Disgownt i Gyn-fyfyrwyr
Mae’r Disgownt i Gyn-fyfyrwyr yn cynnig gostyngiad o 20% ar gyrsiau Met Caerdydd i raddedigion blaenorol sy'n cofrestru ar Alumni-Discount-TC-25-26-CYM o fis Medi 2025 ymlaen.
Cymhwysedd
Bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso’n awtomatig os byddwch yn bodloni’r holl ofynion canlynol:
a. Mae'n rhaid i chi fod yn fyfyriwr amser llawn neu ran-amser blaenorol o Met Caerdydd (neu UWIC/Athrofa Addysg Uwch Caerdydd). Mae hyn yn cynnwys partneriaid masnachfraint.
b. Rydych wedi cyflawni cymhwyster israddedig neu ôl-raddedig gyda ni (gan gynnwys cymwysterau TAR).
c. Rydych wedi cofrestru ac yn astudio ar raglen ôl-raddedig ar gampws Prifysgol Metropolitan Caerdydd yng Nghaerdydd; neu eich bod wedi cofrestru ac yn astudio ar raglen ymchwil naill ai wedi'i lleoli ar gampws yng Nghaerdydd neu ar-lein, yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26.
ch. Rhaid i chi fod yn atebol am gost ffioedd dysgu llawn eich cwrs ôl-raddedig a chael eich ariannu'n gyfan gwbl breifat (caniateir cyllid gan Gyllid Myfyrwyr Cymru/Lloegr) a pheidio â derbyn nawdd gan unrhyw gorff arall (e.e. cyflogwr, darparwr unrhyw ysgoloriaeth neu fwrsariaeth arall) a hefyd heb dderbyn unrhyw daliadau cymhelliant (e.e. cymhelliant y llywodraeth).
Os bydd eich amgylchiadau ariannol yn newid, er enghraifft os derbynnir cyfraniad ariannol tuag at eich ffioedd gan noddwr yn ystod eich cwrs, sy'n para mwy na blwyddyn, ni ddyfernir y Disgownt i Gyn-fyfyrwyr am y blynyddoedd dilynol.
Nid ydych yn gymwys i gael y wobr os ydych yn un o’r canlynol:
- cofrestru ar raglen Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol cwrs TAR/Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg. (Nid yw'r rhaglen hon ar gael oherwydd ei bod yn is na lefel ôl-raddedig. Mae cwrs TAR Cynradd ac Uwchradd yn gymwys i gael y gostyngiad)
- myfyriwr Erasmu
- myfyriwr o bartner masnachfraint nad yw yn y DU, sy'n ymgymryd â'ch cwrs ôl-raddedig dramor
- yn derbyn gostyngiadau staff neu bartneriaeth gyfredol
- yn derbyn unrhyw ddyfarniad Bwrsariaeth y GIG.
Telerau ad Amodau
Gweler y Telerau ac Amodau i gael cymhwysedd llawn. Mae'n bwysig eich bod yn darllen y telerau ac amodau i ddeall eich hawliau a'ch cyfrifoldebau mewn perthynas â'r Disgownt i Gyn-fyfyrwyr.
Cwestiynau Cyffredin
A. Bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso'n awtomatig i ffioedd, ar gyfer y rhai sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ar yr amod eich bod wedi cofrestru ac nad ydych wedi tynnu'n ôl o fewn pythefnos cyntaf y cwrs.
A: Ydy, mae'r gostyngiad i gyn-fyfyrwyr ar gael i raddedigion cartref, yr UE a rhyngwladol. Ar gyfer graddedigion yr UE a Rhyngwladol o Met Caerdydd, gweler y tudalennau Ysgoloriaethau Rhyngwladol a ‘Ysgoloriaeth Cyn-fyfyrwyr’.
A: Ydych, os ydych chi'n bodloni'r holl fanylion meini prawf cymhwysedd uchod, yna bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso'n awtomatig i'ch ffioedd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais i'r cwrs newydd gan ddefnyddio'r un manylion mewngofnodi ag y gwnaethoch ar gyfer eich astudiaethau blaenorol, fel y gallwn gadw eich holl gofnodion o dan yr un rhif myfyriwr. Os oes gennych unrhyw broblemau gyda hyn, e-bostiwch scholarship@cardiffmet.ac.uk.
A: Rydych yn hunan-ariannu os ydych chi'n talu'ch holl ffioedd dysgu eich hun. Gall hyn gynnwys cymorth ariannol gan ffrind neu berthynas, a/neu Fenthyciadau Ôl-raddedig gan Lywodraeth Cymru neu Loegr.
A: Nid oes terfyn amser mewn perthynas â phryd y cwblhawyd y cymhwyster.
A: Oes, cyn belled eich bod chi’n bodloni gweddill y meini prawf cymhwysedd.
A: Byddwch, cyn belled y byddwch chi'n bodloni gweddill y meini prawf cymhwysedd.
A: Gallwch, gellir dyfarnu'r Disgownt i Gyn-fyfyrwyr i chi eto, ar yr amod nad oes statws academaidd gwael neu ddyledion i'r brifysgol.
A: Ydyn, Oes, y gostyngiad yn cael ei gymhwyso i'r costau a dynnir os byddwch chi'n tynnu'n ôl. Cyfeiriwch at y wybodaeth ar ein tudalennau rheoleiddio ffioedd mewn perthynas â chanran y costau sy'n cael eu hwynebu os bydd myfyriwr yn tynnu'n ôl.
A: d angen i chi gynllunio’n bell ymlaen llaw sut rydych yn mynd i dalu eich ffioedd dysgu a chynnal eich hun wrth i chi astudio eich rhaglen ôl-raddedig. Gall ein Tîm Cyngor Ariannol gynnig cymorth a gwybodaeth i chi am amrywiaeth o ffynonellau cyllid ôl-raddedig.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr, cysylltwch â Derbyniadau ar scholarship@cardiffmet.ac.uk