Cefnogaeth i Gyflogwyr
Mae’r Ganolfan Entrepreneuriaeth yn darparu cefnogaeth amrywiol i raddedigion a Chyn-fyfyrwyr Met Caerdydd. Mae ein holl gefnogaeth, a chyllid, ar gael am hyd at 2 blynedd ar ôl i chi raddio. Er mwyn cael mynediad i’n cefnogaeth bersonol, llenwch y ffurflen gofrestru hon a byddwn yn cysylltu â chi.
Pwy rydym yn cefnogi
Mae ein manifesto yn dweud eich bod chi yn diffinio llwyddiant, felly mae hynny’n golygu ein bod ni’n hapus i weithio gydag unrhyw raddedigion entrepreneuraidd. P’un a ydych chi eisiau gweithio’n llawrydd, datblygu eich portffolio artistig, dechrau elusen, creu busnes technoleg neu newid y byd, rydym am weithio gyda chi.
Os nad swydd gyda chyflogwr yw eich peth chi, dewch i fod yn fos eich hun gyda’n cymorth a’n cefnogaeth.
Dewch o hyd i'n cyfeiriad post yma.