Skip to content

Astudiaethau Achos Arloesi


Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth rhwng Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Seven Oaks Modular

Yn yr astudiaeth achos hon mae Charlotte Hale, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Seven Oaks Modular yn siarad am y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gyda Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd a sut mae wedi bod yn hanfodol yn eu dechreuad arloesi ac wrth eu helpu i gyflawni arloesedd mewn unrhyw beth a wnânt.

I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaethau SMART, ewch i'r dudalen Cydweithio â Ni.

 


Partneriaeth SMART a'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth wedi'i graddio'n 'Da Iawn' rhwng Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Zest

Yn yr astudiaeth achos hon mae Rhys Hughes, Cyfarwyddwr P&A Group of Companies, yn siarad am sut y gwnaeth Partneriaeth SMART a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ac yna Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd eu helpu i gyrraedd eu nodau dylunio diwydiannol ac mae wedi rhoi’r hyder i’r cwmni i dod yn arweinydd marchnad yn y sector cynhyrchion gardd.

Yn ddiweddar, dyfarnwyd gradd 'Da Iawn' i'r KTP sydd wedi ei roi yn y 40% uchaf o holl brosiectau KTP.

I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaethau SMART, ewch i'r dudalen Cydweithio â Ni.


Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth rhwng Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Window Cleaning Warehouse

Yn y fideo hwn, mae Stephen Fox, sylfaenydd a chyfarwyddwr y Window Cleaning Warehouse, yn sôn am sut y bu i’r bartneriaeth PTG gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd eu helpu nhw i gyrraedd eu nodau dylunio diwydiannol gan roi mantais gystadleuol iddynt yn y farchnad. Rhoddodd y PTG y llwyfan a’r gefnogaeth iddynt i ddatblygu cynhyrchion newydd ar gyfer marchnad ryngwladol, gan ehangu eu busnes â chynnydd trosiant o un flwyddyn i’r llall o tua 25%.

Enillodd y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth hon Wobr Insider Business and Education Partnership yn 2017.


Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth rhwng Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Yard Digital

​​Yn y fideo hwn mae Paul Newbury, cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Yard, yn sôn am sut mae arloesi yn allweddol i lwyddiant eu busnes. Denodd model KTP Yard oherwydd bod yr hyn yr oeddent am ei gyflawni yn gymhleth ac yn llawn risg, ond gyda chefnogaeth cyllid KTP a gwybodaeth ac arbenigedd gwerthfawr Met Caerdydd, lleihawyd y risgiau ac roeddent yn gallu cadw eu busnes ar flaen y gad yn y farchnad. Esboniodd Paul “Prin yw’r ffyrdd gwell o gyflawni arloesedd na thrwy gydweithio yn y ffordd sydd gennym gyda Met Caerdydd.”

Derbyniodd y KTP hwn wobr Gradd A gan Innovate UK.


SMARTCymru & Partneriaeth SMART rhwng Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ac Agile Kinetic

Yn y fideo hwn mae Peter Bishop, Sylfaenydd Agile Kinetic, yn sôn am sut mae cyllid SMARTCymru a ddilynwyd gan bartneriaeth SMART gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi rhoi’r galluoedd iddynt na fyddent wedi’u cael fel arall.

Mae Dr Thanuja Mallikarachchi, Cyfarwyddwr Rhaglen BSc (Anrh) Cyfrifiadureg hefyd yn disgrifio sut y gall tîm Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Metropolitan Caerdydd gefnogi busnesau bach.

I gael gwybodaeth am ffyrdd y gall eich busnes gydweithio â Met Caerdydd gyda nifer o gyfleoedd wedi'u hesbonio gan gynnwys Partneriaeth SMART, ewch i'r dudalen Cydweithio â Ni.


Prosiect cydweithredol rhwyng Prifysgol Metropolitan University, Yard a Chyngor Dinas Caerdydd

Roedd prosiect DAPTEC yn bartneriaeth gydweithredol rhwyng Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Yard a Chyngor Caerdydd yn gweithio ar ffisegu data o Ynys Echni.

“Roedd y cydweithrediad rhwng yr arbenigwyr gwyddor data a’r technolegwyr creadigol yn hanfol ar gyfer y prosiect hwn.” Dr. Fiona Caroll, Ysgol Dechnolegau Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

"Roedd cynnal prosiect cydweithredol gyda nifer o wahanol bartneriaid wedi helpu i gyflawni nodau’r prosiect." Natalie Taylor, Arweinydd Tîm: Amgychwedd, Dŵr Daear, Contractau, Cyswllt Cymunedol ac Ynys Echni Cyngor Dinas Caerdydd.

I gael gwybodaeth am ffyrdd y gall eich busnes gydweithio â Met Caerdydd gyda nifer o gyfleoedd wedi'u hesbonio, ewch i'r dudalen Cydweithio â Ni.


Sut y gall y Ganolfan Entrepreneuriaeth ym Met Caerdydd gefnogi ein myfyrwyr a'n graddedigion i fod yn fwy entrepreneuraidd, enghraifft astudiaeth achos gyda Goggleminds

Mae Goggleminds yn creu senarios meddygol diogel, hygyrch a realistig heb risg mewn rhith-realiti i helpu hyfforddiant meddygol​ clinigol. Cawsant gefnogaeth i lansio eu busnes gan y Ganolfan Entrepreneuriaeth ym Met Caerdydd. Mae peth o'r cyngor wedi eu helpu i gyrraedd lle maen nhw nawr.

Mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth ym Met Caerdydd yma i gefnogi ein myfyrwyr a'n graddedigion i fod yn fwy entrepreneuraidd. Gallai hyn fod o'r cyfnod cynnar i ddatblygu sgiliau a phrofiadau hyd at raddedigion sy'n chwilio am gyllid i symud eu busnes i'r lefel nesaf. Mae'r tîm yn cynnig pecynnau cymorth hyblyg y gallant gael mynediad iddynt pan fydd ei angen arnynt.

Am ragor o wybodaeth o gymorth sydd ar gael, ewch i'r Ganolfan Entrepreneuriaeth.