parth-g
Ewch i'r parth-g i ddarganfod mwy am Wasanaethau Myfyrwyr a chyflogadwyedd, a chael mynediad at gymorth anacademaidd.
Pwy ydyn ni
Mae ein staff cyfeillgar yn rhan o'r tîm Cymorth Myfyrwyr a Chyflogadwyedd, ac wedi'u lleoli ar gampws Cyncoed a Llandaf.
Rydyn ni yma i helpu, felly peidiwch ag oedi cyn galw heibio'r parth-g ar y naill gampws neu'r llall.
Sut allwn ni helpu
Dyma rai o'r pethau eraill y gallwn eich helpu gyda nhw:
- ateb unrhyw gwestiynau am Wasanaethau Myfyrwyr a Chyflogadwyedd
- eich helpu i drefnu apwyntiad gyda Gwasanaethau Myfyrwyr a Chyflogadwyedd
- talu ffioedd dysgu gyda cherdyn (neu gallwch dalu ar-lein)
- helpu i ddatrys unrhyw broblemau gyda'ch ffioedd dysgu neu fenthyciad myfyriwr
- gwirio cymwysterau a gwiriadau DBS
- cyrchu tystysgrifau treth gyngor
- cofrestru
- argraffu CerdynMet newydd
Trefnwch apwyntiad
Er mwyn cyrchu llawer o'r apwyntiadau Gwasanaethau Myfyrwyr, mae angen i fyfyrwyr presennol gwblhau ein ffurflen gymorth Anabledd, Lles a Chynghori.
Os ydych yn cael trafferth gyda'r ffurflen hon, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, gall tîm parth-g eich helpu. Gallwn hefyd eich helpu i wirio manylion apwyntiad presennol.
Gwasanaethau eraill
Os na allwn helpu'n uniongyrchol â'ch ymholiad, gallwn eich cysylltu â'r adran gywir.
Er enghraifft, os ydych chi'n cael trafferth gyda ffioedd dysgu, cofrestru, neu wneud cais am wasanaethau lliniaru, galwch heibio i'r parth-g a gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â'r bobl iawn.