Gwasanaethau Myfyrwyr
Rydym yn darparu cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr, gan gynnwys cwnsela ac iechyd meddwl, cymorth anabledd, a rheoli arian.
Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys cwnsela, cyngor ariannol, a chymorth gydag anabledd a dyslecsia.
Rydym yn cefnogi myfyrwyr gydag ystod o anableddau, gan gynnwys anawsterau dysgu penodol.
Rydym hefyd yn cynnig cymorth iechyd meddwl a lles cyfrinachol am ddim.
Cwblhewch ein ffurflen cymorth Anabledd, Lles a Chwnsela i gychwyn arni.
Os ydych chi'n poeni am ffrind neu gyd-fyfyriwr, neu'n aelod o staff sy'n pryderu am fyfyriwr, gallwch wneud atgyfeiriad i'r gwasanaeth trwy ein ffurflen Achos Pryder.
Ewch i'r parth-g i drefnu apwyntiadau a chael help gydag ymholiadau anacademaidd. Mae staff cyfeillgar o’r tîm Cymorth i Fyfyrwyr a Chyflogadwyedd ar gael ar gampysau Cyncoed a Llandaf i ateb cwestiynau am wasanaethau myfyrwyr, cymorth i drefnu apwyntiadau, cynorthwyo gyda thaliadau ffioedd dysgu, dilysu cymwysterau, a mwy. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen parth-g.
Gall myfyrwyr presennol drefnu apwyntiadau i gael mynediad at ystod o wasanaethau trwy fewngofnodi i MetHub. Os oes angen cymorth arnoch gyda'r broses archebu, mae tîm parth-g yn barod i helpu.
Rydym yn cynnig pecyn cymorth llesiant rhyngweithiol ar-lein o’r enw “Being Well Living Well,” sydd ar gael trwy Moodle. Mae'r adnodd hwn wedi'i gynllunio i helpu myfyrwyr i gynnal eu hiechyd meddwl a'u lles. Archwiliwch y pecyn cymorth ar Moodle.
Gall myfyrwyr sy'n profi anawsterau ariannol fod yn gymwys i gael cymorth gan y brifysgol. I gychwyn y broses, llenwch y Ffurflen Gais Apwyntiad Cymorth Ariannol.
Gwybodaeth Cyswllt
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, gallwch gysylltu â ni drwy e-bost at studentservices@cardiffmet.ac.uk neu dros y ffôn ar 029 2041 6170. Mae ein swyddfeydd ar gampysau Llandaf a Chyncoed. I gael gwybodaeth gyswllt fanwl, ewch i'r dudalen Cysylltu â Ni.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob myfyriwr fynediad at y cymorth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i lwyddo’n academaidd ac yn bersonol.