Skip to content

Diwrnodau Agored Perfformiad Chwaraeon

Mae’r digwyddiadau hyn ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau darganfod mwy am y cyfleoedd i chwarae Chwaraeon ar lefel elitaidd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae’r digwyddiadau yn canolbwyntio ar y chwaraeon penodol, nid ydynt yr un fath â Diwrnodau Agored israddedig neu ôl-raddedig neu Ddiwrnodau Ymgeiswyr.

Mae’r digwyddiadau wedi’u hanelu at ddarpar fyfyrwyr (y rhai sydd heb wneud cais eto) ac ymgeiswyr.

Pryd maent yn cael eu cynnal?

​Mae’r dyddiadau’n amrywio. Cyfeiriwch at yr adrannau unigol isod. I gofrestru eich diddordeb mewn mynychu, dilynwch y dolenni isod:

Gwybodaeth digwyddiadau i ddod.

Digwyddiad Chwaraeon Perfformiad Rygbi Merched

26 Chwefror 2025, 16:00 – 21:00

Darganfyddwch fwy am y rhaglen rygbi ym Met Caerdydd, ewch ar daith o amgylch y campws a gofynnwch i'r tîm Recriwtio Myfyrwyr ateb eich cwestiynau. Byddwch hefyd yn cael cwrdd â'r chwaraewyr a gwylio gêm yn erbyn Hartpury.

ARCHEBU EICH LLE

Digwyddiad Rygbi Dynion Chwaraeon Perfformiad

5 Mawrth 2025, 16:00 – 21:00

Darganfyddwch fwy am y rhaglen rygbi ym Met Caerdydd, ewch ar daith o amgylch y campws a gofynnwch i'r tîm Recriwtio Myfyrwyr ateb eich cwestiynau. Byddwch hefyd yn cael gwylio ein tîm Rygbi Super BUCS mewn gêm yn erbyn Nottingham./p>

ARCHEBU EICH LLE

Digwyddiad Chwaraeon Perfformiad Rygbi Dynion

12 Mawrth 2025, 16:00 – 21:00

Darganfyddwch fwy am y rhaglen rygbi ym Met Caerdydd, ewch ar daith o amgylch y campws a gofynnwch i'r tîm Recriwtio Myfyrwyr ateb eich cwestiynau. Byddwch hefyd yn cael gwylio ein tîm Rygbi Super BUCS mewn gêm yn erbyn Durham.

ARCHEBU EICH LLE