Cofrestrwch am Daith Campws i archwilio ein cyfleusterau a gweld yr hyn sydd gan Met Caerdydd i’w gynnig.
Caiff Teithiau Campws eu harwain gan ein Llysgenhadon Myfyrwyr cyfeillgar ac maent hefyd yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am fywyd myfyrwyr ac astudio ym Met Caerdydd.
Mae ymgeiswyr wedi'u gwahodd i fynychu ein teithiau campws a llety, a gynhelir trwy gydol mis Ebrill ac wythnos gyntaf mis Mai. Os ydych yn ymgeisydd israddedig ar hyn o bryd, edrychwch ar eich e-byst am fanylion llawn a gwybodaeth ar sut i gofrestru. Os nad ydych wedi derbyn yr e-bost hwn, cysylltwch â Lois Edwards, drwy ledwards2@cardiffmet.ac.uk am gymorth.
I weld dyddiadau ein teithiau campws, edrychwch ar y ffurflen isod.