Partneriaid Wallace Group
UK Sport Ideals
Mewn partneriaeth â Rhaglen IDEALS a arweinir gan Chwaraeon y DU (Datblygiad Rhyngwladol trwy Ragoriaeth ac Arweinyddiaeth mewn Chwaraeon), mae’r prosiect yn blaenoriaethu cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth chwaraeon o ansawdd uchel, blaengar a chydgysylltiedig ar gyfer y DU a Zambia.
International Inspiration
Mae International Inspiration (IN) yn elusen a sefydlwyd yn dilyn Gemau Olympaidd Llundain 2012 ac ymunodd â UK Sport a Wallace Group yn 10fed flwyddyn Prosiect IDEALS. Mae IN yn defnyddio pŵer chwaraeon i gynnwys, ysbrydoli ac effeithio’n gadarnhaol ar fywydau plant, pobl ifanc a grwpiau ymylol ledled y byd.
Sport in Action
Sefydliad anllywodraethol (NGO) yw SIA sydd wedi’i leoli yn Zambia a sefydlwyd ym 1998. Mae staff a gwirfoddolwyr yn gweithio gyda phlant ar draws 24 o ardaloedd yn Zambia gyda’r nod o wella ansawdd bywydau pobl trwy chwaraeon a gweithgareddau hamdden. Ewch i dudalen Facebook SIA am ragor o wybodaeth.
Datganiad cenhedaeth:
"Bydd Sport in Action yn ymdrechu i ddefnyddio chwaraeon a hamdden fel arf i wella ansawdd bywydau plant trwy ddarparu rhaglen a fydd yn ysgogi cymhelliant, hunanddatblygiad, amddiffyn plant a hunanddibyniaeth trwy rymuso cymdeithasol ac economaidd".
Umutima
Mae Umutima yn elusen yn seiliedig yn y DU yn 2007 gan y Wallace Group a chyn-fyfyrwyr IDEALS.
"Educate, Empower, Inspire"
The Perfect Day Foundation
Sefydlwyd y Perfect Day Foundation yn 2008 i sicrhau y bydd y cyfeillgarwch a ffurfiwyd ar feysydd chwaraeon Zambia yn datblygu er budd cenedlaethau pellach o chwaraeon, yn Zambia a’r DU. Darganfod mwy yma.