Ffioedd a Chyllid
Bydd y tudalennau hyn yn eich tywys drwy'r opsiynau cyllido a'r gefnogaeth ariannol sydd ar gael i helpu i ariannu eich amser yn y Brifysgol.
O Fenthyciadau Ffioedd Dysgu a Benthyciadau Cynhaliaeth, i'r grantiau, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau nad oes rhaid eu had-dalu a allai fod ar gael. Cliciwch ar y dolenni perthnasol isod i ddarganfod mwy, neu gysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion perthnasol os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Ar gyfer Myfyrwyr Israddedig, darganfyddwch fwy am opsiynau Cyllid Myfyrwyr, gan gynnwys ffioedd dysgu, benthyciadau cynhaliaeth, a chymorth penodol i fyfyrwyr Cartref (DU/UE).
Os ydych chi'n ystyried Astudio Ôl-raddedig neu Ran-amser, dewch o hyd i wybodaeth am ffioedd dysgu ac opsiynau ariannu wedi'u teilwra ar gyfer dysgwyr ôl-raddedig, ymchwil, neu ran-amser.
Ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol, darganfyddwch wybodaeth fanwl am ffioedd dysgu ac ysgoloriaethau sydd ar gael i helpu i gefnogi eich astudiaethau ym Met Caerdydd.