Skip to content

Cofrestrfa Academaidd

Mae’r Gofrestrfa Academaidd, dan arweiniad Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r Gofrestrfa, yn gyfrifol am weinyddiaeth academaidd a myfyrwyr. Mae’n gweithio’n agos gyda’r holl ysgolion academaidd ac adrannau gweinyddu a chymorth eraill.

Gweler y ddogfen isod am grynodeb o’r canlynol:

  • cymorth academaidd a lles sydd ar gael i fyfyrwyr
  • darpariaethau o fewn y rheoliadau academaidd a all o bosibl helpu myfyrwyr y gallai eu hastudiaethau fod wedi cael eu hamharu

Cymorth a Darpariaethau Myfyrwyr o fewn Rheoliadau Academaidd

 

Datganiad Canlyniadau Gradd

Fel y nodwyd gan Bwyllgor Sefydlog y DU ar gyfer Asesu Ansawdd (UKSCQA) yn eu Datganiad o Fwriad, mae disgwyl i ddarparwyr Addysg Uwch yng Nghymru (a gweddill y DU) adolygu a chyhoeddi ‘data canlyniadau myfyrwyr fel rhan o raddnodi parhaus arferion asesu a dosbarthu’.

Cynhyrchwyd Datganiadau Canlyniadau Gradd Prifysgol Metropolitan Caerdydd isod yn unol â chanllawiau UKSCQA, ac fe’i cymeradwywyd gan Fwrdd Llywodraethwyr y Brifysgol.