Ystafelloedd Lletygarwch
Cyfleuster cyfoes, pwrpasol yn adeilad yr Ysgol Reolaeth ar Gampws Llandaf. Mae gan yr ystafell ddodrefn hyblyg cyfforddus, golau dydd naturiol ac offer clyweled. Mae gan yr Ystafelloedd eu mynedfa bwrpasol eu hunain ac mae’r lolfa'n ddelfrydol ar gyfer gwasanaeth lletygarwch a rhwydweithio cyn neu ar ôl eich digwyddiad.
Gellir trefnu'r Ystafelloedd mewn arddull ystafell fwrdd, cabare neu theatr i weddu i'ch digwyddiad. Bydd cydlynydd cynadleddau penodedig yn eich croesawu a bydd wrth law yn ystod y dydd.
| Arddull Theatr | Ystafell Fwrdd | Cabaret | Ciniawa |
Ystafell A | 66 | 24 | 30 | 48 |
Ystafell B | 44 | 16 | 18 | 32 |
Yr holl ystafelloedd | 80 | 32 | 66 | 80 |