Llety - Sut mae gwneud cais?
Er mwyn gwneud cais am neuaddau preswyl, bydd angen eich rhif adnabod Myfyriwr Met Caerdydd neu rif adnabod UCAS.
Os ydych yn dymuno derbyn Gwybodaeth Sector Preifat, cysylltwch â'r Gwasanaethau Llety yn uniongyrchol drwy e-bostio accomm@cardiffmet.ac.uk.
Mae Ceisiadau Neuaddau yn mynd yn fyw, ar-lein o’r 1af o Ebrill bob blwyddyn. Edrychwch ar y dudalen hon am yr eicon ‘Ymgeisiwch Yma’ i wneud cais.
Cam 1: Bydd angen eich rhif adnabod Myfyrwyr Met Caerdydd neu rif adnabod UCAS arnoch i gofrestru eich diddordeb.
Cam 2: Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn derbyn e-bost gyda'ch cyfrinair unigryw a fydd yn eich galluogi i wneud cais i'ch neuadd breswyl.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ychwanegu ein e-bost accomm@cardiffmet.ac.uk a accomoffers@cardiffmet.ac.uk fel ‘anfonwr diogel’. Bydd hyn yn atal e-byst sy'n mynd i'ch ffolder ‘Jynk’. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi'n defnyddio cyfeiriad Gmail.
Rydym yn argymell nad ydych yn defnyddio cyfeiriad e-bost Gmail. Defnyddiwch gyfeiriad e-bost personol, nid un ysgol oherwydd mae’n bosib nad fyddwch yn gallu cael mynediad ato ar ôl i chi adael.
Cam 3: Mynediad i'ch cais gyda'ch cyfrinair, cwblhewch yr adrannau perthnasol a chyflwynwch.
Ar ôl i chi gwblhau eich cais ar-lein, bydd yn cael ei anfon yn awtomatig i'r Swyddfa Llety. Byddwch yn derbyn e-bost cydnabyddiaeth y dylech ei gadw gan ei fod yn brawf o'ch cais. Bydd yr e-bost hwn yn rhestru eich dewisiadau a beth sy’n digwydd nesaf gyda’ch cais. Os nad ydych wedi derbyn e-bost cydnabyddiaeth o fewn 2 ddiwrnod, cysylltwch â'r Swyddfa Llety yn uniongyrchol drwy e-bostio accomm@cardiffmet.ac.uk.
Blaenoriaeth ar gyfer ystafell mewn Neuadd Breswyl
Rhoddir blaenoriaeth ar gyfer ystafell mewn neuaddau preswyl i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf. Wrth ddyrannu ystafelloedd, rydym yn ystyried y dyddiad y derbyniwyd y cais ar-lein am neuaddau preswyl, argaeledd llety a'r meini prawf cymhwysedd isod.
Bydd siaradwyr Cymraeg yn gallu rhoi gwybod i ni os yw'n well ganddynt fyw gyda chyd-siaradwyr Cymraeg. Yn dibynnu ar y galw, byddwn yn ymdrechu i fodloni'r dewis hwnnw.
Byddwn yn gwarantu lle i chi mewn llety a gymeradwyir gan y Brifysgol os ydych yn gwneud cais i fod yn fyfyriwr llawn amser ym Met Caerdydd am y tro cyntaf.
Mae rhaid i chi fodloni’r meini prawf canlynol ar gyfer cael llety gwarantedig:
- erioed wedi bod yn fyfyriwr llawn amser ym Met Caerdydd yn y gorffennol
- wedi derbyn cynnig o le ym Met Caerdydd a'n gwneud yn ddewis cyntaf drwy UCAS
- cyflwyno eich cais am lety i ni heb fod yn hwyrach na 31 Mai
- angen y llety ar gyfer y cyfnod gosod llawn fel un meddiannydd
- derbyn ein cynnig o lety, a thalu eich blaendal daliannol i ni, o fewn tri diwrnod o gyflwyno’r cynnig
- sicrhau bod gennym lety addas sy’n bodloni eisoes i ddiwallu eich anghenion
Er ein bod yn anelu at fodloni eich dewisiadau, ni allwn eu gwarantu. Mae galw uwch am rai lleoliadau a mathau o ystafelloedd nag eraill, felly rydym yn argymell eich bod yn ymgyfarwyddo â'r holl opsiynau sydd ar gael.
Yn anffodus, oherwydd y nifer cyfyngedig o neuaddau preswyl sydd ar gael, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n dychwelyd (gan gynnwys y rhai sydd wedi cwblhau blwyddyn sylfaen yn flaenorol) oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Dylai myfyrwyr Ôl-raddedig fod yn ymwybodol bod myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn byw mewn neuaddau yn bennaf, ac mae’n bosib na fydd neuaddau preswyl yn ffafriol i lwyth gwaith Ôl-raddedig. Nid oes gennym neuaddau ôl-raddedig pwrpasol.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd ymgeiswyr sydd â chynigion Diamod sydd wedi gwneud cais cyn 31ain Mai yn clywed cyn diwedd mis Gorffennaf ynglŷn â'u cynnig.
Bydd ymgeiswyr sy'n dal cynigion Amodol yn clywed yn dilyn y canlyniadau Safon Uwch, ar yr amod eich bod yn dod yn gynnig Diamod ar gyfer Met Caerdydd. Ni allwn gynnig llety i chi nes i chi ddod yn gynnig Diamod ar system UCAS ar gyfer cwrs Met Caerdydd.