Cefnogaeth Dyslecsia, ADHD ac Anawsterau Dysgu Penodol
Rydym yn darparu cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol, e.e.
- Dyslecsia
- Dyspracsia
- ADHD
Mae anhawster dysgu penodol yn cyfeirio at wahaniaeth neu anhawster ag agweddau penodol ar ddysgu.
Os nad ydych yn siŵr a oes gennych anhawster dysgu penodol, gallwch drafod eich pryderon ag aelod o'r tîm cyn cychwyn yn y Brifysgol ar: wellbeingsupport@cardiffmet.ac.uk
Mae arnom angen tystiolaeth o'ch anhawster dysgu penodol er mwyn trefnu addasiadau academaidd neu addasiadau mewn arholiadau. Bydd yn fanteisiol i'r dystiolaeth hon fod ar gael cyn i chi ddechrau eich astudiaethau.
Dyslecsia
Mae arnom angen llungopi o asesiad diagnostig llawn, wedi'i ysgrifennu gan asesydd cymwys sydd â chymhwyster wedi'i gymeradwyo ac sydd yn:
- athro/athrawes arbenigol â Thystysgrif Ymarfer Asesu Anawsterau Dysgu Penodol gyfredol; neu
- ymarferydd seicoleg, wedi'i gofrestru â'r HCPC
Gall ein swyddogion cefnogi gynnig prawf sgrinio dyslecsia i chi a'ch cyfeirio at asesiad allanol.
Mae costau asesiadau yn amrywio, a rhaid i chi dalu am yr asesiad o'ch poced eich hun. Gallwch ddod o hyd i asesydd dyslecsia drwy:
- wneud chwiliad PATOSS
- defnyddio rhestr Cymdeithas Seicoleg Prydain (BPS) o seicolegwyr siartredig
Dyspracsia ac ADHD
Gall gweithwyr meddygol proffesiynol asesu dyspracsia ac ADHD, ac mewn achosion o'r fath bydd arnom angen cadarnhad ysgrifenedig ganddynt o'r diagnosis, a gwybodaeth glir am effaith y cyflwr ar eich astudiaethau. Gadewch i ni wybod os ydych ar restr aros am Ddiagnosis o ADHD.
Diagnosis o ADHD
I gael diagnosis o ADHD, rhaid i fyfyriwr fodloni nifer o feini prawf sy'n cael eu diffinio yn Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol Anhwylderau Meddyliol (DSM) a Chanllawiau 87 NICE yn y DU.
Caiff diagnosis ei wneud fel arfer drwy atgyfeiriad at arbenigwyr gan feddyg teulu.
Bydd gan arbenigwyr hyfforddiant a phrofiad o ddiagnosio ADHD, ac maent yn cynnwys seiciatryddion arbenigol, pediatregwyr, seicolegwyr clinigol a/neu rai seicolegwyr addysg.
Gall yr amseroedd aros ar gyfer diagnosis fod yn hir, a chynghorir myfyrwyr i siarad â'r Gwasanaethau Myfyrwyr i gael mwy o wybodaeth ac arweiniad.
Cefnogaeth drwy'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA)
Os oes gennych ddiagnosis ffurfiol, gallech fod yn gymwys i gael cefnogaeth ychwanegol drwy'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA).
Mae'r DSA yn darparu cyllid ar gyfer cyfarpar, meddalwedd a gweithwyr cymorth personol, os yw'n briodol, i'ch helpu i oresgyn unrhyw heriau penodol sy'n gysylltiedig â'ch anhawster dysgu penodol.
Bydd ein cynghorwyr yn eich helpu i ddilyn y broses ymgeisio ac yn sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn rhagori yn academaidd.