Cyngor Ariannol
Sut y gallwn ni helpu
Yn ystod eich amser yn y Brifysgol, efallai y bydd angen cyngor arnoch ar gyllidebu neu gyllid myfyrwyr.
Rydym yn cynnig apwyntiadau galw heibio i drafod cyllidebu a rheoli arian, cyllid myfyrwyr, a chymorth i ddatrys materion gyda Chyllid Myfyrwyr.
Gall myfyrwyr hefyd gael mynediad at gyngor arbenigol yn rhad ac am ddim gan ein darparwyr partner Money Saviour CIC a Cyngor ar Bopeth Caerdydd a Bro Morgannwg, gan gynnwys cyngor ar ddyledion, budd-daliadau, tai, defnyddwyr, a theulu.
Siaradwch â ni am:
- unrhyw bryder am arian
- cyllid myfyrwyr
- cyllid brys
- cyllidebu a rheoli arian
- cymorth ychwanegol i’r rhai sy'n gadael gofal a myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio
- pryderon ynglŷn â gwario, e.e., gamblo neu chwarae gemau
- goblygiadau ariannol ailadrodd, gohirio neu dynnu'n ôl o astudiaethau
Trefnu apwyntiad
Gall myfyrwyr cyfredol drefnu apwyntiad a bwrw golwg ar sesiynau galw heibio drwy fewngofnodi i CanolbwyntMet.
Gallwch hefyd drefnu apwyntiadau drwy’r parth-g.
Gall ddarpar fyfyrwyr e-bostio’r tîm cyngor ariannol ar moneyadvice@cardiffmet.ac.uk i wneud apwyntiad neu i ofyn unrhyw gwestiwn.
Cysylltu â ni
Gallwch hefyd ymweld â’r parth-g neu gysylltu â ni ar:
- E-bost: moneyadvice@cardiffmet.ac.uk
- Ffôn: +44 (0)29 2041 6170