Skip to content

Cydweithio ac Ariannu

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio ac yn annog ei staff i gymryd rhan mewn prosiectau sydd o fudd i gymunedau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Gyda phrofiad o reoli prosiectau bach a mawr, mae gan Met Caerdydd hanes cryf o gyflawni canlyniadau arloesol, sy'n cyflenwi buddion cymdeithasol ac economaidd.

Mae ein gwybodaeth a'n harbenigedd yn ymestyn ar draws llawer o ddiwydiannau amrywiol, o weithgynhyrchu i wasanaethau sy'n cwmpasu dylunio, chwaraeon, twristiaeth, rheolaeth, addysg ac iechyd.

Dyma nifer o ffyrdd y gallech chi weithio gyda ni:

Mae nifer o wasanaethau ar gael i fusnesau trwy Met Caerdydd, gan gynnwys:

Gall cael y cyngor cywir wneud byd o wahaniaeth rhwng llwyddo neu fethu. Yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd mae gennym arbenigedd sy'n cwmpasu lliaws o ddiwydiannau a all eich helpu i ddatblygu eich busnes gyda datrysiadau wedi'u teilwra ar eich cyfer drwy brosiectau ymgynghori a datblygu.

Mae gweithio gyda Met Caerdydd fel gwasanaeth ymgynghori yn ffordd wych o ddatblygu perthynas a gwella'ch prosesau, eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau. Gall ein pobl academaidd ar draws pum ysgol y Brifysgol a'n hunedau masnachol gefnogi busnesau drwy ddefnyddio’r arbenigedd sydd ganddynt i fynd i'r afael ag ystod amrywiol o heriau. Dim ond un o'r prif lwybrau ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth yw ymgynghori – mae’n cyflwyno buddion busnes go iawn sy'n tarddu o'n cryfderau ymchwil.

Sut y gall Gwasanaethau Ymchwil a Menter helpu​

Ar ôl cymryd yr amser i ddeall eich anghenion, bydd tîm y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi (RIS) yn nodi arbenigedd academaidd sy'n cyfateb i'ch anghenion. Mae rhai meysydd y gall RIS a’n hacademyddion eich helpu gyda nhw yn cynnwys:

  • ​Datblygu cynnyrch a/neu wasanaeth newydd
  • Ymchwil a datblygiad
  • Gwaith dadansoddi, profi a dilysu
  • Cyflenwi cyngor a barn arbenigol
  • Astudiaethau dichonoldeb a chwmpasu
  • Ymchwil i’r Farchnad
  • Mapio ffyrdd technoleg
  • Dylunio, prototeipio a swp-gynhyrchu

Os yw eich busnes yn wynebu her sy'n gofyn am wybodaeth nad yw'n bodoli eto, efallai y gall unigolyn academaidd o Met Caerdydd eich helpu i symud ymlaen drwy wneud gwaith ymchwil perthnasol ar eich rhan.

Gall y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi (RIS) nodi'r arbenigedd academaidd sydd ei angen arnoch a rhoi’r broses ar waith.

Mae nifer o gyfleoedd a ariennir ar gael sy’n amrywio o brosiectau cenedlaethol a rhyngwladol a ariennir, o ymchwil pur i fusnes sy’n ennyn gwaith ymchwil. Caiff y cynlluniau hyn eu hariannu’n bennaf drwy sefydliadau llywodraethol ac elusennau, ond hefyd drwy gyfleoedd cyllido mewnol yma ym Met Caerdydd. Trwy gydweithredu â busnesau gallwn sicrhau cyllid o'r cynlluniau hyn.

Dyma nifer o gyfleoedd cyllido i chi eu hystyried:


​​Rhaglen Partneriaethau Academaidd-Diwydiannol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Rhaglen Partneriaethau Academaidd-Diwydiant Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gyfle cyffrous i fusnesau â photensial uchel ddatgloi cyfleoedd twf newydd uchelgeisiol trwy bartneru ag arbenigedd Academaidd.

Dan arweiniad Prifysgol De Cymru, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, bydd y rhaglen yn hwyluso datblygiad cynhyrchion, gwasanaethau, technolegau, neu brosesau newydd neu well, gan feithrin arloesedd a thwf economaidd o fewn y rhanbarth trwy gyllid wedi'i dargedu. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen a'i nodau, cliciwch yma.

Os hoffech fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen, llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb neu gysylltwch ag aelod o’r tîm ar cdgp.aip@southwales.ac.uk.

Yr arbenigedd sydd ar gael:

Mae ystod o arbenigedd a chymorth ymyrraeth ar gael ar draws y tri sefydliad partner academaidd. Bydd prosiectau'n cael eu halinio â'r ganolfan a'r sefydliad academaidd perthnasol yn seiliedig ar yr adnoddau sydd ar gael a'r gallu i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau bryd hynny. Gweler PD​​R​ am enghreifftiau o'r cymorth y gall Prifysgol Metropolitan Caerdydd ei gynnig.


​Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)

Partneriaeth rhwng cwmni, prifysgol a myfyriwr graddedig (Cydymaith) yw KTP. Mae’r bartneriaeth yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni prosiect strategol ar gyfer y busnes na fyddai'r cwmni'n gallu ei wneud heb y wybodaeth a'r arbenigedd a ddarperir gan y Brifysgol. I gael rhagor o wybodaeth am KTPs dilynwch y ddolen isod:

  • Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth
  • Astudiaethau Achos Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth

Pwy all wneud cais? Cwmnïau bach a chanolog, elusennau, a chwmnïau mawr.


Partneriaethau SMART

Mae Partneriaethau SMART yn cynnig cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i brosiectau cydweithredol ac arloesol sydd angen cymorth arbenigwyr arnyn nhw i dyfu, i fod yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy cystadleuol.

Mae Met Caerdydd wedi cael nifer o brosiectau Partneriaeth SMART llwyddiannus ac mae rhai ohonynt wedi arwain at Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth. I weld rhai astudiaethau achos o'n prosiectau Partneriaeth SMART cliciwch isod:

Nod Partneriaethau SMART yw cefnogi prosiectau cydweithredol, gyda ffocws clir i gynyddu galluedd a galluoedd busnesau Cymru i ddatblygu ymchwil a datblygu. I gael rhagor o wybodaeth dilynwch y ddolen yma:


Cyllid Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil ac Arloesi

Gall tîm Swyddfa Ewropeaidd y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi weithio gyda chi i nodi unrhyw gyllid Ewropeaidd sydd ar gael ar gyfer cydweithio. I gael gwybod sut y gallwn eich helpu, cysylltwch â business@cardiffmet.ac.uk.

Pwy all wneud cais? Cwmnïau mawr a bach yn dibynnu ar y cyllid.