Cwrs Blas ar Ddysgu mewn Cynradd ac Uwchradd
Ydych chi wedi meddwl dilyn gyrfa mewn dysgu?
Cwrs wythnos bydd yn rhoi rhagflas arbennig o yrfa mewn addysgu Ysgol Uwchradd Gymraeg neu Ysgol Gynradd Gymraeg.
Bydd y cwrs yn cynnig profiadau gwerthfawr anffurfiol (ddi-asesiad) lle byddwch yn cael y cyfle i brofi amgylchedd ysgol ac i archwilio gyrfa yn y proffesiwn cyffrous a phwysig yma ar ôl graddio.
Dyddiadau’r Cwrs
- Cwrs 1: Tachwedd/Rhagfyr 2024 – dyddiau i’w drefnu o gwmpas eich amserlen chi
- Cwrs 2: Mehefin 2-6, 2025
Bydd y cwrs yn cynnwys dau ddiwrnod yn y Brifysgol a thridiau allan mewn naill ai ysgol gynradd neu uwchradd. Bydd y sesiwn cyntaf yn y Brifysgol ar gampws Cyncoed ar y dydd Llun yn cynnwys hyfforddiant mewn sawl agwedd gan gynnwys Diogelu Plant, Gofynion Proffesiynol addysgu a chyflwyniad i Gwricwlwm Cymru 2022.
Ar y dydd Mawrth, Mercher ac Iau, byddwch allan yn yr ysgol, yn cael amryw o brofiadau gan gynnwys cysgodi a chefnogi athrawon o fewn eich maes o ddiddordeb. Bydd diwrnod olaf nol yn y Brifysgol yn gyfle i chi drafod eich profiadau diweddar yn eich ysgolion a rhannu syniadau.
Byddwn yn cynnig gweithdy ymarferol yn cynnig arweiniad am ymgeisio am le ar y cwrs TAR yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, esbonio disgwyliadau cyfweld a chynnig cefnogaeth un i un. Cyfle gwych felly i baratoi eich ffurflen UCAS a manteisio ar brofiad tiwtoriaid TAR Addysg sydd yn rhan o’r system cyfweld.
Dyma gyfle arbennig i chi gael profiad ymarferol o addysgu mewn sector sydd yn chwilio am athrawon y dyfodol. Bydd hyn yn brofiad defnyddiol wrth feddwl ymlaen am yrfa yn y byd addysg, a bydd profiad felly’n cryfhau unrhyw gais am le yn y cwrs TAR cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Bydd disgwyl i chi fod yn siaradwr Cymraeg, a bydd y cwrs Blasu a’r profiadau ysgol trwy’r Gymraeg. Os ydych yn ansicr o lefel eich Cymraeg, bydd modd trafod hyn gyda’r tiwtoriaid cwrs cyn cadarnhau eich diddordeb.
Nod y cwrs hwn yw cynnig y cyfle i siaradwyr o wahanol gefndiroedd i weld a phrofi manteision dilyn gyfra athro trwy’r Gymraeg. Felly – peidiwch â gadael i sgiliau Cymraeg ansicr eich rhwystro – bydd y staff yn y Brifysgol a’r ysgolion yn barod iawn i’ch helpu a chodi eich hyder!
Pwysig:
Bydd angen trefnu DBS cyn ymuno â’r cwrs a mynychu’r ysgol. Chi fydd yn gyfrifol am drefnu hyn, a bydd Derbyniadau yn gallu helpu gyda’r system DBA.
Llenwch eich gwybodaeth yn y ffurflen isod:
Ffurflen Gais – Blas ar Ddysgu
Danfonwch y ffurflen hon at:
- Cynradd: Gina Morgan (GMorgan@cardiffmet.ac.uk)
- Uwchradd: Rhian Crooks-Williams (RECrooks-Williams@cardiffmet.ac.uk)
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y profiad Cynradd, cysylltwch â Gina Morgan (GMorgan@cardiffmet.ac.uk).
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y profiad Uwchradd, cysylltwch â Rhian Crooks-Williams (RECrooks-Williams@cardiffmet.ac.uk).
Gwybodaeth Cwrs Allweddol
- Lleoliad Astudio: Campws Cyncoed
- Ysgol: Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
- Hyd y Cwrs: 1 wythnos