Cystadlaethau a Chanlyniadau
Mae Athletau Cardiff Archers yn cystadlu mewn nifer o gynghreiriau yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys:
- Welsh Junior Development League (Adran Dwyreiniol) - Blwyddyn Ysgol 4 - Blwyddyn Ysgol 9
- UK Youth Development League (Is) - Blwyddyn Ysgol 6 - Blwyddyn Ysgol 9
- UK Youth Development League (Uwch) - Blwyddyn Ysgol 10 - Blwyddyn Ysgol 13
- Welsh Virtual Senior League - Blwyddyn Ysgol 10 - Henoed
- Cynghrair Gwent - 9 oed i henoed
Mae athletwyr yn gwbl gysylltiedig ag Athletau Cymru ac felly gallant gystadlu mewn unrhyw ddigwyddiad rhedeg ffordd, mynydd neu rhostir o dan enw clwb Cardiff Archers Athletics.
Gall athletwyr fynychu cyfarfodydd agored, yn ogystal â Phencampwriaethau Rhanbarthol, Cymru a’r DU dros Cardiff Archers yng nghystadlaethau Trac a Maes, Traws Gwlad, Rhedeg Ffordd a Rhedeg Mynydd/Rhostir.
Grwpiau Oedran
Mae'r grwpiau oedran ar gyfer trac a maes yn wahanol i'r grwpiau oedran ar gyfer traws gwlad yn ystod tymor y gaeaf. Sylwer hefyd mae'r grwpiau oedran Ysgolion (SIAB) yn wahanol i athletau clwb.
Athletau Clwb
Grwpiau Oedran | Trac a Maes | Digwyddiadau Dygnwch Gaeaf |
Dan 11 oed (Nofis) | Blwyddyn Ysgol 4+5 | Blwyddyn Ysgol 4,5+6. Rhaid bod yn 9 oed neu'n hun ar ddiwrnod y cystadleuaeth |
Dan 13 oed | Blwyddyn Ysgol 6+7 | Blwyddyn Ysgol 7+8 |
Dan 15 oed | Blwyddyn Ysgol 8+9 | Blwyddyn Ysgol 9+10 |
Dan 17 oed | Blwyddyn Ysgol 10+11 | Blwyddyn Ysgol 11+12 |
Dan 20 oed | | |
Athletau Ysgolion
Grŵp Oedran | Trac a Maes |
Dan 14 oed | Blwyddyn Ysgol 6,7+8 |
Dan 16 oed | Blwyddyn Ysgol 9+10 |
Dan 18 oed | Blwyddyn Ysgol 11+12 |
Bydd rhagor o ddigwyddiadau yn ymddangos ar y dudalen hon pan fyddant ar gael. Cysylltwch â pwarwicker@cardiffmet.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gemau.
Canlyniadau Cystadlaethau
Mae Powerof10 yn cronfa ddata canlyniadau. Bydd gan unrhyw athletwr sy’n gofrestredig ag Athletau Cymru ac yn cystadlu mewn cystadlaethau trwyddedig ei broffil ei hun, gan greu hanes eu perfformiadau. Bydd unrhyw athletwr sydd yn cyrraedd targedau perfformiad Powerof10 hefyd yn cael eu canlyniadau wedi ychwanegu at safleoedd Cymru a’r DU.
Ceir fynediad i wefan Powerof10 yma: Power of 10
Cyfres Agored Gyfeillgar i Saethwyr Caerdydd
Mae Athletau Saethwyr Caerdydd yn cynnal Cystadleuaeth Agored Iau Gyfeillgar bob tymor ar gyfer ein haelodau ieuengaf (D9, D11 a D13 - blynyddoedd ysgol 2-7). Bwriad y digwyddiadau hyn yw annog cystadleuaeth mewn amgylchedd hwyliog a chyfeillgar.
Ni fydd y cystadlaethau hyn yn gymwys ar gyfer safleoedd Power of 10, ond maent yn eu lle er mwyn i’n hathletwyr ifanc gael profiad o gystadlu cyn camu i fyny i’n timau Cynghrair YDL y DU. Mae croeso hefyd i athletwyr o glybiau eraill De/Dwyrain Cymru gystadlu.