Skip to content

Llety Myfyrwyr: Campws Cyncoed

Accommodation- cyncoed-header Accommodation- cyncoed-header
01 - 02

Lleoliad

Mae Neuaddau Cyncoed wedi’u lleoli mewn tiroedd wedi’u tirlunio ac yn cynnig y fantais o astudio, hyfforddi a byw ar y campws. Gwasanaethir y campws yn rheolaidd gan Fws Caerdydd 52, sy'n darparu cludiant cyfleus i ardaloedd myfyrwyr y Rhath a Cathays o fewn 10 munud, yn ogystal â chynnig trafnidiaeth i ganol dinas Caerdydd. Mae'r campws 10 munud ar droed o archfarchnad a Pharc y Rhath.

Heol Cyncoed, Caerdydd, CF23 6XD

Gweld ar y map

Ar Gampws Cyncoed

Mae'r campws yn cynnig cyfanswm o 549 o ystafelloedd fel a ganlyn:

  • Hunanarlwyo 'Classic' - 15 o ystafelloedd
  • Hunanarlwyo En-suite 'Classic' - 93 o ystafelloedd
  • Hunanarlwyo En-suite 'Classic Plus' - 36 o ystafelloedd
  • Hunanarlwyo En-suite 'Premium' - 78 o ystafelloedd
  • Arlwyo 'Classic' – 50 o ystafelloedd​
  • Arlwyo En-suite 'Premium' - 277 o ystafelloedd

Mae'r holl filiau wedi'u cynnwys yn eich rhent ac ni fydd yn cynyddu yn ystod y flwyddyn academaidd.

Pwy sy'n byw yma?

Yn addas ar gyfer myfyrwyr Met Caerdydd sy'n astudio Chwaraeon yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ac ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd*.

*Mae rhaglenni mewn Gwaith Cymdeithasol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Thai yn cael eu haddysgu ar gampws Llandaf. O'r herwydd mae Plas Gwyn yn opsiwn gwell i fyfyrwyr sy'n astudio'r cyrsiau hynny.

Cyfleusterau

  • WiFi AM DDIM yn y Neuaddau (HallsNet)
  • Teledu sgrin fflat AM DDIM yn y mwyafrif o Geginau
  • Yswiriant Cynnwys AM DDIM
  • Cyfleusterau Golchi
  • Digwyddiadau Bywyd Pres AM DDIM
  • Labordai Cyfrifiaduron 24/7
  • Arosfan Bws ar y Campws
  • Siop feiciau pob tywydd AM DDIM​
  • Bwyty a Chaffis y Campws
  • Cyfleusterau Chwaraeon gyda mynediad AM DDIM i'r Gampfa i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf
  • Bar Undeb y Myfyrwyr

Sut i wneud cais

Dysgwch sut i wneud cais a beth sydd ei angen arnoch i gwblhau eich cais ar-lein am neuaddau.

Beth yw'r opsiynau a chostau? - Campws Cyncoed

Mae’r campws hwn yn cynnig pum categori o lety, ac mae’r costau’n seiliedig ar y safon berthnasol, y cyfleusterau ychwanegol sydd ar gael, ac a ydych yn dewis opsiwn hunanarlwyo neu opsiwn arlwyo.

Wrth wneud cais am lety gallwch restru pa fath yr hoffech iddo gael ei ddyrannu yn nhrefn blaenoriaeth. Fodd bynnag, ni allwn bob amser warantu y byddwch yn cael eich dewis cyntaf.​

£152 yr wythnos – Cytundeb 40 wythnos

Yn cynnig un stydi, ystafell wely en-suite gyda mynediad i gegin a rennir, llawn offer. Mae pob fflat yn cael ei rannu gan 8 myfyriwr.​

£148 yr wythnos – Cytundeb 40 wythnos

£168 yr wythnos – Cytundeb 40 wythnos

Mae pob ystafell yn cynnwys ¾ gwely gydag en-suite a mynediad i gegin a rennir gyda chyfarpar llawn. Mae pob fflat yn cael ei rannu gan 8 myfyriwr.

£203 yr wythnos – Cytundeb 40 wythnos

Mae pob ystafell yn cynnwys gwely sengl gyda mynediad i gyfleusterau ystafell ymolchi a rennir a chegin sylfaenol a rennir. Rhennir pob fflat rhwng 8-10 o fyfyrwyr. Dyma ein dewis mwyaf gwerth am arian tra'n rhoi'r cyfleustra i chi o fod ar y campws ac yng nghanol ein cymuned myfyrwyr.

£224 yr wythnos – Cytundeb 40 wythnos

Mae pob ystafell yn cynnwys un ai gwely sengl neu ¾ gwely gydag ensuite a mynediad i gegin a rennir. Rhennir pob fflat rhwng 10-16 o fyfyrwyr.

*Neuaddau arlwyo = dau pryd o fwyd y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Llety Cyncoed

01 - 08
Hunanarlwyo Ensuite 'Classic'
Cycncoed-accommodation-video-placeholder-ensuite-classic
Hunanarlwyo Ensuite 'Classic Plus'
YouTube Thumbnail - Cyncoed Self-Catered Ensuite Classic Plus
Hunanarlwyo Ensuite 'Premium'
YouTube Thumbnail - Cyncoed Campus Self-Catered Ensuite Premium
Arlwyo 'Classic'
YouTube Thumbnail - Cyncoed Campus Catered Classic
Arlwyo Ensuite 'Premium'
YouTube Thumbnail - Cyncoed Campus Catered Ensuite Premium