Partneriaeth Santander
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn rhan o rwydwaith Prifysgolion rhyngwladol Santander sy'n arbenigo mewn ariannu a chefnogi sefydliadau addysgol. Mae Santander wedi bod yn gweithio yn y sector addysg ers dros 25 mlynedd bellach ac mae'n cynnwys dros 1,400 o brifysgolion ledled y byd.
Ynglŷn â'r Bartneriaeth
Mae Prifysgolion Santander yn rhaglen fyd-eang unigryw ac arloesol sy'n cynnig cyfleoedd addysg, cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth i fyfyrwyr a gweithwyr prifysgol, a hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer tyfu a thrawsnewid busnesau newydd a BBaCh. O'r cychwyn cyntaf, mae Santander wedi buddsoddi mwy na €2 biliwn ac wedi dyfarnu dros 630,000 o ysgoloriaethau a grantiau.
Gyda phecyn o gefnogaeth ariannol ac o fath arall wedi'i deilwra, mae Santander wedi helpu myfyrwyr Met Caerdydd i hybu eu rhagolygon gyrfa trwy interniaethau â thâl neu deithio dramor; eu grymuso i ddod â’u syniadau busnes yn wir; a chefnogi eu dysgu gydag ysgoloriaethau a bwrsariaethau.
I gael gwybodaeth gyffredinol am y berthynas â Santander, cysylltwch â Matthew Taylor, Cyfarwyddwr Arloesi:
E-bost: mtaylor@cardiffmet.ac.uk