Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein gradd BA (Anrh) Busnes a Rheoli yn defnyddio dull rhyngddisgyblaethol, sy'n cyfuno gwybodaeth busnes a rheoli â'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i lwyddo fel rheolwr gwydn, dylanwadol ac addasadwy.
Mae'n eich annog i ddatblygu safbwyntiau beirniadol ac adeiladu meddylfryd proffesiynol a chyfrifol, tra'n cryfhau sgiliau arwain a gweithio mewn tîm a fydd yn cynyddu eich gwerthfawrogiad o'r rolau y mae rheolwyr yn eu cyflawni.
Cewch ddatblygu eich ysbryd entrepreneuraidd ac intrapreneuraidd i lywio'r dirwedd fusnes esblygol yn llwyddiannus ar draws amrywiol sectorau – y sector preifat, y sector cyhoeddus, neu'r trydydd sector o fewn sefydliadau, neu lansio'ch menter eich hun.
Addysgir y radd o safbwynt byd-eang trwy gwricwlwm sy'n adlewyrchu realiti marchnadoedd rhyngwladol. Mae cynaliadwyedd, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a gwneud penderfyniadau moesegol wedi'u gwreiddio drwyddi draw.
Mae ein gradd yn rhoi hyblygrwydd i chi arbenigo mewn meysydd o ddiddordeb trwy ddewis o bum llwybr:
- Entrepreneuriaeth
- Cyllid
- Rheoli Adnoddau Dynol
- Rheoli Cadwyn Gyflenwi Ryngwladol a Logisteg
- Marchnata
Yn ogystal â'r cyfle i ennill profiad gwerthfawr yn y byd go iawn trwy fodiwl gwaith trwy brofiad neu wirfoddoli yn yr ail flwyddyn, rydym hefyd yn cynnig interniaeth blwyddyn o hyd mewn diwydiant rhwng blwyddyn dau a'r flwyddyn olaf. Mae interniaethau yn y gorffennol wedi cynnwys Deloitte, Admiral a Chanolfan Seiber Gydnerth Cymru.
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
- Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.
Gradd
Mae strwythur y cwrs yn datblygu o flwyddyn gyntaf orfodol, sy'n cynnwys chwe modiwl, i ddau fodiwl gorfodol yn unig a dau fodiwl llwybr gorfodol yn y flwyddyn olaf. Bydd hyn yn eich galluogi i gyfeirio eich diddordebau at lwybr arbenigol neu set benodol o fodiwlau dewisol, tra'n sicrhau eich bod yn cael dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cadarn o fusnes a rheoli.
Mae'r radd hefyd yn caniatáu cryn hyblygrwydd i sicrhau eich bod yn cael eich arwain yn academaidd yn eich dewis terfynol sef pu'n ai ydych am raddio gyda gradd BA (Anrh) Busnes a Rheoli, neu radd BA (Anrh) Busnes a Rheoli drwy ddilyn un o'r llwybrau sydd ar gael.
Addysgir yr holl fodiwlau yn Saesneg ac mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg sy'n cyfateb i nifer o fodiwlau Lefel 4. Nodir y rhain isod gyda seren (*).
Blwyddyn Un (Lefel 4)
Mae pob modiwl yn orfodol (120 credyd) ac wedi'u cynllunio i roi sylfaen gadarn i chi mewn astudiaethau busnes a rheoli a'ch datblygiad personol.
Modiwlau gorfodol ar gyfer pob llwybr (20 credyd yr un)
- Moeseg Cynaliadwyedd a Chyfrifoldeb Cymdeithasol*
- Offer Dadansoddol ar gyfer Mantais Cystadleuol
- Cyllid ar gyfer Perfformiad Busnes Cynaliadwy
- Cyflwyniad i Farchnata
- Datblygu Pobl mewn Sefydliadau*
- Agweddau Entrepreneuraidd tuag at Fusnes
Blwyddyn Dau (Lefel 5)
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio pum modiwl gorfodol (100 credyd) ac yn dewis un modiwl dewisol (20 credyd). Y modiwl dewisol yw cam cyntaf eich dewis llwybr.
Modiwlau gorfodol ar gyfer pob llwybr (20 credyd yr un)
- Trawsnewid Busnes
- Gwaith trwy Brofiad neu Gyfleoedd Gwirfoddoli*
- Heriau Byd-eang i Fusnes
- Gweithrediadau Busnes Moesegol a Gwydnwch y Gadwyn Gyflenwi
- Ymchwil Busnes ac Adrodd*
Modiwlau dewisol (20 credyd yr un)
- Rheoli Newid a Risg (Gradd generig - dim llwybr)
- Datblygu Busnes ac Intrapreneuriaeth (Llwybr Entrepreneuriaeth)
- Arian a Marchnadoedd (Llwybr Cyllid)
- Rheoli Pobl a Phrofiad Gweithwyr (Llwybr Rheoli Adnoddau Dynol)
- Caffael Cynaliadwy a Rheoli Perthynas Strategol Effeithiol (Llwybr Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi Ryngwladol a Logisteg)
- Cyfathrebu Marchnata Digidol i Reolwyr (Llwybr Marchnata)
Interniaeth blwyddyn o hyd mewn diwydiant
Mae gennych yr opsiwn i dreulio blwyddyn mewn diwydiant ar leoliad gwaith ar ôl cwblhau eich ail flwyddyn o astudio yn llwyddiannus. Mae gennym dîm lleoliad gwaith pwrpasol i'ch cefnogi i sicrhau lleoliad. Gall blwyddyn interniaeth mewn diwydiant roi hwb i'ch rhagolygon gyrfa a rhoi mantais i chi wrth wneud cais am swyddi ar ôl graddio.
Blwyddyn Tri (Lefel 6)
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio dau fodiwl gorfodol ar gyfer pob llwybr (40 credyd), dau fodiwl llwybr gorfodol (40 credyd) a dau fodiwl dewisol (40 credyd).
Modiwlau gorfodol ar gyfer pob llwybr (20 credyd yr un)
- Strategaeth Weithredu*
- Arweinyddiaeth wrth Ymarfer*
Busnes a Rheolaeth heb unrhyw lwybr (20 credyd yr un)
Modiwlau gorfodol
- Materion Cyfoes mewn Arloesedd ac Entrepreneuriaeth
- Marchnata Rhyngwladol a Byd-eang
Modiwlau dewisol
- Rheoli Cyfoeth
- Rheoli Pobl Fyd-eang
- Rheoli Logisteg Fyd-eang
Llwybr Entrepreneuriaeth (20 credyd yr un)
Modiwlau gorfodol
- Creu a Thwf Menter
- Diwylliannau Entrepreneuraidd
Modiwlau dewisol
- Materion Cyfoes mewn Arloesedd ac Entrepreneuriaeth
- Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi Gynaliadwy
- Marchnata Rhyngwladol a Byd-eang
Llwybr Cyllid (20 credyd yr un)
Modiwlau gorfodol
- Rheoli Buddsoddiadau
- Cyllid Cyfoes
Modiwlau dewisol
- Rheoli Cyfoeth
- Materion Cyfoes mewn Arloesedd ac Entrepreneuriaeth
- Rheoli Logisteg Fyd-eang
Llwybr Rheoli Adnoddau Dynol (20 credyd yr un)
Modiwlau gorfodol
- Rheoli Talent yn yr Oes Ddigidol
- Dyfodol Gwaith a Chysylltiadau Gweithwyr
Modiwlau dewisol
- Materion Cyfoes mewn Arloesedd ac Entrepreneuriaeth
- Rheoli Pobl Fyd-eang
- Marchnata Rhyngwladol a Byd-eang
Llwybr Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi Ryngwladol a Logisteg (20 credyd yr un)
Modiwlau gorfodol
- Rheoli Risg a Gwendid y Gadwyn Gyflenwi
- Rheoli Logisteg Fyd-eang
Modiwlau dewisol
- Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi Gynaliadwy
- Materion Cyfoes mewn Arloesedd ac Entrepreneuriaeth
- Marchnata Rhyngwladol a Byd-eang
Llwybr Marchnata (20 credyd yr un)
Modiwlau gorfodol
- Rheoli Brand Strategol
- Rheoli Cyfathrebu Corfforaethol ac Enw Da
Modiwlau dewisol
- Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi Gynaliadwy
- Rheoli Pobl Fyd-eang
- Marchnata Rhyngwladol a Byd-eang
Prosiectau Terfynol Dewisol (40 credyd yr un)
Mae gennych hefyd y dewis o ddewis un modiwl 40 credyd dewisol:
- Traethawd hir (40 credyd)
- Cynllun Marchnata (40 credyd)
- Lansio Menter (40 credyd)
- Interniaeth (40 credyd)
Cyflwynir modiwlau dewisolyn dibynnu ar y galw ac argaeledd.
Cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ymarferol, siaradwyr gwadd gan arbenigwyr yn y diwydiant a thiwtorialau. Cewch fanteisio ar ein cysylltiadau helaeth â diwydiant trwy ddarlithoedd gwadd gan arbenigwyr busnes, teithiau maes a chwblhau prosiect trawsnewid busnes byw.
Byddwch yn cael cyfleoedd i roi theori ar waith trwy astudiaethau achos, profiad gwaith, interniaethau, a phrosiectau ymarferol i'ch helpu i drosi theori academaidd yn sgiliau a phrofiadau byd go iawn i'ch paratoi ar gyfer heriau'r byd busnes modern.
Mae modiwlau wedi'u cynllunio gydag asesiadau dilys, i efelychu profiadau byd go iawn ac i gynhyrchu gwaith y gellir ei ddefnyddio i wella cyflogadwyedd.
Ar gyfer rhai modiwlau byddwch yn dysgu fel rhan o dîm. Mae gwaith grŵp yn caniatáu magu hyder, sgiliau negodi ac yn gwella'r broses ddysgu. Mae'r gallu i weithio fel rhan o dîm yn hanfodol mewn llawer o lwybrau gyrfa. Efallai y bydd angen gwaith grŵp ar gyfer cyflwyniadau, adroddiadau, ac wrth goladu gwybodaeth.
Mae cyfleoedd i astudio dramor, am semester neu flwyddyn gyfan, hefyd yn cael eu cefnogi'n llawn ar y radd hon trwy ein hystod eang o bartneriaid byd-eang.
Byddwch yn cael eich asesu trwy ystod o waith cwrs a gynlluniwyd i roi'r cyfle i chi gyflwyno tystiolaeth o feddwl adfyfyriol, dadansoddi a galluoedd datrys problemau.
Mae asesiadau ar ffurf traethodau, cyflwyniadau grŵp ac unigol, adroddiadau grŵp ac unigol, cyflwyniadau poster, gwaith ymarferol a phortffolios gyda ffocws ar strategaethau asesu dilys lle bo modd.
Mae gwybodaeth a dealltwriaeth o reoli busnes, ar y cyd â datblygu'r sgiliau cyflogadwyedd graddedigion sy'n ofynnol gan gyflogwyr yn hollbwysig. O'r eiliad y cewch eich sefydlu hyd at ddiwedd eich blwyddyn olaf, mae cyflogadwyedd yn ffocws pwysig i'ch gradd.
Yn ogystal â modiwl gwaith trwy brofiad neu wirfoddoli gorfodol ym mlwyddyn dau, y gallwn eich helpu i'w drefnu, rydym yn cynnal ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau rhwydweithio cymdeithasol gyda chyflogwyr. Mae gennych hefyd yr opsiwn o gymryd blwyddyn interniaeth mewn diwydiant rhwng blwyddyn dau a'ch blwyddyn olaf.
Os ydych yn bwriadu dod yn Entrepreneur ifanc a dechrau eich busnes eich hun, bydd y Ganolfan Entrepreneuriaeth Myfyrwyr yn eich cynorthwyo mewn ymarfer busnes ac yn helpu i ddatblygu eich syniad busnes tra byddwch yn fyfyriwr prifysgol.
Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr yn dod i mewn i fyd busnes ar ôl graddio a byddant yn dod o hyd i waith mewn ystod eang o sefydliadau, yn y sector cyhoeddus a phreifat. Er enghraifft, mae myfyrwyr wedi dod o hyd i gyflogaeth fel gweithredwyr gwerthu busnes, gweithwyr proffesiynol cyswllt marchnata, rheolwyr cyfrifon ariannol, rheolwyr a chyfarwyddwyr manwerthu a chyfanwerthu, gwerthwyr tai ac arwerthwyr, a swyddogion adnoddau dynol a chysylltiadau diwydiannol, i enwi ond ychydig.
Mae cyfleoedd hefyd i chi barhau ag astudiaethau ôl-raddedig yn Ysgol Reoli Caerdydd, megis yr MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol, LLM Busnes Rhyngwladol, MSc Marchnata Strategol, MSc Rheoli Adnoddau Dynol, MSc Rheoli Entrepreneuriaeth ac Arloesedd, MSc Cadwyn Gyflenwi Ryngwladol a Logisteg Rheolaeth, MSc Bancio a Chyllid a'r MBA.
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.
- Pwyntiau tariff: 112
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
- Lefel T: Teilyngdod.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
- Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau am y cwrs yn benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Lisa Wright.
- E-bost: lwright@cardiffmet.ac.uk
- Ffôn: +44(0)29 2041 6318
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Reoli Caerdydd
-
Hyd
3 blynedd yn llawn amser.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
5 mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.