Skip to content

Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol - Gradd BA (Anrh)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

A yw ein systemau a’n sefydliadau gwleidyddol yn addas i’r diben? Ydy democratiaeth wedi methu? Pam mae gwladwriaethau’n mynd i ryfel? Pam nad ydym yn gweithio gyda’n gilydd i frwydro’n erbyn newid hinsawdd? Pam nad yw tlodi yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol? Pam nad yw heddwch byd yn bosibl? A yw’n amser am drefn newydd ar y byd?

Os yw’r cwestiynau hyn yn eich cyffroi ac yn eich denu, mae’r radd BA (Anrh) Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol hon ar eich cyfer chi. Dim ond rhai o’r pynciau a’r materion y byddwch chi’n ymwneud â nhw yw’r rhain. Yma ym Met Caerdydd, byddwch yn archwilio gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang. Byddwch yn ymwneud â rhai o heriau mwyaf enbyd ein hoes. Mae gan y radd agwedd fwriadol ryngwladol tra hefyd yn pwysleisio arwyddocâd gwleidyddiaeth a pholisi lleol. Mae’r radd hon yn canolbwyntio ar Senedd Cymru drwyddi draw ac yn cynnig cyfleoedd i ymgysylltu â hi, gan ddefnyddio ein cysylltiadau agos â’r Senedd a llunwyr polisi yng Nghymru.

Byddwch yn cael y cyfle i gymhwyso eich dysgu i faterion gwleidyddol bywyd go iawn a datblygu eich diddordebau a sgiliau ymchwil eich hun a fydd yn eich galluogi i ddeall ac esbonio ystod eang o bynciau cymhleth gan gynnwys gwrthdaro, cyfiawnder, rhyddid, grym a chydraddoldeb.

Mae’r radd wedi’i chynllunio i annog arloesi a chreadigrwydd wrth archwilio heriau a phrosesau cyfoes mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol, tra hefyd yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth mewn byd sy’n newid yn barhaus. Mae cyfleoedd i ddatblygu cyflogadwyedd a chysylltiadau sector wedi’u gwreiddio drwy gydol y radd. Mae cyfleoedd i ddatblygu eich medrau cyflogadwyedd a chysylltiadau â’r sector drwy gydol y radd. Trwy ein dulliau asesu dilys, byddwch yn datblygu portffolio o sgiliau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt fwyaf, megis ysgrifennu datganiadau i’r wasg, adroddiadau polisi a gweithio ar ‘friffiau byw’ a osodir gan ddiwydiant.

Ar ôl cwblhau’r radd, bydd gennych feddylfryd chwilfrydig, persbectif byd-eang, ac ymagwedd sy’n seiliedig ar ymchwil i faes gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol a byddwch yn gwbl gymwys i gyfrannu a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned, y gweithle, y gymdeithas a thu hwnt.

Gellir astudio’r radd hon fel gradd llawn-amser tair blynedd neu radd llawn-amser pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn sylfaen. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer y blynyddoedd nesaf o astudio, gan gynnig y cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Fyfyrwyr sy’n dymuno cofrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen gradd anrhydedd yn y gwyddorau cymdeithasol, nad ydynt wedi cyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd.
  2. Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu’r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd.

Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Noder: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r cwrs 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen.

Un o nodweddion unigryw’r radd hon mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol yw ei ffocws allanol. Mae’r cwrs yn drylwyr yn academaidd, ond eto’n canolbwyntio ar ddefnyddio dulliau arloesol o addysgu, dysgu ac asesu i ddatblygu’r sgiliau a’r cysylltiadau byd go iawn sydd eu hangen ar gyfer astudio a gweithio yn y dyfodol.

Mae BA (Anrh) Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Met Caerdydd yn cynnwys 360 credyd dros dair blynedd.

  • Ym Mlwyddyn 1 byddwch yn astudio 6 modiwl craidd.
  • Ym Mlwyddyn 2 byddwch yn astudio 5 modiwl craidd, gydag 1 modiwl dewisol.
  • Bydd Blwyddyn 3 hefyd yn cynnwys 4 modiwl craidd, gydag 1 modiwl dewisol.

Blwyddyn Un (Lefel 4)

  • Cyflwyniad i Wyddorau Cymdeithasol
  • Cyflwyniad i’r ‘credoau’
  • Gwleidyddiaeth Bob Dydd
  • Gwleidyddiaeth Ddadlau: Tirwedd Heddiw
  • Beth yw Gwleidyddiaeth?
  • Gwleidyddiaeth Fyd-eang a Chysylltiadau Rhyngwladol

Blwyddyn Dau (Lefel 5)

Modiwlau craidd:

  • Chwyldro, Esblygiad, Datganoli: Gwleidyddiaeth y DU ers 1945
  • Gwleidyddiaeth Llunio Polisi
  • Rhanbarthau a Phwerau
  • Dulliau Ymchwil Gymdeithasol
  • Damcaniaethau Beirniadol: Holi Gwybodaeth

Modiwlau dewisol:

Gall myfyrwyr ddewis un modiwl o’r isod:

  • Diogelwch/Anniolegwch mewn Cyd-destun Byd-eang
  • Economi Wleidyddol a Chysylltiadau Rhyngwladol

Blwyddyn Tri (Lefel 6)

Modiwlau craidd:

  • Craffu a’r Senedd
  • Holi’r Rhyngwladol yn Ddwys
  • Prosiect Unigol ar Sail Tystiolaeth (40 credyd)
  • Ymchwil a Chyflogadwyedd

Modiwlau dewisol:

Gall myfyrwyr ddewis un modiwl o’r isod:

  • Cyfathrebu a Dylanwad Gwleidyddol
  • Llwybrau i Fyd Gwyrdd: Yr Economi Wleidyddol Di-Garbon

Cyflwyno’r Cwrs

Mae dulliau dysgu ac addysgu wedi’u dewis i sicrhau bod nodau addysgol a chanlyniadau dysgu’r modiwlau a’r rhaglen yn cael eu cyflawni. Bydd y dulliau’n cynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai a thiwtorialau, a disgwylir i staff a myfyrwyr gefnogi’r sesiynau hyn trwy ddefnyddio’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE).

Mae’r dulliau a ddefnyddir yn pwysleisio ac yn meithrin sgiliau beirniadol myfyrwyr wrth integreiddio ymarfer a theori. Trwy’r rhaglen, bydd myfyrwyr yn cael profiad o dulliau dysgu dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunangyfeiriedig, gan ddatblygu annibyniaeth a’r gallu i fyfyrio wrth iddynt symud ymlaen drwy’r rhaglen. Y gobaith yw y bydd datblygu’r sgiliau hyn yn annog agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.

Ein nod yw helpu myfyrwyr i ddatblygu i fod yn weithwyr proffesiynol myfyriol ac yn ysgolheigion beirniadol. Mae’r addysgu a’r dysgu wedi’u cynllunio fel bod myfyrwyr yn dod ar draws profiad dysgu sy’n gydlynol ac sy’n datblygu eu hunaniaeth o fewn eu rhaglen astudio o’r cyfnod sefydlu i raddio. Prif gysyniad y rhaglen hon yw galluogi myfyrwyr i gymhwyso theori i ymarfer.

Oriau Cyswllt

Mae gan bob modiwl 20-credyd tua 200 awr o astudio ynghlwm wrtho, a gyflwynir dros semester. Yn nodweddiadol, bydd 36 o’r oriau hyn yn cael eu cyflwyno mewn sesiynau a addysgir fel darlithoedd, seminarau, a gweithdai, 3 awr yr wythnos (fesul modiwl). Neilltuir tua 52 awr ar gyfer astudio dan gyfarwyddyd a thasgau paratoi a osodir yn wythnosol fel rhan o’r sesiynau a addysgir ac mae’r 100 awr sy’n weddill yn astudio hunangyfeiriedig, lle byddwch yn cwblhau’r gwaith darllen sy’n ofynnol ar gyfer y modiwl ac yn cwblhau eich asesiadau gofynnol. Gan fod gradd Met Caerdydd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cael ei haddysgu dros ddau semester y flwyddyn academaidd, byddwch yn astudio tri modiwl 20 credyd, ochr yn ochr, bob semester.

Cefnogaeth

Neilltuir tiwtor personol i bob myfyriwr ar ddechrau’r cwrs, a byddwch yn derbyn y gefnogaeth hon ar gyfer eich gradd gyfan. Mae cyfarfodydd tiwtorial wedi’u hamserlennu, ond mae tiwtoriaid hefyd ar gael i fyfyrwyr y tu allan i’r cyfarfodydd a drefnwyd.

Mae gan y Brifysgol wasanaeth cymorth sydd wedi’i hen sefydlu i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae ganddi’r adnoddau i gefnogi myfyrwyr i fynd i’r afael â materion sy’n codi yn ystod eu hastudiaethau.

Technoleg a Chyfleusterau

Cefnogir y modiwlau gan ddefnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, Moodle, sydd ar y we ac sydd ar gael yn unrhyw le drwy’r rhyngrwyd. Cedwir yr holl ddeunydd cwrs yma, gan gynnwys cyflwyniadau darlithoedd a seminarau, gwybodaeth asesu a darllen neu adnoddau ychwanegol.

Staff

Mae’r holl staff yn weithgar ym maes ymchwil, a byddwch yn elwa’n uniongyrchol o hyn trwy addysgu a goruchwylio eich prosiect annibynnol L6.

Mae gan staff addysgu ystod eang o arbenigedd mewn materion seneddol, troseddau trefniadol rhyngwladol, iechyd byd-eang, datblygiad a diogelwch, polisi wedi’i lywio gan dystiolaeth, a chyfathrebu gwleidyddol. Mae’r holl staff wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu cefnogol o ansawdd uchel.

Cyfleusterau

Bydd gradd Met Caerdydd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cael ei haddysgu ar gampws Llandaf, lle bydd myfyrwyr yn elwa o ystod o gyfleusterau.

Mae Llandaf yn gampws bywiog a phrysur. Gyda miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad diweddar, mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr. Mae wedi’i amgylchynu gan fannau gwyrdd ond mae hefyd yn agos at ganol y ddinas.

Mae strategaethau asesu yn ymgorffori ystod o ddulliau a chyfleoedd dilys i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu dangos tystiolaeth o ddysgu a datblygu cymwyseddau allweddol yn y byd go iawn. Mae’r rhaglen yn mabwysiadu ystod o dechnegau asesu i sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu ystod ehangach o sgiliau ar gyfer llwyddiant proffesiynol nag a fyddai’n cael eu trosglwyddo trwy ddulliau asesu traddodiadol yn unig. Mae ein fframwaith asesu a’n strategaeth yn sicrhau cydbwysedd rhwng ffurfiau traddodiadol ac arloesol o asesu.

Fel arfer bydd myfyrwyr yn cael profiad o’r mathau canlynol o asesiadau:

  • Traethodau
  • Blogiau
  • Briffiau Polisi ac Adroddiadau
  • Ymateb i’r Ymgynghoriadau
  • Datganiadau i’r Wasg
  • Cyflwyniadau Unigol
  • Cyflwyniadau Grŵp
  • Dadleuon
  • Chwarae rôl/Efelychiad
  • Gwaith Prosiect
  • Adroddiadau Proffesiynol
  • Posteri
  • Portffolios Dysgu

Nodwedd unigryw o’n strategaeth asesu yw’r pwyslais ar ymgysylltu dilys â thasgau ‘byd go iawn’. Mae ein strategaethau asesu dilys wedi’u cysylltu’n gryf â thasgau polisi, sgiliau ymchwil a datblygiad priodoleddau graddedigion sy’n galluogi myfyriwr i ddatblygu sgiliau ‘parod am swydd’ ochr yn ochr â sgiliau academaidd traddodiadol. Ar ddiwedd y radd, byddwch wedi ennill Portffolio Sgiliau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Gellir dangos y Portffolio hwn i ddarpar gyflogwyr fel tystiolaeth o sgiliau perthnasol ar gyfer y byd gwaith.

Ar y rhaglen hon, gwelir asesiadau yn gyfle i fyfyrwyr ddangos eu gwybodaeth. Mae cymorth ar gael yn yr ystafell ddosbarth i chi gwblhau’r rhain, a darperir briffiau asesu manwl ar gyfer pob asesiad. Rhoddir dyddiadau cyflwyno asesiadau i fyfyrwyr ar ddechrau pob modiwl, yn ogystal â chalendr asesu ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan i’ch helpu i gynllunio a rheoli eich amser yn effeithiol. Byddwch yn derbyn adborth unigol ar eich gwaith i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella.

Ble gall gradd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol fynd â fi?

Mae galw mawr am raddedigion Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ar draws ystod eang o broffesiynau a sectorau, o yrfaoedd yn y llywodraeth, ymchwil, y gwasanaeth sifil, ymgyrchoedd, cyrff anllywodraethol/cyrff anllywodraethol rhyngwladol, y trydydd sector, i’r cyfryngau a newyddiaduraeth. Trwy’r cwrs hwn byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth a fydd yn eich galluogi i ddilyn rolau yn hyderus y tu mewn a’r tu allan i’r byd gwleidyddol traddodiadol.

Oherwydd ffocws allanol y radd a dulliau addysgu, dysgu ac asesu arloesol, byddwch yn datblygu’r sgiliau byd go iawn a’r cysylltiadau â diwydiant sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth megis ar gyfer gyrfaoedd yn y llywodraeth, gwleidyddiaeth, cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus, y gyfraith, gwasanaeth cyhoeddus, sefydliadau dyngarol, ymchwil a mwy.

Bydd y radd hefyd yn eich arfogi â’r sgiliau ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig, ac yn rhoi cyfle ar gyfer hyn, gan gynnwys yr astudiaeth MRes Polisi Cymdeithasol ac astudiaeth PhD ym Met Caerdydd.

Fel y crybwyllwyd, un o nodweddion arbennig a chyffrous y rhaglen yw’r cyfle i greu Portffolio Sgiliau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Erbyn diwedd lefel 6, bydd gennych bortffolio o enghreifftiau o sgiliau a phrofiad y gallwch eu harddangos i ddarpar gyflogwr.

Cynigion Nodweddiadol

Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion arferol sy’n berthnasol i ddechrau blwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig Blwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl ei chwblhau’n llwyddiannus.

  • Pwyntiau tariff: 104
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol pum TGAU Gradd C / 4 neu uwch i gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair lefel A i gynnwys graddau CCC. Nid oes angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • BTEC Cenedlaethol / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Nid oes angen pynciau penodol.
  • Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol (IB): Nid oes angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x H2. Nid oes angen pynciau penodol. Dim ond pynciau lefel uwch sy’n cael eu hystyried gyda gradd H4 o leiaf.
  • Scottish Advanced Highers: Gradd DD. Nid oes angen pynciau penodol. Mae Scottish Highers hefyd yn cael eu hystyried, naill ai ar eu pen eu hunain neu mewn cyfuniad ag Uwch Uwch.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydynt yn bodloni ein gofynion sylfaenol. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cyrsiau UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth am gymwysterau Tramor ar gael yma.

Os ydych yn ymgeisydd aeddfed, gyda phrofiad perthnasol neu CDB yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Wneud Cais

Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael yma.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch ag Arweinydd y Rhaglen:

E-bost: LMcCarthy-Cotter@cardiffmet.ac.uk

  • Cod UCAS

    N5L1 (gradd 3 blynedd), N5LF (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

  • Hyd

    3 blynedd yn llawn amser.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
    6 mlynedd yn rhan-amser.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.