Entrepreneuriaeth
Mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth a'n staff yn rhan o gymuned gydnerth, weithgar ac ymgysylltiol. Ein cenhadaeth yw eich galluogi i gydnabod a datblygu cyfleoedd i greu gwerth.
Ein Gweledigaeth
Byddwn yn ysbrydoli entrepreneuriaid i gael effaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang trwy greu gwerth cymdeithasol, diwylliannol ac ariannol.
Byddwn yn gweithredu fel catalydd wrth greu sefydliadau cynaliadwy newydd, gan roi'r hyder a'r sgiliau ymarferol i sylfaenwyr greu gwerth yn eu syniadau. Byddwn yn cael ein cydnabod yn genedlaethol am y gweithgaredd hwn.
Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd a byddwn yn hwyluso hyn trwy weithio ar y cyd â chydweithwyr academaidd i gefnogi addysg entrepreneuriaeth, sy'n ymgysylltu, yn grymuso ac yn cael ei arwain gan ymchwil.
Byddwn yn cyfrannu at gynhyrchu a chymhwyso ymchwil sy'n arwain y byd fel bod y brifysgol yn cael ei chydnabod fel canolfan ragoriaeth mewn addysg entrepreneuraidd, creadigrwydd entrepreneuriaeth, ac arloesedd.
Os oes gennych chi syniad am fusnes, neu eisiau cael sgwrs â chynghorydd am waith llawrydd gallwch gael mynediad at ein cefnogaeth drwy’r ffurflen syml hon.
Ariennir y Ganolfan yn rhannol trwy gefnogaeth garedig Llywodraeth Cymru a Syniadau Mawr Cymru. Darperir cyllid ar gyfer busnesau newydd a chystadlaethau gan Brifysgolion Santander.