Myfyrwyr Ôl-raddedig, Ymchwil a Rhan-Amser
Fel myfyriwr ôl-raddedig, ymchwil neu ran-amser, bydd eich ffioedd dysgu yn dibynnu ar y cwrs rydych chi’n dewis ei astudio. Bydd rhai rhaglenni hefyd yn wynebu costau ychwanegol at ffi’r cwrs a manylir ar y wybodaeth hon ar dudalen Costau Cwrs Ychwanegol.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r rhestr lawn o ffioedd ar gyfer rhaglenni amser llawn a rhan-amser.
Cyfeiriwch at Ganllaw Ffioedd Dysgu i gael rhagor o wybodaeth.
Ar hyn o bryd mae cefnogaeth ar gael trwy Gyllid Myfyrwyr ar gyfer astudio rhan-amser israddedig, ac mae mwy o fanylion ar eu tudalennau gwe:
Am y gefnogaeth gyfredol sydd ar gael trwy Gyllid Myfyrwyr, gellir dod o hyd i wybodaeth ar y tudalennau gwe isod:
- Cyllid Myfyrwyr Cymru
- Cyllid Myfyrwyr Lloegr
- Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon
- Asiantaeth Gwobrau Myfyrwyr yr Alban
Byddwch yn ymwybodol – diffyg cymhwysedd
Nid ydych yn gymwys ar gyfer y Benthyciad Myfyriwr PG os ydych chi’n trosglwyddo’ch credydau blaenorol gan ddefnyddio credydau Dysgu Blaenorol Cydnabyddedig (DBC) neu Ddysgu Blaenorol Achrededig (DBA), neu ychwanegiad mewn perthynas â’ch cwrs astudio. (Cyfeiriwch at ein tudalen gwe DBC i gael rhagor o wybodaeth am Ddysgu Blaenorol Cydnabyddedig.)
Os byddwch yn derbyn bwrsari GIG ar gyfer eich rhaglen astudio ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am fenthyciad.
Hefyd, byddwch yn ymwybodol, os canfyddir bod eich cais cyllid myfyriwr yn anghymwys yn ystod y cam ymgeisio neu ar ôl cofrestru, mae’n ofynnol i ni hysbysu’r SLC a gellir tynnu’ch benthyciad myfyriwr yn ôl.
Am gyngor pellach, cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Met Caerdydd gan ddefnyddio moneyadvice@cardiffmet.ac.uk.
Gall grantiau hyfforddi’r llywodraeth fod ar gael ar gyfer TAR Cynradd a rhai pynciau TAR Uwchradd. Nid oes angen gwneud cais am y grantiau ymlaen llaw gan fod y broses ymgeisio yn cael ei gweinyddu unwaith y byddwch yn cychwyn ar y rhaglen TAR os ydych yn gymwys. Gwneir taliad myfyrwyr Uwchradd ym mis Ionawr ac ym mis Gorffennaf ar ddiwedd y rhaglen TAR, unwaith y bydd SAC wedi’i gyflawni. Gwneir taliad i fyfyrwyr Cynradd ym mis Gorffennaf ar ddiwedd y rhaglen TAR, unwaith y bydd SAC wedi’i gyflawni. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Cymhellion Addysg Gychwynnol Athrawon.
Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig ystod o ysgoloriaethau doethuriaeth i helpu myfyrwyr sy’n gwneud ymchwil i ariannu eu hastudiaethau.
O ran benthyciadau ymchwil, bydd y PGL ar gyfer Cymru a Lloegr yn berthnasol i’r rheini sy’n astudio rhaglen MPhil 2 flynedd (amser llawn), ond ni fydd y rhai sy’n astudio MPhil rhan-amser neu MPhil sy’n arwain at PhD yn gymwys. Mae benthyciadau doethurol ar gyfer myfyrwyr PhD bellach ar gael hefyd a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth amdanynt ar y tudalennau gwe Cyllid Myfyrwyr uchod.
Mae ein hadran Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig gwasanaeth cymorth pe bai gennych unrhyw gwestiynau am gymorth posibl a allai fod ar gael i chi wrth ichi astudio. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma neu e-bostiwch moneyadvice@cardiffmet.ac.uk.
Mae gwefannau ac adnoddau defnyddiol eraill ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ac ymchwil sy’n chwilio am gyfleoedd cyllido yn cynnwys: