Skip to content

Campws Agored

Met Sport Representative talking to 2 females, explaining what the facilities have to offer Met Sport Representative talking to 2 females, explaining what the facilities have to offer
01 - 02

Datblygu ymagwedd Gydweithredol at Chwaraeon, Gweithgaredd Corfforol a Darpariaeth Iechyd ar gyfer Rhanbarth Dinas Caerdydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Beth yw Campus Agored?

​Campws Agored Caerdydd Met yw ffordd gydweithredol o weithio i ddarparu cyfleoedd chwaraeon, gweithgaredd corfforol, chwarae awyr agored, ac iechyd a lles o fewn rhanbarth dinas Caerdydd a thu hwnt.

Mae Campws Agored yn gweld staff a myfyrwyr y brifysgol yn gweithio ar y cyd gyda’r gymuned i gynhyrchu cyfleoedd ar gyfer budd cilyddol gan ddarparu profiadau dysgu dilys trwy chwaraeon, i ddatblygu Caerdydd ymhellach fel Prifddinas chwaraeon, gweithgaredd corfforol ac iechyd. Rydym yn cydweithio i greu profiadau cadarnhaol i fyfyrwyr a’r gymuned.

Yr hyn sydd yn gwneud Campws Agored yn unigryw ac yn arweinydd y sector yw aliniad y prosiect gyda chwricwlwm y Brifysgol. Caniateir hwn i ni gynnig gweithgareddau am ddim a gyda thâl i bartneriaid ar ac oddi ar y campws, yn gysylltiedig â chanlyniadau graddau myfyrwyr ac ymchwil academaidd.

Effaith

Gwobrau Rhaglen Campws Agored

Gweithio gyda Ni

Partneriaid Dibynadwy ar y Campws

Mae partneriaid ar gampws yn darparu gwasanaethau a chyfleoedd i’r gymuned ar gampws ac oddi ar gampws. Mae partneiriaid ar gampws yn dosbarthu cyfleoedd trwy leoliadau i fyfyrwyr wedi’u cyd-gynllunio rhwng darparwr y lleoliad gwaith ac Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Trwy’r cydweithio hwn mae’r prifysgol yn gallu cynyddu iechyd a gweithgaredd corfforol y cyhoedd.

Partneriaid Dibynadwy oddi ar y Campws

Mae partneriaid oddi ar gampws yn darparu gwasanaethau a chyfleoedd i’r gymuned oddi ar y campws. Mae partneriaid oddi ar gampws yn cyd-ddylunio lleoliadau gwaith i fyfyrwyr gyda chymorth yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Trwy drochiad y gweithle mae myfyrwyr yn datblygu EDGE Met Caerdydd (Sgiliau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd), gwybodaeth, profiad, hyder ac ystwythder. Caiff myfyrwyr eu cysylltu i brofiadau dysgu dilys trwy ddarpariaeth, gwerthisiad, dadansoddiad a beirniadaeth o brosiectau. Gall y myfyriwr hefyd ddatblygu syniadau a mentrau newydd i fodloni amcanion y partneriaid.​

Dull Cyd-gynllunio

Trwy gyfrwng modiwlau, lleoliadau, digwyddiadau, prosiectau, ymchwil neu ddulliau sy'n seiliedig ar arloesi wedi'u cyd-gynllunio, gall Prifysgol Met Caerdydd gyfrannu at ddarparu chwaraeon a gweithgarwch corfforol untro neu flynyddol o safon fyd-eang ar y campws neu yn y ddinas. Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae myfyrwyr yn tynnu ar eu cyfalaf deallusol ar bob cam o gynllunio, cyflwyno a gwerthuso digwyddiadau gan ddod â gwerth i'r gymuned leol, tra'n elwa o'r profiadau gweithle dilys sy'n hanfodol wrth ddatblygu sgiliau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd.

Cysylltu â Ni

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r cwricwlwm, trwy leoliadau neu ddigwyddiadau proffesiynol, cysylltwch â ni ar: opencampus@cardiffmet.ac.uk.​​

Cyfleusterau o’r Radd Uchaf

Un o fanteision allweddol Campws Agored yw’r cyfle i bobl o gymunedau lleol gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar Gampws prifysgol ac yn rhai o gyfleusterau gorau’r DU.

Llais Myfyrwyr

Guillermo:

Mae Campws Agored yn rhoi cyfle i ni fel myfyrwyr i ymgymryd â hyfforddiant go iawn er mwyn cael profiad ac i ddysgu ohono. Mae wedi rhoi'r offer i mi fod yn fwy hyblyg a pharod wrth gynllunio a dod i mewn i sesiwn. Rwyf wedi cyfrannu drwy gymryd rhan yn y sesiynau cymaint â phosibl i siapio fy nysgu a rhoi’r profiad gorau posibl i fyfyrwyr y dyfodol.

Connor:

Mae campws agored wedi bod o fudd i mi gan fy mod yn gallu rhoi’r pethau rwy’n eu dysgu yn y wers ar waith sydd wedi fy ngalluogi i wella fy hyfforddi a rhoi profiad gwerthfawr i blant mewn gwahanol chwaraeon. Rwy'n mwynhau bod yn rhan o gampws agored gan fy mod yn gweld ei fod yn rhoi lle i ni fel hyfforddwyr allu gwella ein hyfforddi mewn amgylchedd egnïol gyda gwahanol fathau o hyfforddwyr.
Mae hefyd yn rhoi cyfle i ni hyfforddi mewn gwahanol chwaraeon yn hytrach na’n chwaraeon naturiol ni. Rwy’n teimlo fy mod wedi helpu’r gymuned gan ein bod yn rhoi cyfleoedd i’r plant ddefnyddio cyfleusterau o safon fyd-eang gyda gwahanol fathau o hyfforddwyr sydd â phrofiadau gwahanol sy’n helpu’r plant i syrthio mewn cariad â chwaraeon mewn gwahanol ffyrdd.

Jack:

Rwy’n credu bod campws agored yn brofiad gwych i blant a hyfforddwyr fod yn rhan ohono. Mae campws agored wedi fy helpu i ddatblygu fy hyder a sgiliau mewn chwaraeon gan fy mod wedi dysgu sgiliau gwerthfawr iawn. Rwyf wedi cael profiad gwych yn hyfforddi plant o amgylch Caerdydd ac wedi fy helpu i ddatblygu fy mhrofiad hyfforddi sydd wedi bod o fudd i mi ddefnyddio’r profiadau hyn yn fy sesiwn yn y dyfodol ac yn fy rolau hyfforddi yn y dyfodol.
Yma ym Met Caerdydd rydym yn cynnig ystod wych o gyfleoedd chwaraeon newydd cyffrous a chyfleusterau chwaraeon gwych sydd o fudd mawr i ysgolion ddod i gymryd rhan mewn chwaraeon. Yn fy marn i, mae campws agored yn brofiad llawn hwyl i bawb sy’n cymryd rhan ac rwy’n argymell ysgolion yn fawr i gymryd rhan a dod â’u myfyrwyr am brofiad cyffrous a hwyliog ym Mhrifysgol Met Caerdydd.

Campws Agored: Aliniad Lleol, Rhanbarthol a Chenedlaethol

Mae’r ffordd y mae Campws Agored Met Caerdydd yn gweithio yn rhan annatod o strategaeth esblygol ymgysylltu â’r gymuned a chyfrifoldeb cymdeithasol y Brifysgol. Mae’n ymgorfforiad gweithredol o’n dull gweithredu sy’n cael ei yrru gan werthoedd, gan rymuso ein staff a’n myfyrwyr i ymgysylltu â’n cymunedau.

Trwy ddefnyddio ffordd Campws Agored o weithio, bydd ein cymunedau yn gywbod,  drwy greu partneriaethau dibynadwy, byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau trawsnewid addysgol, ymchwil ag effaith, twf economaidd cynaliadwy, cydlyniant cymdeithasol ac iechyd a lles. Yn hanfodol, mae Campws Agored hefyd yn ein galluogi i weithio mewn partneriaeth â’n myfyrwyr i sefydlu EDGE Met Caerdydd (Sgiliau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd) i helpu i ddatblygu hyder, gwytnwch a phrofiadau a fydd yn eu paratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol.

Mae dwy golofn allweddol sy’n sail i unrhyw brosiect Campws Agored:

  1. Rhaid i brosiectau Campws Agored roi gwerth i gymunedau drwy gynyddu maint ac ansawdd y cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon, gweithgarwch corfforol ac ymyriadau iechyd.
  2. Rhaid i brosiectau Campws Agored wella profiad myfyrwyr trwy ddarparu profiadau dysgu dilys sy'n gwella canlyniadau myfyrwyr ac yn gwella ansawdd graddedigion Met Caerdydd.​

Mae aliniad y ddau biler hyn yn allweddol i ddatblygu rhaglen a all sicrhau canlyniadau pwysig i Met Caerdydd a'n cymunedau. Mae enghreifftiau o'r ymrwymiad hwn i'w gweld yn y ffordd o weithio a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â Thîm Rheoli Addysg a Thîm Ysgolion Iach Cyngor Dinas Caerdydd, gan sicrhau bod gweithgareddau wedi'u targedu yn cael eu cynnig i'r rhai sydd â'r angen mwyaf.

Sut mae Campws Agored yn gweithio?

Yn y Cwricwlwm

Mae ystod o fodiwlau wedi'u nodi lle gellir ymgorffori cyfleoedd i ysgolion a grwpiau cymunedol yn y sesiynau sydd wedi'u hamserlennu. Bydd y sesiynau hyn i gyd yn digwydd o fewn y slotiau amser 10.00-12.00, 13.00-15.00 neu 15.00-17.00.​

Darperir sesiynau gan Fyfyrwyr Met Caerdydd o dan arweiniad ein staff academaidd a byddant yn rhedeg yn ystod amserlen academaidd Met Caerdydd, sy'n rhedeg o Hydref-Rhagfyr ac Ionawr-Mawrth. Bydd y gweithgareddau a gynigir yn amrywio ar draws rhaglenni academaidd chwaraeon ac iechyd.

Lleoliadau

Mae gan fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd yr opsiwn i ymgymryd â lleoliad dysgu seiliedig ar waith yn ystod eu hastudiaethau.

Gall ein lleoliadau amrywio o ran cwmpas o 80 i 400 awr yn hyblyg dros gyfnod o 12 mis.​

Mae gan fyfyrwyr yr opsiwn i ymgymryd â lleoliadau gwaith lluosog dros flynyddoedd olynol a chyfuno eu lleoliad â chyfleoedd dysgu eraill megis prosiectau estynedig. Bydd amrywiaeth eang o’n lleoliadau’n cael eu darparu trwy’r ffordd Campws Agored o weithio, gan ddarparu adnoddau pellach i helpu i gefnogi a datblygu cyfleoedd chwaraeon a gweithgaredd corfforol ar y campws neu o fewn eich ysgol neu sefydliad.

Digwyddiadau Unigryw​

Mae digwyddiadau unigryw yn defnyddio gweithgaredd o fewn y cwricwlwm a lleoliadau proffesiynol fel rhai sylfaenol a rhai sydd wedi'u hymgorffori yn natblygiad, darpariaeth ac adolygiad o ddigwyddiadau untro neu flynyddol. 

Trwy ddefnyddio adnoddau, seilwaith ac arbenigedd fel rhan o ymagwedd gydweithredol, dinesig tuag at chwaraeon, ymarfer corff, gweithgaredd corfforol, a digwyddiadau iechyd, rydym yn ychwanegu gwerth at gymunedau a phartneriaid lleol, tra'n creu cyfleoedd dysgu dilys i fyfyrwyr.

Nod y ffordd hon o weithio yw cyfrannu at gyflwyno digwyddiadau, yn ogystal â chyflawni canlyniadau dysgu modiwlau neu raglenni trwy gynllunio, cyflwyno ac adolygu digwyddiadau a gynhelir ar y campws neu unrhyw le ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

Prosiectau, Ymchwil ac Arloesiad

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig ymgymryd â phrosiectau, ymchwil, a gweithgareddau arloesi o fewn y cwricwlwm. Er enghraifft, dysgu seiliedig ar broblem fel dull addysgol, neu brosiectau ymchwil a menter yn eu blwyddyn olaf o astudio. Gall myfyrwyr ymgymryd â phrosiectau sy'n seiliedig ar bolisïau cyfredol, materion cymunedol a mentrau sy'n galluogi cyflawniad academaidd ac sy'n cael effaith gadarnhaol ar y gymuned.