadau (a welir/nas gwelir, llyfr agored, traethodau/atebion byr), traethodau, asesiad ymarferol, cyflwyniadau, adroddiadau unigol a grŵp, a thraethawd hir, gyda llawer ohonynt yn canolbwyntio ar astudiaethau achosion bywyd go iawn.
Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu'r sgiliau a'r ddealltwriaeth allweddol sydd eu hangen ar gyfer busnes gydag arbenigedd mewn rheoli marchnata sy'n ganolog i bob swyddogaeth fusnes. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus bydd y sgiliau gennych i gael swydd mewn:
- Marchnata Digidol
- Marchnata Symudol
- Rheoli Cyfrifon Uwch Swyddog Gweithredol
- Dadansoddeg y We
- Chwilio a'r Cyfryngau Cymdeithasol
- Rheoli Cynnwys y We
- Datblygiad Creadigol Digidol
- Cyfathrebiadau Marchnata
Mae'r radd BA (Anrh) Rheoli Marchnata Ddigidol ym Met Caerdydd wedi'i ddatblygu ar y cyd â meysydd llafur y Sefydliad Marchnata Digidol (IDM) ac anghenion y diwydiant digidol. Byddwch hefyd yn gallu ymuno â'n grŵp myfyrwyr CIM sy'n annog pob myfyriwr i gymryd rhan yn ein cymuned dysgu marchnata drwy drefnu siaradwyr gwadd a rheoli digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar farchnata. Bydd cynnwys siaradwyr deinamig a digwyddiadau rhwydweithio defnyddiol yn gwella eich profiad dysgu. Yn olaf, byddwch yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd fel cystadlu yn y CIM Pitch/Brolio.
Mae'r opsiwn o gynnwys blwyddyn o brofiad mewn diwydiant ym mlwyddyn tri wedi'i gynnwys i'ch galluogi i gwblhau'r radd gyda lefel o brofiad ymarferol. Gellir ymgorffori'r opsiwn hwn o brofiad ymarferol yn y cwrs gradd tair blynedd drwy wneud gwaith ymarferol mewn diwydiant yn ystod y tymor neu adeg gwyliau yn ystod y cwrs.
Nod y cwrs yw bod astudio a phrofiad ymarferol yn rhoi'r gobaith gorau o gyflogadwyedd ar ddiwedd y cwrs gradd. O'r herwydd, cewch gyfle i raddio gyda sylfaen eang o wybodaeth farchnata a'r potensial i fod yn arbenigwr ar ddefnydd strategol o farchnata, marchnata digidol, cyfathrebu marchnata integredig, brandio a marchnata byd-eang. At hynny, byddwch wedi cael profiad 'byd go iawn' a'r cyfle i gymryd rhan yn ein cymuned ddysgu CIM ac IDM. Dylai myfyrwyr Marchnata Met Caerdydd fod yn eithriadol oherwydd eu gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amgylchedd ymarferol.
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.
- Pwyntiau tariff: 112
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
- Lefel T: Teilyngdod.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
- Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau am y cwrs yn benodol, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Dr Paula Kearns:
- E-bost: PKearns@cardiffmet.ac.uk
-
Cod UCAS
N501 (gradd 3 blynedd), N51F (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Reoli Caerdydd
-
Hyd
3 blynedd yn llawn amser.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
5 mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.