Cyllidebu fy hawl i Gyllid Myfyrwyr
Rheoli fy arian Cyllid Myfyrwyr
Nid yw pob myfyriwr yn derbyn digon o gyllid myfyriwr i dalu eu costau byw hanfodol, a bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr naill ai'n gweithio'n rhan-amser, a/neu'n derbyn cymorth gan deulu i helpu i gynyddu eu hincwm yn ystod y brifysgol.
Rydym yn eich cynghori'n gryf i weithio allan cyllideb cyn i chi gyrraedd y brifysgol, i'ch helpu i gynllunio a fydd eich incwm disgwyliedig (gan gynnwys Cyllid Myfyrwyr, cyflog o waith rhan-amser, cymorth rhiant/partner ac ati) yn talu am eich treuliau disgwyliedig (gweler isod).
Bydd hyn yn eich helpu i symud ymlaen trwy'ch astudiaethau'n hyderus y bydd gennych ddigon o arian i fyw arno heb fynd i drafferthion.
Mae gennym dempledi cyllideb myfyrwyr i helpu gyda hyn a byddwn yn cynnig gweminarau a sesiynau un i un ar gyfer myfyrwyr newydd dros yr haf ac yn ystod y tymor.
E-bostiwch ni yn moneyadvice@cardiffmet.ac.uk am fwy o fanylion.
Treuliau
Bydd hyn yn dibynnu a ydych mewn neuaddau preswyl neu'n rhentu'n breifat.
Bydd costau hanfodol yn cynnwys rhent, biliau, bwyd, nwyddau ymolchi/meddyginiaeth, trafnidiaeth, contractau ffôn, tanysgrifiadau, yswiriant ac arian ar gyfer eich bywyd cymdeithasol. Os ydych yn rhentu gan landlord preifat, bydd angen i chi hefyd ystyried cyfleustodau (nwy, trydan a dŵr). Os ydych chi'n dod â char i'r brifysgol, byddwch yn codi costau ychwanegol ar gyfer tanwydd, cynnal a chadw, yswiriant, parcio a threth ac ati.
Os ydych chi'n fyfyriwr israddedig amser llawn, dylech fod yn gymwys i wneud cais am eithriad Treth y Cyngor.
Sut i reoli’ch arian
Os ydych wedi llunio cyllideb, ac nad oes gennych ddigon o arian i fyw, efallai y bydd nifer o opsiynau ar gael i’ch helpu i reoli’ch arian:
- Sgwrsiwch a’ch teulu cyn i chi gyrraedd, i weld a allant eich helpu, ac os felly, faint a phryd. Efallai y byddai'n ddefnyddiol rhannu’r erthygl Save the Student gyda nhw i gychwyn y sgwrs.
- Dechreuwch gynllunio ar gyfer pa waith rhan-amser y gallech ei wneud, naill ai yn ystod y tymor a/neu yn ystod seibiannau. Mae gan Met Caerdydd wasanaeth gyrfaoedd a fydd yn gallu helpu gydag awgrymiadau ar ddod o hyd i waith rhan-amser.
- Sbiwch dros eich cyllideb eto – allwch chi leihau eich costau ar gyfer eitemau sydd ddim yn hanfodol? Os oes angen help arnoch i adolygu'ch cyllideb, cysylltwch â ni a gallwn ni eich helpu.
Cyfrifon banc myfyrwyr
Nid oes angen un arnoch, ond mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn teimlo y gall y cyfrifon banc myfyrwyr fod yn fanteisiol.
Gall hyn gynnwys gorddrafftiau di-log a chymhellion eraill fel cardiau rheilffordd am ddim.
Gallwch ddarganfod mwy am gyfrifon banc myfyrwyr o Save the Student.
Cymorth ariannol arall
Mae gan UCAS dudalen ymroddedig sy’n cynnwys gwybodaeth am ysgoloriaethau, grantiau a bwrsariaethau allanol a allai fod ar gael. Mae gan Met Caerdydd hefyd dudalen Bwrsariaethau ac ysgoloriaethau. Ar gyfer ymholiadau am fwrsariaethau ac ysgoloriaethau, cysylltwch ag admissions@cardiffmet.ac.uk.
Os ydych chi'n byw yng Nghymru ac mae gennych blant dibynnol ifanc, efallai y gallwch gael mynediad at hyd at 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant ar gyfer plant 3 i 4 oed gyda'r Cynnig Gofal Plant.
Mae gan Met Caerdydd hefyd Gronfa Caledi Ariannol ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n wynebu argyfwng ariannol annisgwyl tra eu bod yn y brifysgol. Mae telerau ac amodau yn berthnasol, ac mae'r gronfa yn destun prawf modd.