Cymorth
Ym Met Caerdydd, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y cyfle gorau i gyflawni eu potensial academaidd a phroffesiynol. Mae ein timau ymroddedig wrth law i ddarparu cefnogaeth trwy gydol eich astudiaethau, waeth beth fo unrhyw heriau y gallech eu hwynebu.
Archwiliwch y dolenni isod i ddarganfod mwy am ein gwasanaethau cymorth.
Ffioedd a Chyllid
Popeth mae'n rhaid i chi ei wybod am ffioedd dysgu, bwrswriaethau ac ysgoloriaethau a'r opsiynau cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr israddedig neu ôl-raddedig. Gallwch hefyd darganfod mwy am ein Cynllun Ffioedd a Mynediad. Mae gwybodaeth i fyfyrwyr rhyngwladol ar gael yma.
Gwasanaethau Myfyrwyr
Mae ein staff arbenigol yn cynnig cyngor diduedd a chyfrinachol a chymorth am arian, lles, anabledd, dyslecsia a chefnogaeth dysgu arbenigol, i'ch cefnogi tra'r ydych yn cyflawni eich uchelgeisiau academaidd.
Gwasanaeth Gyrfaoedd
Bydd gennych chi fynediad at amrywiaeth o gefnogaeth pwrpasol i wella eich sgiliau cyflogadwyedd a rhagolwg dyfodol. Archwiliwch y cymorth sydd ar gael i chi pan fyddwch yn ymuno â Met Caerdydd neu sut i gael mynediad at gefnogaeth gyrfaoedd ar ôl i chi raddio. Rydym hefyd yn rhoi cyfle i chi ehangu eich sgiliau trwy'r Ganolfan Entrepreneuriaeth.
Cyngor i Ymgeiswyr
Darganfyddwch wybodaeth defnyddiol ac awgrymiadau i'ch helpu wneud cais i astudio gyda ni. O dyddiadau cau i brosesau ar gyfer myfyrwyr Israddedig i Hyfforddiant i Athrawon neu ymgeiswyr Ôl-raddedig a Rhan-amser. Gwelwch hefyd wybodaeth ar gyfer Personél y Lluoedd Arfog ac unrhyw un sydd angen gwiriad DBS, yn ogystal ag ein polisiau a Thelerau ac Amodau.
Cofrestrfa Academaidd
Cyrchwch fynediad i'r Llawlyfr Academaidd a dysgwch am ffynnonellau cefnogaeth o fewn rheoliadau academaidd. Darganfyddwch fwy am y broses cwynion neu apeliadau, yn ogystal â Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR) a sut i gyrchu Trawsgrifiadau a Thystysgrifau.