Skip to content

Neuaddau Preswyl Preifat

Mae Met Caerdydd wedi sicrhau dros 1,200 o ystafelloedd gwely astudio en-suite mewn neuaddau preswyl breifat, y mae rhai ohonynt wedi’u lleoli’n agos at y campysau. Mae pob un o’r Neuaddau’n cael eu gwasanaethu’n rheolaidd gan wasanaethau Bws Caerdydd neu’n ddigon agos i gerdded i’r campws.

Mae gan Met Caerdydd berthynas hirsefydlog gyda phob un o’r neuaddau hyn, sy’n darparu llety modern sy’n gyfeillgar i fyfyrwyr am bris gostyngol.

Cofiwch, i sicrhau ystafell yn un o’r Neuaddau hyn bydd angen i chi wneud cais trwy ni yn unig! Peidiwch â gwneud cais yn uniongyrchol gan y bydd yn costio mwy, bydd gennych gontract hirach ac efallai na fyddwch yn byw gyda myfyrwyr Met Caerdydd.

Lleolir Unite Blackweir Lodge ger Campws Llandaf, gyda dros 400 o ystafelloedd a'r neuaddau a feddiannir gan fyfyrwyr Met Caerdydd yn unig. Mae pob un o’r ystafelloedd yn ystafelloedd sengl, sy’n hunanarlwyo ac sydd â chyfleusterau ystafell ymolchi en suite. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd, gyda setiau teledu yn y gegin/lolfa gymunedol. Gerllaw mae bwytai a siopau ac mae’n daith gerdded 10 munud i Ganol y Ddinas neu'n daith gerdded 25 munud i Gampws Llandaf.

Mae pob ystafell wely yn ystafelloedd deiliadaeth sengl sy’n hunanarlwyo, mae ganddynt ystafelloedd ymolchi en-suite a gwelyau 4 troedfedd o led.​

Blackweir Lodge, Caerdydd CF10 3EY
(25 munud o Gampws Llandaf)

  • Hunanarlwyo Ensuite 'Classic' - £157 yr wythnos
  • Hunanarlwyo Ensuite 'Premium 1' (ystafell fwy) -  £160 yr wythnos (nifer cyfyngedig)

CONTRACT 42 WYTHNOS

Yn addas ar gyfer myfyrwyr Met Caerdydd sy’n astudio yn Ysgol Reoli Caerdydd, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ac Ysgol Gwyddor Iechyd Caerdydd.

Gweld ar y Map

Gwefan: https://www.unitestudents.com/cardiff/blackweir-lodge

Mae North Court yn agos at Gampws Llandaf. Mae pob ystafell yn hunanarlwyo ac mae ganddynt gyfleusterau ystafell ymolchi en​suite. Myfyrwyr Met Caerdydd yn unig sy’n meddiannu dros 230 o ystafelloedd a’r neuaddau. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd. Gerllaw mae bwytai a siopau ac mae’n daith bws 10 munud i Ganol y Ddinas.

Mae pob ystafell wely yn ystafelloedd deiliadaeth sengl sy’n hunanarlwyo, mae ganddynt ystafelloedd ymolchi en-suite a gwelyau 4 troedfedd o led.

Mae yna hefyd nifer cyfyngedig o ystafelloedd deiliadaeth sengl gwely dwbl sy’n hunanarlwyo ac sydd ag ystafelloedd ymolchi ensuite.

Heol y Gogledd, Caerdydd CF14 3BA
(10 munud o Gampws Llandaf)

  • Hunanarlwyo Ensuite 'Premium 1' - £153 yr wythnos
  • Hunanarlwyo Ensuite 'Premium 2' (ystafell fwy) - £160 yr wythnos (nifer cyfyngedig)

CONTRACT 42 WYTHNOS

Yn addas ar gyfer myfyrwyr Met Caerdydd sy’n astudio yn Ysgol Reoli Caerdydd, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ac Ysgol Gwyddor Iechyd Caerdydd.

Gweld ar y Map

Gwefan: https://nowstudents.co.uk/location/cardiff/north-court/

Lleolir Unite The Bakery yng nghanol y ddinas. Mae pob ystafell yn hunanarlwyo ac mae ganddynt gyfleusterau ystafell ymolchi en suite. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd. Gerllaw mae cannoedd o fwytai, bariau a siopau ac mae’n daith gerdded 5 munud i ddal Bws Caerdydd 52 am Gyncoed neu Fws Caerdydd 25 ar gyfer Llandaf.

Mae pob ystafell wely yn ystafelloedd deiliadaeth sengl sy’n hunanarlwyo, mae ganddynt ystafelloedd ymolchi en-suite a gwelyau 4 troedfedd o led.

Heol Pendyris, Caerdydd CF11 6YY

  • Hunanarlwyo Ensuite 'Premium 1' - £145 yr wythnos

CONTRACT 42 WYTHNOS

Yn addas ar gyfer myfyrwyr Met Caerdydd sy’n astudio ar gampws Cyncoed neu Llandaf.

Gwefan: https://www.unitestudents.com/cardiff/the-bakery

Lleolir Unite Tŷ Pont Haearn (a elwir hefyd yn TPH) yng nghanol y ddinas. Mae pob ystafell yn hunanarlwyo ac mae ganddynt gyfleusterau ystafell ymolchi en suite. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd. Gerllaw mae cannoedd o fwytai, bariau a siopau ac mae’n daith gerdded 10 munud i ddal Bws Caerdydd 52 am Gyncoed neu Fws Caerdydd 25 ar gyfer Llandaf.

Mae pob ystafell wely yn ystafelloedd deiliadaeth sengl sy’n hunanarlwyo, mae ganddynt ystafelloedd ymolchi en-suite a gwelyau 4 troedfedd o led.

Heol Pellett, Caerdydd CF10 4FS

  • Hunanarlwyo Ensuite 'Premium 1' - £151 yr wythnos
  • Hunanarlwyo Ensuite 'Premium 2' (ystafell fwy) - £167 yr wythnos (nifer cyfyngedig)

CONTRACT 42 WYTHNOS

Yn addas ar gyfer myfyrwyr Met Caerdydd sy’n astudio ar gampws Cyncoed neu Llandaf.

Gwefan: https://www.unitestudents.com/cardiff/ty-pont-haearn

Lleolir Yugo Arofan House​ oddi ar Heol y Ddinas yn agos i ganol y ddinas. Mae pob ystafell yn hunanarlwyo ac mae ganddynt gyfleusterau ystafell ymolchi en suite. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd. O fewn pellter cerdded mae llawer o fwytai, bariau a siopau ac mae’n daith gerdded 6 munud i ddal Bws Caerdydd 52 am y daith 13 munud i Gampws Cyncoed.

Mae pob ystafell wely yn ystafelloedd deiliadaeth sengl sy’n hunanarlwyo, ac mae ganddynt ystafelloedd ymolchi en-suite.

Heol Vere, Caerdydd CF24 3DS

  • Hunanarlwyo Ensuite 'Standard' - £145 yr wythnos (dim ond chwech ar gael)
  • Hunanarlwyo Ensuite 'Classic' - £149 yr wythnos
  • Hunanarlwyo Ensuite 'Premium' (ystafell fwy) - £159 yr wythnos (nifer cyfyngedig)

CONTRACT 42 WYTHNOS

Yn addas ar gyfer myfyrwyr Met Caerdydd sy’n astudio ar gampws Cyncoed.

Gwefan: yugo.com/en-gb/global/united-kingdom/cardiff/arofan-house