Skip to content

Ysgoloriaethau Chwaraeon

Gwobrau

Rydym yn ymfalchïo yn yr amgylchedd a’r gwasanaethau cymorth a ddarparwn i’n holl fyfyrwyr sy’n athletwyr yn ein rhaglenni perfformiad i’w cefnogi i ddatblygu. Trwy ein rhaglenni perfformiad, mae gan fyfyrwyr sy’n athletwyr fynediad at hyfforddwyr pwrpasol, gwasanaethau cymorth mewnol a staff academaidd integredig sy'n darparu pecyn cymorth ar y campws gwerth miloedd o bunnoedd i bob myfyriwr.

Yn ogystal â hyn rydym yn cynnig ysgoloriaethau chwaraeon i'n myfyrwyr sy’n athletwyr mwyaf talentog. Rydym yn ymfalchïo mewn ymrwymo i fyfyrwyr sy’n athletwyr trwy eu hastudiaethau a dim ond i fyfyrwyr newydd (gan gynnwys fyfyrwyr Israddedig Met Caerdydd sy'n symud ymlaen i astudiaethau Ôl-raddedig) y cynigiwn ysgoloriaethau. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig ysgoloriaethau amodol am gyfnod yr astudioaeth.

Mae ysgoloriaethau ar gael hyd at yr uchafswm canlynol.

Ysgoloriaeth Blwyddyn 1 Blwyddyn 2 Blwyddyn 3 Cyfanswm

Israddedig - Myfyrwyr cartref (DU)

£3,000 £2,000 £2,000 £7,000

Israddedig - Myfyrwyr rhyngwladol

£5,000 £3,000 £3,000 £11,000
Ysgoloriaeth Swm

Cyn-fyfyrwyr ôl-raddedig - Myfyrwyr Cartref (DU)

£2,000 + gostyngiad i gynfyfyrwyr

Cyn-fyfyrwyr ôl-raddedig - Myfyrwyr Cartref (DU)

£4,200

Israddedig - Myfyrwyr rhyngwladol

£5,000

Proses ymgeisio a meini prawf

Rydym yn rhedeg dwy ymagwedd at ysgoloriaethau yn dibynnu ar y chwaraeon.

Rhaglenni Perfformiad

Rydym yn gweithredu Rhaglenni Perfformiad mewn Athletau, Pêl-fasged Merched, Pêl-fasged Cadair Olwyn, Criced Dynion, Pêl-droed Dynion a Merched, Hoci Dynion a Merched, Pêl-rwyd, Rygbi Dynion a Merched, Tennis a Thriathlon.

Nid ydym yn gweithredu proses ymgeisio ar gyfer ein rhaglenni perfformiad. Bydd ein staff hyfforddi a rhaglen yn nodi unrhyw fyfyrwyr sydd â photensial i dderbyn ysgoloriaeth drwy'r broses recriwtio. Mae ein gwobrau yn cyd-fynd ag anghenion ein timau a'n sgwadiau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Rhaglen Berfformiad berthnasol.

Rhaglenni Di-Berfformiad

Y meini prawf ar gyfer y chwaraeon hwn yw;

  • Lefel genedlaethol a rhyngwladol - bydd hyn yn cael ei ystyried yn briodol i'r chwaraeon. Rhoddir ystyriaeth i'r llwybr a'r strwythur cystadlu ar gyfer cynrychiolaeth y grŵp chwaraeon, hŷn a grŵp oedran. Ar gyfer myfyrwyr y DU, rhoddir ystyriaeth i gynrychiolaeth y wlad gartref a Phrydain Fawr mewn perthynas â'r llwybr ar gyfer y chwaraeon penodol.
  • Lle mae'r chwaraeon yn chwaraeon BUCS, bydd ceisiadau'n cael eu hystyried yn erbyn safonau ennill medalau/cynghrair cenedlaethol o fewn y chwaraeon.
  • Ni fydd bodloni'r meini prawf yn gwarantu ysgoloriaeth.

Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer ysgoloriaeth, cwblhewch y ffurflen gais. https://forms.office.com/e/TqaYYDTsHs

Rydym yn gweithredu proses dreigl o adolygu ceisiadau a dyfarnu.

Cyswllt

Ollie Toogood, Pennaeth Systemau Chwaraeon, otoogood@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud yn benodol â Rhaglenni Perfformio, cysylltwch â staff y chwaraeon.