Cyrsiau Achrededig
I gofrestru ar y cyrsiau achrededig rhad ac am ddim canlynol, rhaid bod gennych lefel ofynnol o Saesneg, megis TGAU gradd C neu IELTS 6.0 neu gyfwerth.
Sylwer: Cyflwynir yr holl gyrsiau hyn trwy gyfrwng Saesneg.
Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (Modiwl Achrededig – Lefel 3, 10 Credyd Prifysgol)
Mae mwy a mwy o bobl yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau ond nid oes ganddynt y wybodaeth am y ffordd orau o gymryd rhan. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio fel cyflwyniad i’r rhai sy’n dymuno ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol mewn gwaith ieuenctid a chymunedol, a gweithio mewn cymunedau a gyda phobl ifanc rhwng 11-25 oed. Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n dymuno gofalu am eu cymuned ac sydd eisiau gwybod mwy, ac mae hefyd yn dda i weithwyr ieuenctid neu gymunedol heb fawr o brofiad astudio yn flaenorol. Ymhlith y themâu a fydd yn cael eu datblygu o fewn y cwrs mae: dysgu o brofiad, ymdopi mewn amgylchiadau newydd, a deall eraill. Bydd y cwrs hwn yn rhoi cipolwg ar y rolau a'r sgiliau sydd angen ar y rhai sy'n gweithio gyda phobl ifanc yn y gymuned. Byddwch yn nodi ac yn asesu gwahanol gymunedau ac yn diffinio cysyniadau ieuenctid a phobl ifanc.
Dyddiadau ac amserau
Dydd Mercher: 14 Mai - 9 Gorffennaf 2025
9:30yb - 12:30yp
Lleoliad: Railway Gardens, Sblot