Rhaglenni Chwaraeon Iau
Mae Chwaraeon Met Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o academïau chwaraeon i blant 5 oed a hŷn. Mae pob academi yn rhedeg dros gyfnod o wyth i ddeuddeg wythnos yn ystod y tri thymor ysgol. Mae pob academi yn cael ei rhedeg o dan gyfarwyddyd ein hyfforddwyr chwaraeon cwbl gymwys (sydd wedi cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).
Archebwch a darganfyddwch ragor o wybodaeth ynghylch ein rhaglenni chwaraeon iau ar yr Ap Chwaraeon Met Caerdydd.
Mae Met Caerdydd yn gweithredu strwythur rhaglen o fewn y chwaraeon unigol. Mae'r strwythur hwn yn caniatáu datblygiad parhaus o fewn pob camp, o'r lefel sylfaenol hyd at ben elitaidd y sbectrwm.
Mae Chwaraeon Cymru wedi cydnabod ansawdd y rhaglenni datblygu hyn drwy ddyfarnu gwobr Sportsmatch i bob academi sydd wedi’i hanelu’n benodol at ddatblygu adran sylfaenol pob academi.
Dyddiadau'r Tymor
Mae hwn yn canllaw yn unig; gall dyddiadau amrywio ar gyfer gwahanol academïau:
- Medi i Ragfyr
- Ionawr i Fawrth
- Ebrill i Fehefin