Skip to content

Cyllid Brys

Cymorth Ariannol

Gall myfyrwyr cofrestredig sy’n byw gartref presennol sy'n cael ei hunain mewn trafferthion ariannol fod yn gymwys i gael cymorth ariannol i'w helpu gyda chostau hanfodol.  I gychwyn y broses ymgeisio, bydda angen cwblhau'r ffurflen gais apwyntiad hon. Yna anfonir dolen at eich mewnflwch Met Caerdydd i drefnu apwyntiad gydag aelod o'n tîm cynghori ariannol. Yn ystod yr apwyntiad hwn byddwn yn trafod eich sefyllfa gyda chi ac yn siarad am gymorth ariannol a allai fod ar gael.

Myfyrwyr rhyngwladol a’r UE

Gall myfyrwyr rhyngwladol a’r UE sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd sy'n cael ei hunain mewn trafferthion ariannol fod yn gymwys i gael cymorth ariannol i helpu gyda chostau hanfodol. Gallwch wneud cais am gymorth ariannol brys os ydych:

  • wedi bod yn ddioddefwr trosedd neu’n ddioddefwr o dwyll (bydd angen i chi ddarparu rhif cyfeirnod trosedd)
  • yn ffoi rhag trais neu gam-drin domestig
  • wedi dioddef trychineb domestig yn y DU fel tân mewn tŷ neu lifogydd

Os oes unrhyw un o'r amgylchiadau hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â ni ar financialsupportfund@cardiffmet.ac.uk i drafod eich sefyllfa ymhellach.

Byddwn hefyd yn cysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Byd-eang i'w gwneud yn ymwybodol o'ch amgylchiadau fel y bod modd iddynt hefyd gynnig rhywfaint o gymorth arbenigol i chi.

Adnoddau hunangymorth

Mae gennym ystod o adnoddau ac offer i’ch helpu i reoli’ch arian. 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth ariannol a allai fod ar gael gan y brifysgol, cysylltwch â ni ar financialsupportfund@cardiffmet.ac.uk.