Skip to content

Hepgor Ffioedd

Sylwch fod y cynllun hepgor ffioedd bellach wedi cau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25, disgwylir iddo ailagor ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 yn nhymor yr Hydref.

Gyda chymorth Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr) rydym yn cynnig cynllun hepgor ffioedd (yn amodol ar argaeledd) i gefnogi myfyrwyr israddedig rhan-amser na fyddent fel arall yn cael mynediad i addysg uwch. Bydd ffioedd cwrs myfyrwyr cymwys yn cael eu talu gan Medr.

I fod yn gymwys ar gyfer hepgor ffioedd rhaid i chi:

  • beidio ag astudio mwy nag 20 credyd yn y flwyddyn academaidd hon
  • fod yn byw yng Nghymru, ac yn cael ei ystyried yn fyfyriwr ‘Cartref’
  • fod yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:

Myfyriwr neu deulu agos:

  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Ceiwyr Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant

Myfyriwr:

  • Lwfans neu Gredyd Gofalwr
  • Budd-dal yn ymwneud ag anabledd
  • Budd-dal Profedigaeth

Os nad yw’r meini prawf budd-daliadau uchod yn berthnasol i chi, gallai cyllid fod ar gael o hyd os ydych yn bodloni o leiaf un o’r canlynol:

  • rydych yn byw mewn ardal o amddifadedd economaidd-gymdeithasol neu gyfranogiad isel mewn addysg uwch
  • rydych yn derbyn budd-daliadau cymwys fel Credyd Cynhwysol
  • rydych yn perthyn i grŵp Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig
  • os ydych yn ffoadur neu’n geisiwr lloches
  • mae gennych anabledd
  • rydych yn ofalwr
  • rydych yn Gadael Gofal neu’n bod brofiad o fod mewn Gofal
  • rydych chi’n nodi eich bod yn LBGTQ+
  • nid yw eich rhieni/gwarcheidwaid wedi cael eu haddysgu i lefel addysg uwch
  • astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd (gyda thystiolaeth ategol os yw’n berthnasol) i tuitionfees@cardiffmet.ac.uk – teitl yr e-bost fel 'F W APP' gyda'r ID Myfyriwr Met Caerdydd – e.e., F W APP 20999999