Neuaddau Arlwyo
Mae opsiynau neuaddau wedi'i gynnig ar ein Campws Cyncoed yn unig.
Beth sydd wedi'i chynnwys?
Mae llety arlwyo yn cynnwys brecwast a swper 7 diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor!
Mae llawer o fyfyrwyr yn gweld yr opsiwn arlwyo yn hynod gyfleus, gyda dau bryd pwysicaf y diwrnod yn cael eu paratoi ar eich cyfer yn ein bwyty K1 ar gampws, sydd ond yn daith gerdded fer o'r neuaddau preswyl.
Opsiynau enghreifftiol (bwydlenni yn amodol ar argaeledd a newid trwy gydol y flwyddyn)
Brecwast
Dewis o sudd ffrwythau ffres, te neu goffi gyda naill ai brecwast cyfandirol neu unrhyw bump eitem o'n bwydlen brecwast poeth.
Cinio
Dewiswch o'n cinio dau cwrs gyda dewis o dri prif cwrs sy'n cynnwys opsiwn llysieuwr a fegan gyda dewis o llysiau a thatws ffres tymhorol. Daw eich pryd gyda dewis o de, coffi, diod meddal neu ddŵr.
Pam dewis neuaddau arlwyo?
- Gweithwyr proffesiynol yn coginio ar eich cyfer
- Bwyd iachus a maethol yn ddyddiol
- Diwrnodau â thema cyson i ddarparu amrywiaeth
- Osgoi siopa am fwyd ar gyllideb
- Mwynhau prydau gyda ffrindiau ac aelodau'r tîm
- Dim glanhau!
Gallwn hefyd ddarparu ar gyfer dietau arbennig. Cysylltwch â'n Tîm Llety am sgwrs bersonol o flaen llaw, neu drafodwch gyda'n tîm arlwyo pan fyddwch yn cyrraedd. Byddwn yn hapus i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud o fewn rheswm i gwrdd ag eich anghenion.
Eich fflat
Os dewiswch fyw mewn neuaddau arlwyo, bydd eich ystafell a fflat yn dal i roi mynediad i gegin sy'n cynnwys ardal cinio/byrbrydau, hob, microdon, tegell, yn ogystal ag amwynderau cegin safonol.