Skip to content

Cyn i Chi Wneud Cais

Cydnabyddir bod yr Adran Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd ymhlith y canolfannau addysg a hyfforddiant athrawon mwyaf yn y wlad. Mae gan yr Adran dros dri chant o fyfyrwyr, israddedig ac ôl-raddedig, a thair rhaglen wahanol o hyfforddiant cychwynnol ar gyfer athrawon. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau’r adran ar eu blog a Twitter.

I ddarganfod pa raglen sydd fwyaf addas i chi, gweler y wybodaeth ar y tudalennau isod:

Rydym hefyd yn cynnig:

Rydym yn falch o warantu mynediad i'r broses gyfweld ar gyfer y cwrs TAR Cynradd​ ym Met Caerdydd ar gyfer holl raddedigion y rhaglenni Addysg/Blynyddoedd Cynnar. Mae angen gradd anrhydedd 2:2 neu uwch ar hyn o bryd, a rhaid cwrdd â'r gofynion mynediad statudol (gan gynnwys graddau C neu gyfwerth mewn TGAU Saesneg a Mathemateg, gradd C mewn Gwyddoniaeth). Rhaid i fyfyrwyr ein rhaglenni BA sicrhau eu bod yn cyflwyno eu cais mewn pryd i gael eu hystyried, cyn i'r cwrs gau.​​

Pan fyddwch wedi penderfynu gwneud cais am un o'n rhaglenni TAR, bydd angen i chi wneud cais trwy UCAS - Israddedig.

Mae'r broses ymgeisio ar agor o fis Medi, y flwyddyn cyn i chi ddechrau eich cwrs. Bydd rhaglenni TAR ar agor ar gyfer ceisiadau tan o leiaf y dyddiad cau cychwynnol ym mis Ionawr, ac yn dibynnol ar leoedd gwag am weddill y cylch hyd nes y bydd y cwrs yn dechrau. Ar gyfer 2025, y dyddiad cau cynnar ar gyfer gwneud cais yw Ionawr 29ain 2025. Bydd cyrsiau sy'n dod yn llawn ar ôl y dyddiad cau cychwynnol ar UCAS fel na ellir derbyn unrhyw geisiadau.​

TAR Cynradd

Rhaid i chi gael o leiaf 10 diwrnod o brofiad perthnasol ar draws yr ystodau oedran cynradd a gwblhawyd o fewn y 12 mis cyn mynychu'r cyfweliad. Mae angen manylu ar hyn ar eich cais UCAS. Mae'r manylion llawn ar dudalen cwrs TAR Cynradd.

TAR Uwchradd

Gall gofynion profiad amrywio, yn dibynnu ar y pwnc y gwnaed cais amdano. Os ydych chi'n gwneud cais am TAR AG Uwchradd, bydd angen i chi fanylu ar gryn dipyn o brofiad gwaith mewn adran AG mewn ysgolion uwchradd, a ddylai yn ddelfrydol fod yn ysgol wahanol i'r un a fynychwyd gennych. Ceir manylion llawn ar dudalen cwrs TAR Uwchradd.

Mae gennym ni amrywiaeth o ddigwyddiadau agored a diwrnodau blasu trwy'r flwyddyn lle gallwch chi ddarganfod mwy o wybodaeth am ein rhaglenni TAR. Am y wybodaeth ddiweddaraf ac i ddod o hyd i ddyddiad perthnasol i ymweld â ni.

Dyledwyr

Bydd y rhai sydd mewn dyled i'r Brifysgol a sy'n gwneud cais newydd yn cael eu hystyried ar yr amod bod y gofynion mynediad yn cael eu bodloni, yn cael cynnig lle. Fodd bynnag, bydd y cynnig hwn yn dibynnu naill ai ar glirio'r ddyled cyn dechrau'r rhaglen, neu drwy ddod i gytundeb ynghylch talu gyda Cyllid.

Gall ymgeiswyr gysylltu â Cyllid ynghylch dyled sy'n ddyledus naill ai drwy:

Ceir gwybodaeth bellach am Bolisi a Gweithdrefn Dyledwr y Brifysgol, cliciwch yma.

Sefyllfa Academaidd Anffafriol

Disgwylir i ymgeiswyr sydd wedi gadael y Brifysgol dan gwmwl academaidd h.y. heb gwblhau'r flwyddyn astudio y cawsant eu cofrestru arni, hysbysu'r Uned Dderbyn wrth ystyried ailymgeisio, cyn cyflwyno cais. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried unwaith y bydd y wybodaeth am y statws academaidd gwael wedi'i derbyn a'i gwirio. Caiff ymgeiswyr eu hystyried unwaith y bydd y wybodaeth am y statws academaidd anffafriol wedi'i derbyn a'i gwirio. Gwneir y penderfyniad terfynol ar dderbyn gan y ddau Gyfarwyddwr Rhaglen sy'n ymwneud â'ch astudiaeth flaenorol ac arfaethedig.