Gwasanaeth Gyrfaoedd
Gallwch gyrchu gwasanaethau ac adnoddau sydd wedi’u cynllunio i wella’ch sgiliau cyflogadwyedd a’ch paratoi’n well ar gyfer byd gwaith.
Os ydych yn archwilio eich opsiynau gyrfa, yn chwilio am swydd, neu angen help gyda CV neu gyfweliad, rydym yma i helpu.
Fel un o raddedigion Met Caerdydd, gallwch barhau i gyrchu cymorth gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd.
Cyflogwyr
Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i’w helpu i gysylltu â’n corff myfyrwyr a denu’r talent gorau.
Archwilio ffyrdd o recriwtio ein myfyrwyr presennol a graddedigion diweddar.