Unedau Masnachol
Canolfan Arweinyddiaeth a Menter Greadigol
Mae'n cyflwyno hyfforddiant arweinyddiaeth o'r radd flaenaf i arweinwyr y dyfodol mewn sefydliadau’r sector preifat a'r sector cyhoeddus. Ymwelwch https://20twentybusinessgrowth.com/cy/
Dadansoddi Perfformiad
Mae'r Ganolfan yn cynnal amrywiaeth o brosiectau mewn cysylltiad â chyrff allanol i gefnogi eu hanghenion dadansoddol. Ymwelwch https://pure.cardiffmet.ac.uk/cy/organisations/sport-performance-analysis
Gwasanaethau Cynadledda
P’un a ydych chi’n cynnal cynhadledd fawr, cwrs hyfforddi, cyfarfod, arddangosfa neu ddigwyddiad chwaraeon, mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ystod eang o gyfleusterau a gwasanaethau ar gael, gyda staff cyfeillgar a phrofiadol wrth law i sicrhau bod eich digwyddiad yn llwyddiannus. I weld beth sydd gan Wasanaethau Cynadledda Prifysgol Metropolitan Caerdydd i’w gynnig, cliciwch yma.
Canolfan Hyfforddi Saesneg
Mae’n cynnig rhaglenni astudio arbenigol mewn Saesneg cyffredinol, Saesneg at ddibenion busnes ac academaidd, neu raglenni wedi'u teilwra. Am ragor o wybodaeth am y Ganolfan Hyfforddi Saesneg, cliciwch yma.
FabLab
Gweithdy yw FabLab Caerdydd sydd â'r dechnoleg gweithgynhyrchu digidol ddiweddaraf y gellir ei defnyddio gan ddylunwyr, artistiaid a'r cyhoedd, yn ogystal â chwmnïau a sefydliadau eraill. Wedi'i achredu gan y Rhwydwaith Fab byd-eang, gall defnyddwyr fanteisio ar waith ymchwil ac arbenigedd Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd i wneud bron popeth. Am ragor o wybodaeth dilynwch y ddolen isod: FabLab Caerdydd
Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Mae hwn yn cefnogi busnesau bwyd yn dechnegol ac yn weithredol, gan eu galluogi i gystadlu'n fwy effeithiol yn y farchnad fyd-eang. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'w gwefan allanol ar http://www.zero2five.org.uk.
PDR Canolfan Ryngwladol ar gyfer Dylunio ac Ymchwil
Y PDR yw un o'r canolfannau ymgynghori ar ddylunio ac ymchwil cymhwysol gorau yn y byd. Dysgwch fwy am y Ganolfan drwy ymweld â'n gwefan: www.pdr-design.com
Canolfan Astudiaethau Podiatreg Cymru
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch cshs@cardiffmet.ac.uk.