Dosbarthiadau Iechyd Ffitrwydd
Mae dosbarthiadau yn agored i aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau, ac maent yn cael eu harchebu trwy Ap Chwaraeon Met Caerdydd.
- Gall aelodau archebu dosbarthiadau am ddim gan ddefnyddio Ap Chwaraeon Met Caerdydd.
- Mae'n ofynnol i'r rhai nad ydynt yn aelodau sefydlu proffil 'Talu Wrth Fynd' ar Ap Chwaraeon Met Caerdydd.
Mae amserlenni dosbarthiadau ar gael trwy'r ap.
Gwybodaeth Dosbarth
- Mae dosbarthiadau'n addas ar gyfer pob lefel gallu.
- Rhaid i'r cyfranogwyr fod yn 16 oed neu'n hŷn (oni nodir yn wahanol yn disgrifiad o'r dosbarthiadau isod).
- Rhowch wybod i'r Hyfforddwr os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol a allai effeithio ar eich gallu i wneud ymarfer corff.
- Ni fydd dosbarthiadau ar wyliau banc.
Ffoniwch 029 2041 6743 (Canolfan Ffitrwydd Cyncoed) neu 029 2041 6779 (Canolfan Ffitrwydd Llandaf) i gael rhagor o wybodaeth.
Fel arall, e-bostiwch Birute Webb, y Rheolwr Iechyd a Ffitrwydd: bpielikyte@cardiffmet.ac.uk.
Disgrifiadau o'r Dosbarthiadau
Mae’r ymarfer corff llawn hwn yn canolbwyntio ar adeiladu cyhyrau, cynyddu dygnwch, a gwella ffitrwydd cyffredinol drwy ymarferion barbwysau. Yn addas ar gyfer pob lefel o allu, mae’r dosbarth yn cynnwys cynhesu deinamig a symudiadau cyfansawdd fel cyrcydu, codi pwysau marw, pwyso a rhwyfo, a dadgynhesu trylwyr.
Sesiwn ymarfer corff mewn grwpiau sydd wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer unigolion sy'n newydd i hyfforddiant cryfder neu sydd â phrofiad cyfyngedig o godi pwysau. Prif ffocws y dosbarth hwn yw cyflwyno ymarferion cryfder sylfaenol a darparu amgylchedd cefnogol ac ysgogol.
Mae’r ymarfer di-offer hwn, yn adeiladu cyhyrau, yn cynyddu dygnwch, ac yn gwella ffitrwydd cyffredinol gan ddefnyddio ymarferion fel gwrthwasgu, cyrcydu, rhagwthio a phlanciau. Yn berffaith ar gyfer pob lefel o allu, mae ein hyfforddwyr yn eich tywys drwy’r ffordd gywir o ymarfer corff ac yn cynnig addasiadau personol.
Prif ffocws dosbarth ffitrwydd bŵtcamp yw gwella lefelau ffitrwydd cyffredinol, llosgi calorïau, adeiladu cryfder, cynyddu dygnwch, a gwella iechyd cardiofasgwlaidd. Gall cyfranogwyr ddisgwyl chwysu, herio eu hunain, a chael profiad o ymarfer corff cyfan mewn amgylchedd grŵp cefnogol ac egnïol. Gall bŵtcamps fod dan do ac yn yr awyr agored a defnyddio amrywiaeth o offer fel clychau tegell, peli ymarfer, bagiau pwnio a rhaffau brwydro.
Nod y dosbarth hwn yw datblygu craidd cryf, gwella sefydlogrwydd a chydsymud, a gwella ffitrwydd swyddogaethol cyffredinol, gan ei wneud yn fuddiol i unigolion o bob lefel ffitrwydd ac oedran.
Mae'r dosbarth hwn yn sesiwn ymarfer corff wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer anghenion ffitrwydd y teulu cyfan. Mae'n canolbwyntio ar greu amgylchedd hwyliog a deniadol lle gall aelodau'r teulu ymarfer gyda'i gilydd a chefnogi ei gilydd ar eu taith ffitrwydd.
Math o ymarfer corff sy’n canolbwyntio ar wella cryfder, dygnwch, hyblygrwydd a symudedd cyffredinol drwy ymarferion sy’n dynwared symudiadau bywyd go-iawn yw hwn. Fe’i cynlluniwyd i wella eich gallu i gyflawni tasgau bob dydd yn effeithlon a gyda llai o risg o anaf. Mae awyrgylch y dosbarth yn gefnogol a chynhwysol, gan feithrin ymdeimlad o gymuned ymhlith cyfranogwyr.
Ymarfer seiclo dan do mewn dilyniant gyda cherddoriaeth ysgogol. Gall aelodau losgi hyd at 620 o galorïau fesul ymarfer trwy sesiwn hyfforddi a fydd yn caniatáu iddynt ddod yn ffit yn gyflym. Bydd y dosbarth hwn yn darparu symudiadau seiclo sylfaenol, sefyll i fyny, eistedd i lawr, newid cyflymder, a newid safle llaw. Ffordd wych i adeiladu ymdeimlad o'ch cyflawniad personol eich hun sydd wedi'i osod ar eich cyflymder eich hun.
Mae'r sesiwn hon yn sesiwn rhedeg sy'n amrywio rhwng cyfnodau o ymarfer dwyster uchel a chyfnodau o adferiad dwyster is. Nod y sesiynau hyn yw gwella systemau egni aerobig ac anaerobig a gallu ymarfer am gyfnod hirach ac ar lefelau dwysach. Gall sesiynau ymarfer gynnwys Sesiynau Rhedeg Seibiannol, Bryniau, Trac / Melin Draed a mwy.
Ymunwch â'n Clwb Codi Merched a grymuso'ch hun trwy hyfforddiant cryfder mewn amgylchedd cefnogol sy'n canolbwyntio ar fenywod. Mae'r dosbarth hwn wedi'i gynllunio i adeiladu cyhyrau, cynyddu hyder, a gwella ffitrwydd cyffredinol trwy amrywiaeth o ymarferion codi pwysau. Mae ein hyfforddwyr yn rhoi arweiniad ar ffurf gywir, technegau, a dilyniannau personol wedi'u teilwra i'ch lefel ffitrwydd.">Ymunwch â'n Clwb Codi Pwysau ar gyfer Menywod a grymuso'ch hun trwy hyfforddiant cryfder mewn amgylchedd cefnogol sy'n canolbwyntio ar fenywod. Mae'r dosbarth hwn wedi'i gynllunio i adeiladu cyhyrau, cynyddu hyder, a gwella ffitrwydd cyffredinol trwy amrywiaeth o ymarferion codi pwysau. Mae ein hyfforddwyr yn rhoi arweiniad ar ffurf gywir, technegau, a dilyniannau personol wedi'u teilwra i'ch lefel ffitrwydd.
Dosbarth ffitrwydd poblogaidd yw hwn sydd wedi’i gynllunio i dargedu a chryfhau tair rhan benodol o’r corff: y coesau, y penwain, a chyhyrau’r abdomen. Mae’n ymarfer cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar ymarferion hyfforddi cyflyru cryfder i helpu cerflunio a chryfhau’r meysydd allweddol hyn. Mae’r dosbarth wedi’i gynllunio ar gyfer pob lefel o ffitrwydd a gallu - o’r dechreuwyr i’r rhai mwy profiadol.
Ymarfer dwyster uchel sy’n cyfuno hyfforddiant cryfder swyddogaethol gydag ymarferion dygnwch. Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys amrywiaeth o orsafoedd megis rhwyfo, rhedeg, gwthio sled, a symudiadau pwysau corff. Gwthiwch eich terfynau, adeiladwch gryfder, a chynyddwch eich dygnwch mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol.
Gwella’ch hyblygrwydd a’ch symudiad gyda’n dosbarth Symudedd! Mae’r sesiwn hon yn canolbwyntio ar ymarferion ac ymestyniadau sydd wedi’u cynllunio i gynyddu eich ystod symudedd, lleihau stiffrwydd cyhyrau ac atal anafiadau. Yn addas ar gyfer pob lefel ffitrwydd.
Mae'r dosbarth hwn yn cynnig ymarfer corff cynhwysfawr sy'n targedu'r corff cyfan, yn gwella cryfder eich craidd, yn gwella hyblygrwydd, ac yn hyrwyddo cysylltiad meddwl-corff. Mae ymarferion Pilates yn aml yn canolbwyntio ar y cyhyrau craidd, gan gynnwys y bol, rhan isaf y cefn, y cluniau a chyhyrau’r ffolennau. Mae’r dosbaeth hwn addas ar gyfer unigolion o bob lefel ffitrwydd a gellir eu haddasu i gwrdd ag anghenion a nodau unigol.
Gallwch gael blas ar sesiynau ffitrwydd personol gyda’n Sesiwn Blasu Hyfforddiant Personol unigryw! Mae’r profiad rhagarweiniol hwn yn cynnig cipolwg ar fyd hyfforddiant un-i-un wedi’i deilwra’n benodol i’ch nodau a’ch anghenion.
Mae'r dosbarthiadau hyn yn addas ar gyfer pob lefel gallu ac yn cyfuno ystumiau penodol, technegau anadlu ac ymwybyddiaeth ofalgar i annog y corff a'r meddwl i ymlacio. Mae’r sesiynau hyn yn defnyddio ymarferion sy’n canolbwyntio ar gryfder, hyblygrwydd ac anadlu sy’n sicr o hybu lles corfforol a meddyliol.