Skip to content

Llety Met Caerdydd

Smiling woman working at her desk with a laptop, taking notes in a bright office space. Smiling woman working at her desk with a laptop, taking notes in a bright office space.
01 - 02

Mae dod o hyd i’r lle gorau i fyw yn rhan allweddol o’ch profiad prifysgol. Ym Met Caerdydd, rydym yn cynnig opsiynau llety ar y campws ac opsiynau preifat sydd wedi'u cynllunio i ddarparu amgylchedd diogel, cymdeithasol a chefnogol.

Group of four students sitting on the grass, chatting and laughing outside a student accommodation building Group of four students sitting on the grass, chatting and laughing outside a student accommodation building

Beth rydyn ni'n ei gynnig

Ar hyn o bryd mae gennym bron i 1,000 o ystafelloedd gwely astudio ar gampysau Cyncoed a Phlas Gwyn. Rydym yn cynnig amgylchedd diogel ar gyfer myfyrwyr sydd yn byw ar y campws, gyda staff neuaddau cyfeillgar i ddarparu cymorth a'ch helpu trwy gydol eich amser gyda ni.

Yn ogystal, rydym hefyd yn dyrannu ychydig dros 1,200 o neuaddau en-suite preifat i fyfyrwyr trwy gytundebau enwebu gyda neuaddau preifat sydd wedi'u lleoli ger y campysau.

Dysgwch beth rydym yn ei gynnigDysgwch beth rydym yn ei gynnig
01 - 04
Cyncoed Campus halls of residence

Gyda 549 o ystafelloedd ar draws y campws. Yn cynnig cymysgedd o ystafelloedd arlwyo, hunanarlwyo, en-suite a chyfleusterau a rennir. Addas ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Chwaraeon, Addysg neu'r Dyniaethau.

Plas Gwyn campus halls of residence

Wedi'i leoli'n agos at gampws Llandaf gyda 392 o ystafelloedd en-suite hunanarlwyo. Yn addas ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Celf a Dylunio, Rheolaeth, Gwyddorau Iechyd a Thechnolegau.

Private halls of residence

Mae Met Caerdydd wedi sicrhau dros 1,200 o ystafelloedd gwely astudio en-suite mewn neuaddau preswyl breifat, y mae rhai ohonynt wedi'u lleoli'n agos at y campysau. Mae pob un o'r Neuaddau'n cael eu gwasanaethu'n rheolaidd gan wasanaethau Bws Caerdydd neu'n ddigon agos i gerdded i'r campws.

Accommodation Reslife Accommodation Reslife

Bywyd Pres

Nod ein rhaglen Bywyd Pres sydd wedi ennill gwobrau ac sydd AM DDIM yw gwneud byw mewn neuaddau yn un o brofiadau gorau eich bywyd prifysgol.

Mae ein calendr blwyddyn o hyd yn cynnwys digwyddiadau wythnosol wedi’i anelu at fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn neuaddau Met Caerdydd. Rydyn ni wedi rhoi tocynnau i'n myfyrwyr i gemau rygbi Cymru, sglefrio iâ, premières ffilm, yoga, nosweithiau pitsa, clybiau llyfrau, twrnameintiau FIFA, torri gwallt, tripiau dydd a nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol eraill.

01 - 04

Bywyd mewn Neuaddau

Student holding a burger speaking to video operator

Mae ein myfyrwyr yn dweud wrthym sut beth yw byw mewn neuaddau myfyrwyr yn y barbeciw diwedd blwyddyn a drefnwyd gan ResLife.

Holly speaks to the camera

Dyma ​Holly, myfyrwraig Astudiaethau Addysg Gynradd, yn sôn am sut brofiad yw byw mewn neuaddau myfyrwyr.

Student gives tour of the student accommodation

Dyma fyfyrwyr presennol Gavin a Sam gyda phopeth sydd angen i chi ei wybod am fywyd mewn llety myfyrwyr.

Jodie Edwards in front of the Cyncoed campus University accommodation

Mae Josie, myfyrwraig y Dyniaethau, yn blogio'i hawgrymiadau da ar gyfer byw yn neuaddau Cyncoed.

Ella James selfie in her University accommodation

Mae Ella, myfyrwraig Marchnata Ffasiwn, yn rhannu ei phrofiad o fyw yn neuaddau Plas Gwyn.

Meriem Jouti and friends take a selfie from over the camera lens

Mae Meriem, myfyriwr dyniaethau, yn blogio am ei chanllaw i ddewis llety a setlo i fywyd mewn gwlad newydd.

Diwrnodau Myfyrwyr Israddedig

Eisiau gweld ein hopsiynau llety yn bersonol?
Dewch i'n gweld mewn Diwrnod Agored.

Archebu eich lle