Anabledd, Iechyd Meddwl a Dyslecsia
Trefnwch Apwyntiad
Rydym yn cefnogi myfyrwyr sy'n profi ystod o anableddau gan gynnwys anawsterau dysgu penodol, cyflyrau iechyd meddwl, a chyflyrau meddygol.
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau i helpu myfyrwyr i reoli straen tymor byr neu achos un-tro o straen.
Cwblhewch ein ffurflen Anabledd, Lles a Chynghori er mwyn dechrau cael cymorth.
Adnoddau Ar-lein
Well Met App
Well Met App yw eich canllaw personol i gymorth iechyd meddwl a lles.
Nodweddion allweddol:
- eich hyfforddwr lles digidol wedi'i bweru gan AI eich hun
- offer ar gyfer adeiladu arferion bach o amgylch y 5 Ffordd at Lesiant
- mynediad i bodlediadau ac adnoddau CBT
Ar gael 24/7, mae'n cynnig cymorth wedi'i deilwra ac adnoddau y gellir ymddiried ynddynt - i gyd mewn un lle.
Myfyrwyr presennol - dysgwch fwy am yr Well Met App.
Bod yn Iach Byw'n Iach
Modiwl rhyngweithiol ar-lein yw 'Bod yn Iach Byw'n Iach'.
Gall eich helpu i ddatblygu strategaethau i gynnal eich iechyd meddwl, eich lles a'ch cyllid.
Ewch i Bod yn Iach Byw'n Iach ar Moodle
Iechyd a Llesiant
Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol gydag ymgynghorwyr profiadol i gefnogi'ch anghenion.
Tîm Cadw
Cefnogi myfyrwyr sy'n cael anawsterau gyda phresenoldeb/ymgysylltu.
Gwneud cais am gefnogaeth - myfyrwyr presennol
Cefnogaeth Anabledd
Rydym yn helpu i drefnu cefnogaeth trwy gydol eich astudiaethau fel bod gennych fynediad cyfartal i'r holl gyfleoedd dysgu.
Cefnogaeth Awtistiaeth
Rydym yn deall y gallai fod heriau unigryw i'ch taith drwy'r brifysgol, ac rydym yma i ddarparu'r cymorth a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i ffynnu.
Cefnogaeth Dyslecsia, ADHD ac Anawsterau Dysgu Penodol
Rydym yn darparu cymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu penodol (SpLD), megis Dyslecsia, Dyspracsia ac ADHD.
Cefnogaeth Dyslecsia, ADHD a SpLD
Eich Iechyd Corfforol
Gwybodaeth allweddol am y camau y mae angen i chi eu cymryd i gael mynediad at ofal a thriniaeth pan fo angen.