Gymnasteg
Croeso i Gymnasteg Met Caerdydd! Rydym yn cynnig rhgalen gymasteg, sydd yn agor i fechgyn a merched, gan ganolbwyntio ar y dysgu a datblygiad o sgiliau celfydd gymnasteg mewn amgylchedd hwyliog.
Wedi lleoli yng Nghaerdydd, mae ein dosbarthiadau a rhaglenni yn deilwredig i amryw o alluoedd, yn darparu ar gyfer dechreuwr newydd a'r rhai sydd â phrofiad blaenorol. Gweler isod trosolwg manylach o'r dosbarthiadau sydd gennym i'w cynnig.
Mae ein hamserlen wythnosol gyfredol yn ystod y tymor ar gyfer 2023/24 i’w gweld isod:
Lefel 1-2 Hamddenol |
|
Lefel 3-4 Hamddenol |
|
Lefel 5-6 Hamddenol |
|
Lefel 7+ Hamddenol |
|
Datblygol |
|
Canolraddol Cystadleuol |
|
Trefnir y dosbarthiadau hyn ar sail gallu unigol. Nod y dosbarthiadau hyn yw caniatáu i'n gymnastwyr hamdden symud ymlaen trwy ein system lefelau ein hunain sydd wedi'i datblygu i helpu i ddatblygu sgiliau a hyder. Rhennir y rhaglen hon yn 4 dosbarth, gan gynyddu mewn anhawster wrth i'r lefelau fynd yn eu blaenau; Dosbarth Lefel 1&2, Dosbarth Lefel 3&4, Dosbarth Lefel 5&6, Dosbarth Lefel 7+. Mae gymnastwyr yn cael eu symud i fyny i ddosbarthiadau yn ôl disgresiwn yr hyfforddwyr. Os nad ydych yn siŵr pa ddosbarth lefel i'w archebu, cysylltwch â ni.
Mae’r dosbarth hwn ar gyfer rhai 8+ oed, sydd ar hyn o bryd yn hyfforddi ar lefel 5 neu uwch, ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli’r Academi mewn cystadlaethau. Mae'r hyfforddiant a'r strwythur dosbarthiadau yn wahanol i'n dosbarthiadau Hamdden, gan ei fod yn anelu at baratoi arferion a sgiliau sy'n caniatáu i'r gymnastwyr gystadlu. Bydd y dosbarth hwn yn ychwanegol at ddosbarthiadau hamdden y gymnastwr. Gellir trefnu treialon yn unigol yn ôl disgresiwn yr hyfforddwyr.
Dyma ein dosbarth gymnasteg mwyaf datblygedig. Mae gymnastwyr yn hyfforddi o leiaf 4 awr yr wythnos mewn amgylchedd grŵp bach, gan ganiatáu ar gyfer yr amser cyswllt gorau posibl gyda hyfforddwyr. Mae'r dosbarthiadau hyn yn dilyn rhaglen hyfforddi fwy trwyadl ar draws yr holl gyfarpar i baratoi ar gyfer cystadlaethau. Mae gymnastwyr yn y grŵp hwn mor ifanc â 6 oed ac yn mynychu trwy wahoddiad hyfforddwr. Gellir trefnu treialon yn unigol yn ôl disgresiwn yr hyfforddwyr.
Rydym yn cynnig dosbarth ‘talu wrth fynd’ i’r rhai sydd â diddordeb mewn strwythur dosbarth mwy hamddenol. Mae'r dosbarth hwn yn caniatáu i gymnastwyr o unrhyw allu, boed yn ddechreuwyr neu'n brofiadol, fynychu a defnyddio ein cyfleusterau dan oruchwyliaeth ein hyfforddwyr cymwys. Gall gymnastwyr fynychu mor rheolaidd ag y dymunant, ac mae ganddynt ryddid i ddewis eu ffocws ar gyfer pob dosbarth. Mae Teen Gym ar gael i rai rhwng 13 a 17 oed, tra bod Gymnasteg Oedolion yn darparu ar gyfer unigolion 18+.
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel clwb, rydym yn anelu at roi cyfle i bawb brofi gymnasteg mewn amgylchedd diogel a llawn hwyl. Rydym am roi'r blociau adeiladu corfforol a chymdeithasol i blant y gallant eu cario i mewn ac allan o'r gampfa, yn ogystal â meithrin hyder a gwella iechyd ein haelodau hŷn.
Mae diogelu a lles plant o'r pwys mwyaf i ni. Rydym yn gweithio’n agos gyda Gymnasteg Cymru a Phrydain yn ogystal â’n Swyddog Lles i sicrhau bod ein polisïau’n gyfredol ac yn cael eu gweithredu’n gywir, gan ddarparu amgylchedd sy’n canolbwyntio ar gymnastwyr. Mae pob un o’n hyfforddwyr wedi’u cofrestru gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd trwy Brifysgol Met Caerdydd ac wedi mynychu a chyflawni gwobr Diogelu a Lles gan Gymnasteg Prydain a Chymru.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau lles, mae croeso i chi gysylltu â’n Swyddog Lles, Emma Williams: ewilliams@cardiffmet.ac.uk.
Jazz Tredinnick - Prif Hyfforddwr
- Hyfforddwr Gymnasteg Cyffredinol Lefel 2
- Hyfforddwr Gymnasteg Artistig Merched Lefel 1
Ebost: jhtredinnick@cardiffmet.ac.uk
Emma Williams - Swyddog Lles
- Hyfforddwr Gymnasteg Artistig Merched Lefel 2
Ebost: ewilliams@cardiffmet.ac.uk
Abbie Moore - Hyfforddwr Gymnasteg Arweiniol
- Hyfforddwr Gymnasteg Artistig Lefel 2
- Barnwr Clwb
Kayleigh Gaznuri-Symmes - Hyfforddwr Gymnasteg
- Hyfforddwr Gymnasteg Cyffredinol Lefel 1
Thea Jones - Hyfforddwr Gymnasteg
- Hyfforddwr Gymnasteg Cyffredinol Lefel 1
- Barnwr Clwb