Tynnu'n Ôl a Ffioedd
Tynnu'n Ôl o'ch Astudiaethau
Os ydych chi'n ystyried tynnu'n ôl o'ch astudiaethau mae yna rai pethau y bydd angen i chi eu hystyried. Efallai y byddwch yn gorfod talu rywfaint/i gyd o'ch ffioedd dysgu, yn dibynnu pryd gwnaethoch dynnu'n ôl. Bydd y swm hwn hefyd yn dibynnu ar sut y telir eich ffioedd dysgu.
Mae gwybodaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25 isod:
Ar gyfer Myfyrwyr Israddedig (Llawn Amser a Rhan-Amser) a Chyrsiau TAR
| Amser tynnu'n ôl | Ffioedd Dysgu a delir yn uniongyrchol trwy Gyllid Myfyrwyr | Ffioedd Dysgu heb eu hariannu trwy Gyllid Myfyrwyr |
Gwybodaeth yn seiliedig ar ddyddiad cychwyn y cwrs Medi 2024 | Pythefnos cyntaf y tymor - Hyd at 6 Hydref 2024 | Dim tâl | Dim tâl |
Cyfnod 1 - Hyd at 12 Ionawr 2025 | 25% | 40% | |
Cyfnod 2 - Hyd at 27 Ebrill 2025 | 50% | 70% | |
Cyfnod 3 - Unrhyw bryd o 28 Ebrill 2025 | 100% | 100% |
Ar gyfer Myfyrwyr Ôl-radd (Llawn Amser a Rhan-Amser) a Chyrsiau Ymchwil
| Amser tynnu'n ôl | |
Gwybodaeth yn seiliedig ar ddyddiad cychwyn y cwrs Medi 2024 | Pythefnos cyntaf y tymor - Hyd at 6 Hydref 2024 | Dim tâl |
Cyfnod 1 - Hyd at 12 Ionawr 2025 | 40% | |
Cyfnod 2 - Hyd at 27 Ebrill 2025 | 70% | |
Cyfnod 3 - Unrhyw bryd o 28 Ebrill 2025 | 100% |
Os ydych chi'n dechrau'r flwyddyn academaidd ymlaen ar bwynt 'nad yw'n draddodiadol' (h.y., Ionawr neu Ebrill) neu'n gwneud 'cwrs byr', cysylltwch â'r Tîm Ffioedd Dysgu (manylion isod) i egluro'r cyfnodau.
Gwybodaeth Bellach
Gallwch gysylltu â'n Tîm Ffioedd Dysgu yn tuitionfees@cardiffmet.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ynghylch sut y bydd tynnu'n ôl o'r Brifysgol yn effeithio ar eich taliadau ffioedd dysgu.
Gallwch gysylltu â'n Tîm Arian a Lles yn moneyadvice@cardiffmet.ac.uk neu ar 029 2041 6170 i drafod goblygiadau tynnu'n ôl o'r Brifysgol ar eich cyllid myfyrwyr.
Efallai yr hoffech chi siarad â'n Tîm Llety ar 029 2041 6188 neu ar accomm@cardiffmet.ac.uk i drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â thenantiaeth.